1Pwy Ioan.12.28. Rhuf.10.16.a gredodd i’n ymadrodd? ac i bwy y datcuddiwyd braich yr Arglwydd?
2Canys cyfyd oi flaen ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn o dîr sychedic, heb brŷd na thegwch iddo: pan edrychom ni arno ef ni bydd prŷd fel y dymunem ef.
3 Marc.9.12. Dirmygedic oedd, a gwaelaf o’r gwŷr, gŵr gofidus, a chynefin â dolur, a megis yn cuddio ei wyneb oddi wrtho: dirmygedic oedd, ac ni wnaethant gyfrif o honaw.
4Diau Math.8.17. 1.Pet.2.24.efe a gymmerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: etto ni ai cyfrifasom ef wedi ei blagio, ei daro, ai ddarostwng o Dduw.
5Ac ef a archollwyd am ein camweddau ni, ac a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni, cospedigaeth ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef yr iachauwyd ni.
6Nyni oll a gyrwydrasom fel dafad, troesom bawb iw ffordd ei hun, a’r Arglwydd a roddes yn ei erbyn ef ein holl anwiredd ni.
7 Ioan.10.17. Mat26.63. Efe a orthrymmwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agore ei enau, fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, Act.5.32.fel dafad o flaen y rhai ai cneifie y tawe, ac nid agore ei enau.
8O garchar, ac o farn y dygwyd ef, etto pwy a draetha ei oes ef? canys ef a dorrwyd o dir y rhai byw, pla arno ef am gamwedd fy mhobl.
9Ac efe a roddes ei fedd gyd a’r rhai anwir, a chyd a’r cyfoethog yn ei farwolaeth: 2.Pet.2.21.er na wnaethe gam, ac nad twyll yn ei enau.
10Eithr yr Arglwydd a fynne ei ddryllio ef, ai clwyfodd, pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl hâd, ac a estyn ddyddiau: ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef.
11O lafur ei enaid y gwêl y diwellir, fyng-wâs cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei ŵybodaeth, ac efe a ddwg eu hanwiredd.
12Am hynny y rhoddaf iddo rann gyd â llawer, ac efe a ranna’r yspail gyd a’r cedyrn, am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth, ai gyfrif gyd a’r trosedd-wŷr: Marc.15.28. Luc.22.37.ac efe a dynnodd ymmaith bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y trosedd-wŷr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
