1A Satan a safodd yn erbyn Israel, ac a annogodd Ddafydd i gyfrif Israel.
2A dywedodd Dafydd wrth Ioab, ac wrth hennaethiaid y bobl, ewch, cyfrifwch Israel o Berrseba hyd Dan: a dygwch attafi fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt.
3A dywedodd Ioab, chwaneged yr Arglwydd at ei bobl gant cymmeint ac a ydynt hwy: ô fy arglwydd frenin, onid gwesion i’m harglwyddhwy oll: pa ham y cais fy arglwydd hyn? pa ham y bydd efe i ddwyn euogrwydd ar Israel?
4Ond gair y brenin a fu drêch nag Ioab: ac Ioab a aeth allan, ac a rodiodd drwy holl Israel, ac a ddaeth i Ierusalem.
5Yna y rhoddes Ioab nifer rhifedi y bobl i Ddafydd, a holl Israel ydoedd fil o filoedd, a chan mîl o wŷr yn tynnu cleddyf, ac Iuda bedwar-cant, a dêc mîl a thrugain, o wŷr yn tynnu cleddyf.
6Ond y Lefiaid, a Beniamin ni chyfrifase efe yn eu mysc hwynt, canys ffiaidd oedd gan Ioab air y brenin.
7A bu ddrŵg gan Dduw y peth hyn: ac efe a darawodd Israel.
8Yna Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, pechais yn ddirfawr, o herwydd i’m wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, delea attolwg anwiredd dy wâs, canys gwneuthum yn ynfyd iawn
9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Gad gweledudd Dafydd gan-ddywedyd:
10Dos, a llefara wrth Ddafydd gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd: tri pheth yr ydwyfi yn eu gosod oth flaen di, dewis i ti vn o honynt, ac mi a wnaf i ti.
11Yna Gad a ddaeth at Ddafydd, ac a ddywedodd, wrtho ef, fel hyn y dywed yr Arglwydd, cymmer i ti,
12[y naill] ai tair blynedd o newyn, 2.Sam.24.13.ai ddifetha dri mîs o flaen dy wrthwyneb-wŷr, a chleddyf dy elynnion yn oddiweddyd, ai yntef cleddyf yr Arglwydd, a haint yn y tîr dri diwrnod, ac angel yr Arglwydd yn dinistrio yn holl derfynau Israel: ac yr awran edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd.
13A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, y mae yn gyfyng odiaeth arnafi, syrthiwyf attolwg yn llaw yr Arglwydd (canys ei drugareddau ef aml iawn) ac na syrthiwyf yn llaw dyu.
14Yna y rhoddes yr Arglwydd haint ar Israel, a syrthiodd o Israel ddeng a thrugain o wŷr.
15A Duw a anfonodd angel i Ierusalem iw dinistrio hi, ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr Arglwydd a edrychodd, ac a dosturiodd am y niwed ymma, ac a ddywedodd 2.Sam.24.16.wrth yr angel, yr hwn oedd yn dinistrio: digon bellach, llaesa dy law: ac angel yr Arglwydd a safodd wrth lawr dyrnu 2.Sam.24.16,18.Ornan y Iebusiad.
16A Dafydd a dderchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr Arglwydd yn sefyll rhwng y ddaiar, a’r nefoedd, ai gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Ierusalem, a syrthiodd Dafydd a’r henuriaid (y rhai oeddynt wedi ymwisco mewn sach-liain) ar eu hwynebau.
17A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw’r hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg, a pheth a wnaeth y defaid hynn? fy Arglwydd Dduw dyro attolwg dy law arnafi, ac ar dy fy nhâd, ac nid yn blâ ar dy bobl.
18Yna angel yr Arglwydd a archodd i Gad ddywedyd wrth Ddafyd: am fyned o Ddafydd i fynu i gyfodi allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Ornan y Iebusiad.
19A Dafydd a aeth i fynu yn ôl gair Gad yr hwn a lefarase efe yn enw yr Arglwydd.
20Yna y trôdd Ornan, ac y canfu efe yr angel, ai bedwar mab gyd ag ef a ymguddiasant: ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith.
21A Dafyd a ddaeth at Ornan, yna yr edrychodd Ornan, ac a ganfu Ddafydd, ac a aeth allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymmodd i Ddafydd wyneb tua’r ddaiar.
22A dywedodd Dafydd wrth Ornan, dyro i mi lê y llawr dyrnu, fel yr adailadwyf ynddo ef allor i’r Arglwydd: dyro ef i mi am lawn[werth] o arian, fel yr attalier y blâ hon oddi wrth y bobl.
23Yna Ornan a ddywedodd wrth Ddafydd, cymmer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn dâ yn ei olwg: wele rhoddaf yr ŷchen yn boeth offrwm, a’r offer dyrnu yn gynnyd, a’r gwenith yn fwyd offrwm: hyn oll aroddaf.
24A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, 2.Sam.24.24.nid onid gan brynu y prynaf am lawn-werth o] arian: canys ni chymmeraf i’r Arglwydd yr hyn eiddo ti i offrymmu offrwm yn rhâd.
25Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chant sicl o aur pwysedic.
26Ac yno’r adailadodd Dafydd allor i’r arglwydd, ac a offrymmodd boeth offrymmau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr Arglwydd, ac efe ai hattebodd ef yn y tân o’r nefoedd ar allor y poeth offrwm
27Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel: ac yntef a ddychwelodd ei gleddyf iw wain.
28Yn y pryd hynny pan ganfu Dafydd ddarfod i’r Arglwydd wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Iebusiad, efe a aberthodd yno.
29Ond tabernacl yr Arglwydd yr hon a wnelse Moses yn yr anialwch, ac allor y poeth offrwm y pryd hynny yn yr vchelfa yn Gibeon.
30Ac ni alle Dafydd fyned oi blaen hi i ymofyn a Duw: canys dychrynnase gan gleddyf angel yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.