Gweledigaeth Ioan 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.1 Yr oen yn agoryd y chwech sêl, a llawer o bethau yn dyfod ar ôl eu hagoryd, fel y mae hyn yn cynnwys prophwydoliaeth gyffredin hyd ddiwedd y byd.

1Yn ôl hyn, mi a edrychais pan agorodd yr Oen vn o’r seliau, ac mi a glywais vn o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel trŵst tarân, tyret ac edrych.

2Ac mi a edrychais, ac wele farch gwyn, ac yr ydoedd bŵa gan yr vn oedd yn eistedd arno, a choron a roddwyd iddo ef, ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.

3A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd, tyret, ac edrych.

4A march arall a aeth allan yn gôch, â gallu a roed i’r vn oedd yn eistedd arno i gymmeryd heddwch oddi ar y ddaiar, ac i beri iddynt lâdd eu gilydd, a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.

5A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, tyret, ac edrych, a mi a edrychais, ac wele farch dû, a’r hwn oedd yn eistedd arno ef â chlorian pwys ganddo yn ei law.

6Ac mi a glywais lais yng-hanol y pedwar anifail yn dywedyd, Chænix o wenith er ceniog, a thri Chænix o haidd er ceniog, a’r olew, a’r gwin na wna niwed iddynt,

7A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais y pedwerydd anifail yn dywedyd, tyret, ac edrych.

8Ac mi a edrychais, ac wele farch glâs, a marwolaeth oedd henw yr vn oedd yn eistedd arno, ac yr oedd vffern yn ei ddilyn ef, a gallu a roed iddynt hwy ar y bedwaredd ran o’r ddaiar, i lâdd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwyst-filod y ddaiar.

9A phan agorodd efe y bummed sêl, mi a welais tann yr allor eneidiau y rhai a laddasid am air Duw, ac am y destiolaeeh yr hon oedd ganddynt.

10Ac hwy a lefasant â llef vchel, gan ddywedyd, pa hŷd Arglwydd, sanctaidd â chywir nâd ydwyt yn barnu, ac yn dîal ein gwaed ni, ar y rhai sy yn trigo ar y ddaiar?

11A gynau gwynion a roed i bôb vn o honynt, a dywedwyd wrthynt, am iddynt orphywys tros ychydig o amser, nes cyflawni rhif, eu cydwasanaeth-wyr, a’u brodyr y rhai oeddynt iw lladd fel hwythau.

12Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl, ac wele, yr oedd daiar-gryn mawr, a’r haul a aeth cyn ddued â sachlen flew, a’r lleuad a aeth fel y gwaed.

13A’r sêr o’r nêf a syrthiasant i’r ddaiar, fel pren ffigus yn bwrw ffigus-glession pan escydwer ef â gwynt mawr.

14A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu yng-hyd: a phôb mynydd, ac ynys a symmudwyd allan o’u lleoedd.

15A Brenhinoedd y ddaiar, a’r gwŷr mawr, a’r cyfoethogion, a’r pen-capteniaid, a’r gwŷr cedyrn, a phôb gwr caeth, a phôb gwr rhydd a ymguddiasant mewn ogfeudd, ac yng-hreigiau y mynyddoedd.

16Ac hwy a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, syrthiwch arnom ni, Esay.2.19.|ISA 2:19. ose.10.8.|HOS 10:8. luc.23.30.a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac oddi wrth lîd yr Oen.

17Canys y mae dydd mawr ei ddigter ef wedi dyfod, a phwy a ddichon sefyll?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help