1Ac yn y ddeu nawfed flwyddyn i’r brenin Ieroboam, y dechreuodd 1.Bren.15.1.Abiiah deyrnasu ar Iuda.
2Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem, ac enw ei fam ef* Michaiahu merch Uriel o Gibea: a bu ryfel rhwng Abiiah ac Ieroboam.
3Ar Abiiah a gydiodd y rhyfel a llu o ryfel-wŷr cedyrn pedwar cant mîl o wŷr etholedig: ac Ieroboam a luniaithodd yn ei erbyn ef ryfel, ag ŵyth gant mîl o wŷr etholedig, cedyrn nerthol.
4Ac Abiiah a gyfododd oddi ar fynydd Zemaraim yr hwn ym mynydd Ephraim: ac a ddywedodd, ô Ieroboam, a holl Israel gwrandewch fi.
5Oni i chwi ŵybod mai Arglwydd Dduw Israel a roddodd y frenhiniaeth i Ddafydd ar Israel yn dragywydd: iddo ef ac iw feibion drwy gyfammod hâlen?
6Etto Ieroboam mab Nabat gwâs Salomon fab Dafydd a gyfododd, ac 1.Bren.11.26.a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd.
7Ac ofer ddynion meibion y fall a ymgasclasant atto ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Salomon: a Rehoboam oedd 1.Bren.12.31.fachgen, a gwann ei galon, ac nid ymgadarnhaodd efe iw herbyn hwynt.
8Ac yn awr yr ydych yn meddwl i chwi ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr Arglwydd yn llaw meibion Dafydd: am eich bod yn dyrfa fawr, a gyd a chwi y lloi aur y rhai a wnaeth Ieroboam yn dduwiau i chwi.
9 Lefit.26.36. 1.Bren.12.31. Oni yrrasoch ymmaith offeiriaid yr Arglwydd, sef meibion Aaron, a’r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnac sydd yn dyfod im gyssegru, a bustach ieuangc, ac a saith o hyrddod, hwnnw fydd yn offeiriad i’r nid dduwiau.
10Ninnau’r Arglwydd ein Duw, ac nis gwrthodasom ef: a’r offeiriaid y rhai ydynt yn gwasanaethu’r Arglwydd meibion Aaron, a’r Lefiaid yn gorchwyl.
11Ac y maent hwy yn llosci i’r Arglwydd boeth offrymmau bob boreu, a phob hwyr, ac arogl-darth aroglbêr, ac trefn y bara ar y bwrdd pur, a’r canhwyll-bren aur ai lusernau i losci bob prynhawn, canys yr ydym ni yn cadw gorchwyliaeth yr Arglwydd ein Duw: ond chwi ai gwrthodasoch ef.
12Ac wele y Duw hwn yn bennaf gyd a ni, ai offeiriaid ef, ac vdcyrn soniarus i vdcanu yn eich erbyn chwi: ô feibion Israel nac ymleddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau, canys ni lwyddwch chwi.
13Ond Ieroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod oi hôl hwynt: felly oeddynt o flaen Iuda, ar cynllwyn o’r tu ôl iddynt hwy.
14Yna Iuda a edrychasant, ac wele ryfel iddynt ym mlaen, ac yn ôl, a hwynt a waeddasant ar yr Arglwydd: a’r offeiriaid a leisiasant mewn vdcyrn.
15A gwŷr Iuda a floeddiasant: a phan waedoodd gwŷr Iuda, yna Duw a darawodd Ieroboam, a holl Israel o flaen Abiiah ac Iuda.
16A meibion Israel a ffoasant o flaen Iuda: a Duw ai rhoddodd hwynt iw llaw hwynt.
17Ac Abiiah ai bobl ai tarawsant hwy a phlâ mawr: fel y syrthiodd yn archolledic o Israel bump cant mil o wŷr etholedig.
18Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hynny: a meibion Iuda a gryfhasant, o herwydd pwyso o honynt hwy ar Arglwydd Dduw eu tadau.
19Ac Abiiah a erlidiodd ar ôl Ieroboam, ac a ddûg oddiarno ef ddinasoedd, fel Bethel ai phentrefydd, ac Iesanah ai phen-trefydd, ac Ephron ai phen-trefydd.
20Ac ni ennillodd Ieroboam nerth mwyach yn nyddiau Abiiah: ond yr Arglwydd ai tarawodd ef fel y bu efe farw.
21Ond Abiiahu a ymgadarnhaodd, ac a gymmerth iddo bedair ar ddêc o wragedd: ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac vn ar bymthec o ferched.
22A’r rhan arall o hanes Abiiah, ai ffyrdd ef, ai eiriau: y maent yn scrifennedic yn llyfr y prophwyd Ido.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.