1Pan ddaeth 3.Esdr.5.47.y seithfed mîs, a meibion Israel yn eu dinasoedd: yna’r bobl a ymgasclasant i Ierusalem megis vn gŵr.
2Yna y cyfododd Iesua mab Iosadac, ai frodyr yr offeiriaid, a Zorobabel mab Salathiel, ai frodyr, ac a adailadasant allor Duw Israel i offrymmu arni offrymmau poeth, fel yr scrifennasid yng-hyfraith Moses gŵr Duw.
3A hwy a siccrhausant yr allor yn ei llê (canys arnynt ofn pobl y wlâd) ac a offrymmasant arni boeth offrymmau i’r Arglwydd: borau, a hwyr boeth offrymmau.
4Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn scrifennedic: a Exod.23.16.phoeth aberth beunydd tann rifedi, yn ôl y ddefod dogn dydd yn ei ddydd,
5Ac wedi hynny y poeth offrwm gwastadol, a’r yn y newydd loerau, a holl sanctaidd osedidic ŵyliau’r Arglwydd, offrwm ewyllyscar pob vn a offrymme o honaw ei hun i’r Arglwydd.
6O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymmu poeth offrymmau i’r Arglwydd, a theml yr Arglwydd ni sylfaenasid.
7Yna rhoddasant arian i gymmyn-wŷr, ac i seiri, a bwyd a diod, ac olew i’r Sydoniaid, ac i’r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Ioppa: yn ôl cennadhâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.
8Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt i dŷ Dduw i Ierusalem yn yr ail mis y dechreuodd Zorobabel mab Salathiel, ac Iesua mab Iosadac, a’r rhan arall oi brodyr hwynt, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r rhai oll a ddaethant o’r caethiwed i Ierusalem, ac a osodasant y Lefiaid o fab vgain-mlwydd ac vchod i oruwchwilio ar waith tŷ’r Arglwydd.
9Yna y safodd Iesua ai feibion, ai frodyr, Cadmiel hefyd, ai feibion, meibion Iuda yn gydtûn i oruchwilio ar weith-wŷr y gwaith yn nhŷ Dduw, meibion Henadad, ai meibion hwythau, ai brodyr y Lefiaid.
10A’r seiri a sylfaenasant deml yr Arglwydd, ac a osodasant yr offeiriaid yn eu gwiscoedd, ag vdcyrn, a’r Lefiaid meibion Asaph a Symbalau i foliannu’r Arglwydd 1.Cron.16.7.yn ôl dull Dafydd brenin Israel.
11A chanâsant wrth foliannu, ac wrth glodfori yr Arglwydd, mai dâ oedd, mai yn dragywydd ei drugaredd ef ar Israel: a’r holl bobl a floeddiasant a bloedd fawr, gan foliannu yr Arglwydd am sylfaenu tŷ’r Arglwydd.
12A llawer o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r pennau cenedl hynaf y rhai a welsent y tŷ cyntaf ar ei sylfaen tŷ hwn yn eu glowg, a ŵylasant a llêf vchel: a llawer oeddynt yn derchafu llef mewn bloedd gorfoledd.
13Ac nid oedd y bobl yn anabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain ŵylofain y bobl: canys y bobl oeddynt yn bloeddio a bloedd fawr, a’r sŵn glywid ym mhell.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
