2.Cronicl 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Y Cyngor yr hwn a ddilynodd Rehoboam yn peri iddo ef golli dêc o ddeuddec llwyth Israel.

1Yna Rehoboam a aeth i Sichem: 1.Bren.12.1.canys i Sichem y daethe holl Israel iw vrddo ef yn frenin.

2Pan glybu Ieroboam mab Nabat, (ac yntef yn yr Aipht lle y ffoase efe o ŵydd Salomon y brenin) yna Ieroboam a ddychwelodd o’r Aipht.

3Canys hwynt a anfonasent, ac a alwasent am dano ef, ac Ieroboam a ddaeth a holl Israel: a hwy a ymddiddanasant a Rehoboam gan ddywedyd,

4Dy dâd ti a wnaeth ein iau ni yn drom: yn awr gan hynny yscafnhâ o gaethiwed caled dy dâd, ac oi iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni, ac ni a’th wasanaethwn di.

5Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, etto dridiau, yna dychwelwch attafi: a’r bobl a aethant.

6A’r brenin Rehoboam a ymgynghôrodd a’r henuriaid (y rhai a fuasent yn sefyll o flaen Salomon ei dâd ef pan ydoedd efe yn fyw) gan ddywedyd: pa fodd yr ydych chwi yn cynghori atteb i ymadrodd y bobl hynn?

7A hwynt a lefarasant wrtho ef gan ddywedyd, os byddi yn ddâ i’r bobl ymma, os bodloni di hwynt, ac dywedi wrthynt eiriau têg: yna y byddant yn weision i ti byth.

8Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid, yr hwn a gyngorasent hwy iddo: ac efe a ymgynghorodd a’r bechgyn y rhai a gynnyddasent gyd ag ef, a’r rhai oeddynt yn sefyll ger ei fron ef.

9Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr attebom ymadrodd y bobl hyn y rhai a lefarasant wrthif gan ddywedyd, yscafnhâ o’r iau’r hon a osododd dy dâd ti arnom ni?

10Yna y bechgyn y rhai a gynnyddasent gyd ag ef a lefarasant wrtho gan ddywedyd, fel hyn y dywedi wrth y bobl y rhai a lefarasant wrthit gan ddywedyd, dy dâd ti a wnaeth ein hiau ni yn drom, yscafnhâ dithe oddi arnom ni: fel hyn y dywedi wrthynt, fy bach ffyrfach na lwynau fy nhad.

11Ac yn awr 1.Bren.12.14.fy nhâd a’ch llwythodd chwi ag iau drom, minnef hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad i a’ch ceryddodd chwi a gwielyn, a minnef a ffrewyllau.

12Yna y daeth Ieroboam, a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd: fel y llefarase y brenin gan ddywedyd, dychwelwch attafi y trydydd dydd.

13A’r brenin ai hattebodd hwynt yn galed: (canys y brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid)

14Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y bechgyn gan ddywedyd, fy nhad i a drwmhaodd eich iau chwi, a minne a chwanegaf arni hi: fy nhad i a’ch ceryddodd chwi a gwielyn, a minne a ffrewyllau.

15Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: o herwydd yr achos oedd oddi wrth Dduw, fel y cwplâe’r Arglwydd ei air yr hwn a lefarase efe drwy law Ahia y Siloniad wrth Ieroboam fab Nabat.

16Pan 1.Bren.12.16.[welodd] holl Israel na wrandawe y brenin arnynt hwy, yna y bobl a attebasant y brenin gan ddywedyd, pa rann i ni yn Dafydd? nid ychwaith etifeddiaeth ym mab Isai: ô Israel pawb iw pebyll, edrych yn awr dy dŷ dy hun Dafydd: felly holl Israel a aethant iw pabellau.

17Felly feibion Israel y rhai oeddynt yn presswylio yn ninasoedd Iuda, yn vnic y teyrnasodd Rehoboam.

18A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram yr hwn ar y drêth, a meibion Israel ai llabyddiasant ef a meini fel y bu efe farw: yna y brenin Rehoboam a ymegniodd i fyned i fynu mewn cerbyd i ffoi i Ierusalem.

19Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Ddafydd hyd y dydd hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help