Iob 39 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIX.Duw yn dangos ei allu i Iob yn yr assyn wyllt, yr vnicorn, a’r march.

1A adwaenost ti yr amser i eifr gwylltion i fwrw rhai bychain? a wilii di y bwrw’r ewîgod loi?

2A gryfrifi di y misoedd y a gyflawnant hwy? ac a adwaenost ti’r amser pan fwriant hwy rai bychain?

3Pa fodd y gorweddant, y bwriant hwy eu llydnod, yr ymadawant ai gofid?

4[Pa fodd] yr ymgryfhâ eu llydnod hwy, y cynnyddant hwy yn y maes? yr ânt hwy allan, ac ni ddychwelant attynt hwy?

5Pwy a ollyngodd anifail gwyllt yn rhydd? a phwy a ddatododd rwymau’r assyn wyllt?

6[Myfi] yr hwn a osodais yr anialwch yn dy iddo: a’r morfa yn drigfa iddo ef.

7Efe a chwardd am gwerin tref: ni wrendu efe ar lais geilwad.

8Cilfachau mynyddoedd ei borfa ef: ac efe a gais bob glas-wellt.

9A gydtuna’r vnicorn i’th wasanaethu di? a crys efe tros nos wrth dy bresêbau di?

10A rwymi di vnicorn ai did mewn rhŷch? a lyfna efe ddolydd ar dy ôl di?

11A ymddyriedi di iddo ef er bod ei gryfdwr ef yn fawr? a adewi di dy lafur iddo ef?

12A gredi di iddo ef, y dŵg efe dy hâd ti drachefn? ac y cascl efe i’th lawr-dyrnu di?

13[A roddaist ti] adenydd hyfryd i’r peunod? neu adenydd a phlû i’r Estris?

14Canys hi a âd ei hwyau ar y ddaiar: ac ar y pridd y cynhesa hi

15Ac y mae hi yn gollwng tros gof y galle troed eu dryllio hwynt: neu anifail y maes eu sathru hwynt.

16Caled yw hi wrth ei chywion, na eiddo hi: ei gwaith hi yn ofer, ac yn ddifraw.

17Canys Duw a wnaeth iddi hi ollwng doethineb dros gof: ac ni chyfrannodd iddi hi ddeall.

18Yn y cyfamser ac yr ymgodo hi yn vchel: hi a ddiystyra y march, ai farchog.

19A roddaist ti gryfdwr i farch: neu a ddyscaist iddo ef werŷru?

20A ddychryni di ef fel celiog rhedyn? dychryn ardderchawgrwydd ei ffroen ef.

21[Ei draed ef] a gloddiant mewn glynn, ac efe a lawenycha o gryfdwr: efe a aiff allan i gyfarfod arfau.

22Efe a ddiystyra arswyd: canys ni ddychryna efe, ac ni ddychwel efe rhag ofn cleddyf.

23[Pan] drystio cawell saethau arno ef: pan ddisclaerio gwaiw-ffon neu laif:

24[Yna] mewn cynnwrf a dychryn y cloddia efe y ddaiar: ac ni chred mai llais yr vdcorn

25Pan efe vdcorn, efe a weryra, ac efe a arogla o bell ryfel, chynnwrf tywysogion, a gwaedd.

26Ai trwy dy ddeall di’r ehêda y gwalch: y llêda efe ei adenydd tua’r dehau?

27Ai wrth dy orchymyn di’r ymgyfyd eryr, ac y derchafa efe ei nŷth?

28Y trig efe, ac yr erys craig: ar fin craig megis castell?

29O ddi yno y chwilia efe am fwyd: ei lygaid ef a ganfyddant o bell.

30Ei gywion ef hefyd a sugnant waed: a lle celanedd yno efe.

31Yr Arglwydd hefyd a attebodd Iob, ac a ddywedodd:

32Ai dysceidieth yw ymryson a’r Holl-alluog? attebed argyoedd-wr Duw i hynny.

33Ac Iob a attebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,

34Wele gwael ydwyf, i ba beth yr attebaf i ti? mi a osodais fy llaw ar fyng-enau.

35Dywedais vn-waith ond nid attebaf ac eil-waith ond ni chwanegaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help