1Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr vchelder.
2Molwch ef ei holl angelion ef: molwch ef ei holl luoedd.
3Molwch ef haul a lleuad: molwch ef yr holl sêr goleuni.
4Molwch ef nef y nefoedd: a’r dyfroedd y rhai oddi ar y nefoedd.
5Molant enw’r Arglwydd: o herwydd efe a orchymynnodd, a hwynt a greuwyd.
6A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis trosseddir hi.
7Molwch yr Arglwydd a’r y ddaiar, y dreigiau a’r holl ddyfnderau.
8Tân a chenllysc, eira, a tharth: gwynt ystormus yn gwneuthur ei air ef.
9Y mynyddoedd a’r brynnau oll, y coed ffrwythlawn a’r holl cedr-wŷdd.
10Y bwyst-filod a phob anifail: yr ymlusciaid, ac adar ascelloc.
11Brenhinoedd y ddaiar a’r holl bobloedd, tywysogion a holl farnwŷr y byd.
12Gwŷr ieuaingc a gweryfon hefyd: henaf-gwŷr a llangciau:
13Molant enw’r Arglwydd: o herwydd ei enw ef yn vnic sydd dderchafadwy: ei ardderchawgrwydd ef vwchlaw daiar a nefoedd.
14Ac efe sydd yn derchafu corn ei bobl, yn foliant i’w holl sainct i feibion Israel pobl agos iddo. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
