1A’ rhyfeddod mawr a ymddangosodd yn y nêf, gwraig wedi ei gwisco â’r haul, a’r lleuad tann ei thraed, ac ar ei phen coron o ddeuddec seren,
2Ac yr ydoedd hi yn feichiog, ac hi a lefodd gan drafaelu ar ei thymp, a hi a ddoluriodd yn barod i escor.
3A rhyfeddod arall a ymddangosodd yn y nêf, ac wele, ddraig goch fawr â saith ben iddi, a dêc corn, a saith goron ar ei phennau.
4A’i chynffon hi a dynnod draian sêr y nêf, ac a’u bwriodd hwynt i’r ddaiar, a’r ddraig a safodd ger bron y wraig, yr hon ydoedd yn barod i escor, i ddifa ei phlentyn hi, pan escore hi,
5Ac hi a escorodd ar fab gwryw, yr hwn a fugeilie yr holl genhedloedd â gwialen haiarn, a’i mâb a gymmerwyd i fynu at Dduw ai orseddfaingc,
6A’r wraig a giliodd i’r diffaethwch, lle y mae man wedi i Dduw ei baratôi iddi, fel y gallent ei phorthi hi yno fîl a thrugain â deucant o ddyddiau.
7 A rhyfel oedd yn y nêf, Mihangel a’i angelion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a’r ddraig a refelodd â’i angelion ef.
8Ond ni orchfygasant, ac ni chafwyd eu lle hwynt o hynny allan yn y nêf.
9A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hên sarph, yr hon a elwir diafol, a Satan, yr hwn sydd yn tywyllo’r holl fŷd, efe a fwriŵyd i’r ddaiar, a’i angelion a fwriŵyd allan gyd ag ef.
10Ac mi a glywais lais vchel yn dywedyd yn y nef, yr awr hon y mae iechyd, a nerth a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef, canys cyhuddŵr eini brodyr ni a fwriwyd i’r llawr, yr hwn ydoedd yn eu cyhuddo hwynt ger bron ein Duw ddydd a nôs.
11Ac hwy a’i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu testiolaeth hwynt, ac ni charasant eu bywyd hyd farwolaeth.
12Am hynny llawenhêwch y nefoedd, a’r sawl sy yn trigo ynddynt hwy: gwae y rhai sy yn trigo ar y ddaiar, a’r môr, canys diafol a ddescynnodd attoch chwi, yr hwn sydd a llîd mawr ganddo, o herwydd gŵybod mai ychydig amser sydd iddo ef.
13A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaiar, ymlid a wnaeth hi y wraig a escorodd ar y mâb.
14A dwy aden eryr mawr a roddwyd i’r wraig, fel yr ehede hi i’r diffaethwch, iw lle ei hun, lle yr ydys yn ei magu hi tros amser, ac amseroedd, a hanner amser, rhag ŵyneb y sarph.
15A’r sarph a fwriodd o’i safn allan ar ôl y wraig ddwfr fel afon, ar fedr cael ei dwyn hi ffwrdd gyd â’r afon.
16A’r ddaiar a helpiodd y wraig, a’r tîr a agorodd ei enau, ac a lyngcodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o’i safn.
17A llidio a wnaeth y ddraig wrth y wraig, a myned i ryfel yn erbyn gweddillion ei hiliogaeth hi, y rhai ydynt yn cadw gorchymynnion Duw, ac sy â thestiolaeth Iesu Grist ganddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.