Esay 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Prophwydoliaeth am ddinistr yr Aipht. 18 A galwedigaeth y cenhedloedd.

1 2 Cron.20.28. Baich yr Aipht: Wele’r Arglwydd yn marchogaeth ar gwmwl yscafn, ac efe a ddaw i’r Aipht: ac eulynnod yr Aipht a symmudant rhagddo ef: a chalon yr Aipht a dawdd yn ei chanol hi.

2Gyrraf hefyd yr Aiphtiaid yn erbyn yr Aiphtiaid, fel yr Esa.49.26.ymladdant bob vn yn erbyn ei frawd, a phob vn yn erbyn ei gyfaill dinas yn erbyn dinas theyrnas yn erbyn teyrnas.

3Ac yspryd yr Aipht a balla yn ei chanol hi, ac mi a ddiddymmaf ei chyngor hi: yna’r ymofynnant ag eulynnod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brud-wŷr.

4A mi a gaeaf yr Aipht yn llaw Arglwyddi caledion, a brenin cadarn a lywodraetha arnynt medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

5A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr, yr afon hefyd a sych, ac a aiff yn hesb.

6Yr afonydd a giliant, y ffynhonnau caeroc a feinhânt, ac a sychant: torrir ymmaith corsen a hescen.

7Y glas-wellt wrth yr afon, ar fîn yr afon, a phob peth fyddo yn tyfu wrth yr afon a wywa, a chwelir, ac ni efe

8Y pyscod-wŷr hefyd a dristânt, a’r rhai oll a fwriant fachau a alârant: felly y rhai a dânant rwydau ar hŷd wyneb y dyfroedd a lescânt.

9Yna y gwaradwyddir y rhai a weithiant fein-llîn, a’r rhai a weuant rwydau.

10Yna y bydd ei rhwydau hi’n ddrylliedic rhai oll a wnânt byscod-lynnau.

11Er hynny ynfydion tywysogion Zoan, doethion gynghor-wŷr Pharao, ynfyd yw cyngor, pa fodd y dywedwch wrth Pharao, mab y doethion mab hen frenhinoedd?

12Mae hwynt, mae dy ddoethion? mynegant it yr awr hon, a mynnant ŵybod pa gyngor a gymmerodd Arglwydd y lluoedd yn erbyn yr Aipht.

13Tywysogion Zoan a ynfydâsant, twyllwyd tywysogion Noph, a phennaethiaid eu llwythau a hudâsant yr Aipht.

14Cymmyscodd yr Arglwydd ynddi yspryd gwrthnysigrwydd, fel y gwnaethant i’r Aipht amryfuso yn ei holl waith fel yr amryfusa meddwyn yn ei chwdfa.

15Ac ni bydd yn yr Aipht waith, yr hwn a wnelo yr pen na’r gloren, y gangen na’r gorse.

16Y dydd hwnnw y bydd yr Aipht fel gwragedd, canys hi a ddychryna, ac a ofna rhag yscydwad llaw Arglwydd y lluoedd, yr hon a gyfyd efe yn ei herbyn hi.

17Yna y bydd Iuda yn arswyd i’r Aipht, pwy bynnac ai cofio hi a ofna ynddo ei hū rhag cyngor Arglwydd y lluoedd, yr hwn a gymmer efe yn ei herbyn hi.

18Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhîr yr Aipht yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd: dinas ddestruw y gelwir vn.

19Y dydd hwnnw y bydd allor i’r Arglwydd yng-hanol tir yr Aipht, a delw i’r Arglwydd ger llaw ei therfyn hi.

20Yn arwydd hefyd, ac yn destiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhîr yr Aipht, canys llefant ar yr Arglwydd rhag eu gorthrym-wŷr, ac efe a hebrwng iddynt Iachawdur a Phennaeth, ac efe ai gwared hwynt.

21Yna yr adwaenir yr Arglwydd yn yr Aipht, ie yr Aiphtiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i’r Arglwydd, ac talant.

22Yr Arglwydd hefyd a deru yr Aipht, gan daro ac iachau, hwythau a droant at yr Arglwydd, ac efe ai gwrendu hwynt, ac ai hiachâ hwynt.

23A’r dydd hwnnw y bydd sarn o’r Aipht i Assyria, ac yr aiff Assyria i’r Aipht, a’r Aipht i Assyria: a’r Aipht gyd ag Assyria a wasanaethant

24Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydedd i’r Aipht, ac i Assyria, yn fendith o fewn y tîr.

25Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd gan ddywedyd: bendigedic yw’r Aipht fy mhobl mau fi, ac Assyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help