Ezeciel 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.1 Yr amser, a’r llê y prophwydodd Ezeciel. 3 Ei draseu ef. 5 Gweledigaeth y pedwar anifail. 26 Gweledigaeth yr orsedd-faingc.

1A Darfu yn y ddecfed flwyddyn ar hugain yn y pedwerydd ar y pummed o’r mîs, (a mi ym mysc y gaeth-glud wrth afon Chebar) agorid y nefoedd: a gwelwn weledigaeth Dduw.

2Yn y pummed o’r mîs (honno oedd y bummed flwyddyn o gaeth-gluidiad brenin Ioacin)

3Y daeth gair yr Arglwydd at Ezeciel yr offeiriad mab Buzi yn nhîr y Caldeaid, wrth afon Chebar, Ezec.3,22.|EZK 3:22. Ezec.17.1.ac yno y bu llaw’r Arglwydd arno ef.

4Yna’r edrychais, ac wele’n dyfod o’r gogledd wynt cethrawl, chwmwl mawr, a thân yn ymgymmeryd, a discleirdeb o amgylch iddo: ac oi ganol, o ganol y tân fel lliw amber.

5Hefyd oi ganol cyffelybrwydd i bedwar anifail, Ezec.3.23.ac dymma eu hagwedd hwynt, dull dŷn oedd iddynt,

6A phedwar wyneb vn, a phedair aden oedd vn o honynt,

7Ai traed yn draed iniawn, a gwadn eu traed, fel gwadn troed llô: a discleirio yr oeddynt fel lliw efydd gloiw.

8Ac dwylo dŷn oddi tann eu hadenydd hwynt ar eu pedwar ochr, eu hwynebau hefyd, ai hadenydd ganddynt ill pedwar.

9Eu hadenydd hwynt oeddynt yng-hwplws y naill wrth y llall: pan gerddent ni throent, aent bob vn yn ŵysc ei wyneb.

10Dymma ddull eu hwynebau hwynt, wyneb dyn, ac wyneb llew ar y tu dehau iddynt ill pedwar: ac wyneb ŷch o’r tu asswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar.

11Eu hwynebau hefyd ai hadenydd oeddynt wedi eu dosparthu oddi arnodd, dwy i bob vn yng-hwplws, a dwy i bob vn yn cuddio eu cyrph hwynt.

12Aent hefyd bob vn yn ŵysc ei wyneb, i’r lle y bydde’r yspryd ar fyned, yno’r aent: ni throent pan gerddent.

13Dymma ddull yr anifeiliaid, eu gwelediad oedd fel marwor tanllyd yn llosci, fel gwelediad ffaglau: hwn oedd yn ymgerdded rhwng yr anifeiliaid, a discleirdeb i’r tân, a mellt yn dyfod allan o’r tân.

14Cerdde hefyd a dychwele’r anifeiliaid, fel gwelediad mellden,

15Edrychais hefyd ar yr anifeiliaid, ac wele ar lawr yn ymyl yr anifeiliaid vn olwyn o flaen ei bedwar wyneb.

16Dull yr olwynion, ai gwaith hwynt oedd fel lliw Tharsis, a’r vn ddull oedd iddynt ill pedair, ai gwedd hwynt, ai gwaith fel pe bydde y olwyn o fewn yr olwyn

17Pan elent, aent ar ei pedwar ochr: ni throent pan gerddent.

18Eu cantau hefyd ac vchder iddynt, ac ofnadwy arnynt: ai cantau oeddynt yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar.

19A phan gerdde’r anifeiliaid, yr olwynion a gerddent wrthynt, a phan ymgode’r anifeiliaid oddi ar y ddaiar, yr ymgode’r olwynion.

20I’r lle y bydde’r yspryd ar fyned yr aent, yno’r yr yspryd ar fyned: a’r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt, canys yspryd yr anifeiliaid yn yr olwynion.

21Cerddent pan gerddent hwythau, a safent pan safent hwythau: a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaiar, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwyntau: canys yspryd yr anifeiliaid yn yr olwynion.

22Ac ar bennau’r anifeiliaid ddull ffurfafen, fel lliw Grissial ofnadwy, wedi ei hestyn tros eu pennau hwynt oddi arnodd.

23A thann y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt, yn iniawn y naill at y llall: dwy i bob vn yn eu cuddio hwynt, a dwy i bob vn yn eu cuddio hwynt eu cyrph.

24Ac mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt, fel sŵn dyfroedd lawer, fel sŵn yr Holl-alluoc pan gerddent: sŵn eu lleferydd fel sŵn llû: pan safent llaesent eu hadenydd.

25Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon ar eu pennau hwynt: pan safent llaesent eu hadenydd.

26Ac oddi ar y ffurfafen yr hon ar eu pennau hwynt yr oedd cyffelybrwydd gorsedd-faingc fel gwelediad maen Saphyr, ac ar gyffelybrwydd yr orsedd-faingc yr oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dŷn.

27Gwelais hefyd megis lliw Ambr, fel gwelediad tân oi fewn o amgylch, o welediad ei lwyni ac vchod, ac o welediad ei lwyni ac issod y gwelais megis gwelediad tân, a discleirdeb iddo oddi amgylch.

28Fel gwelediad y bŵa’r hwn fydd yn y cwmwl ar ddydd glawoc, fel hyn gwelediad y discleirdeb o amgylch: dymma weledigaeth cyffelybrwydd gogoniant yr Arglwydd: a phan welais, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais yn llefaru.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help