1Pan fynegasant hwy i Ddafydd gan ddywedyd: wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila, ac y maent hwy yn anrheithio’r yscuborau:
2Yna y gofynnodd Dafydd i’r Arglwydd gan ddywedyd, a âfi, ac a darawaf y Philistiaid hynn? a’r Arglwydd a ddywedodd wrth Ddafydd, dôs, a tharo y Philistiaid, ac achub Ceila.
3A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, wele ni yn ofnus ymma yn Iuda: pa faint fwy os awn i Geila yn erbyn byddinoedd y Philistiaid?
4Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd a’r Arglwydd, a’r Arglwydd ai hattebodd ef: ac a ddywedodd: cyfot, a dos i waredi Geila, canys myfi sydd yn rhoddi y Philistiaid yn dy law di.
5A Dafydd ai wŷr a aethant i Geila, ac a ymladdodd a’r Philistiaid, ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac ai tarawodd hwynt a phlâ mawr: felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila.
6(A bu pan Pen.22.20.ffoawdd Abiathar mab Ahimelec at Ddafydd i Geila, ddwyn o honaw ef Ephod yn ei law)
7A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Geila: a dywedodd Saul, Duw ai rhoddes ef yn fy llaw i, canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas a phyrth ac a barrau
8Yna Saul a gyhoeddodd ryfel i’r holl bobl: gan fyned i wared i Geila i warche ar Ddafydd, ac ar ei wŷr ef.
9Pan wybu Dafydd fod Saul yn bwriadu iw erbyn ef y drwg hwn: yna efe a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, dŵg yr Ephod.
10Yna y dywedodd Dafydd, ô Arglwydd Dduw Israel, gan glywed y clybu dy wâs fod Saul yn ceisio dyfod i Geila i ddestruwio y ddinas er fy mwyn i.
11A ddyru arglwyddi Ceila fi yn ei law ef? a ddaw Saul i wared megis y clybu dy wâs di? ô Arglwydd Dduw Israel mynega attolwg i’th wâs: a’r Arglwydd a ddywedodd, efe a ddaw i wared.
12Yna y dywedodd Dafydd, a ddyru arglwyddi Ceila fyfi a’m gwŷr yn llaw Saul? a’r Arglwydd a ddywedodd, rhoddant.
13Yna y cyfododd Dafydd ai ddynion, yng-hylch chwe chant o wŷr, ac a aethant o Geila, ac a rodiasant lle y gallasant: a mynegwyd i Saul fod Dafydd wedi diangc o Geila, ac efe a beidiodd a myned.
14A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddeffynfeudd, ac a arhôdd mewn mynydd yn anialwch Ziph: a Saul ai ceisiodd ef bob dydd, ond ni roddes Duw ef yn ei law ef.
15Yna y gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei enioes ef: a Dafydd yn anialwch Ziph mewn coed.
16Yna Ionathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Ddafydd i’r coed: ac ai cynnorthwyodd ef yn Nuw.
17Dywedodd efe hefyd wrtho ef, nac ofna: canys llaw Saul fy nhâd ni’th gaiff di, a thi a deyrnasi ar Israel, a minne a fyddaf yn nessaf ar dy ôl di, a Saul fy nhad sydd yn gŵybod hyn hefyd.
18Felly hwynt ill dau a wnaethant gyfammod ger bron yr Arglwydd: a Dafydd a arhosodd yn y coed, ond Ionathan a aeth ymmaith iw dŷ ei hun.
19Yna y daeth y Ziphiaid i fynu at Saul i Gibea gan ddywedyd: onid yw Dafydd yn ymguddio gyd a ni mewn amddeffynfeudd yn y coed, ym mryn Hachila yr hwn o’r tu dehau i’r diffaethwch?
20Ac yn awr ô frenin tyret i wared yn ôl holl ddymuniad dy galon: a arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin.
21Yna y dywedodd Saul, bendigedic chwi i’r Arglwydd: canys tosturiasoch wrthif.
22Ewch attolwg, parattoiwch etto, mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gynniwerfa ef lle y mae efe yn trammwyo, phwy ai gwelodd ef yno: canys dywetpwyd i mi ei fod efe yn gyfrwys iawn.
23Edrychwch gan hynny, a gwybyddwch yr holl lochesau y rhai y mae efe yn ymguddio ynddynt, a dychwelwch attafi a siccrwydd, fel yr elwyf gyd a chwi: ac os bydd efe yn y wlad, chwiliaf am dano ef drwy holl filoedd Iuda.
24Yna y cyfodasant hwy, ac yr aethant i Ziph o flaen Saul: ond Dafydd ai wŷr yn anialwch Maon, mewn rhos o’r tu dehau i’r diffaethwch.
25Saul hefyd a aeth ai wŷr iw geisio a mynegwyd i Ddafydd, am hynny efe a ddaeth i wared i’r graig, ac a arhosodd yn anialwch Iosua 15.55.Maon: pan glybu Saul yna efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon.
26A Saul a aeth o’r naill du i’r mynydd, a Dafydd ai wŷr o’r tu arall i’r mynydd: ac yr oedd Dafydd yn bryssio i fyned ymmaith oddi wrth Saul: canys Saul ai wyr ef a amgylchynasent Dafydd, ai wŷr, iw dala hwynt.
27Yna cennad a ddaeth at Saul gan ddywedyd: bryssia a dôs, canys y Philistiaid a ruthrasant ar y wlâd.
28Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd, ac efe a aeth i gyfarfod a’r Philistiaid: herwydd hynny y galwasant y fann honno Sela Hamahlecoth.
29 A Dafydd a aeth i fynu oddi yno: ac a arhosodd yn amddeffynfeudd Iosua.15.62.En-gedi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.