Ezeciel 37 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVII.Prophwydoliaeth am ddychweliad y bobl o gaethiwed. 16 Ac am vno dêc llwyth Israel wrth y ddau lwyth eraill.

1Bu llaw’r Arglwydd arnaf, hi a’m dûg fi allan hefyd yn yspryd yr Arglwydd, ac a wnaeth i mi orphywys yng-hanol dyffryn, a hwnnw yn llawn escyrn.

2Ac efe a wnaeth i’m fyned heibio iddynt o amgylch o gylch, ac wele yn aml iawn ar wyneb y dyffryn, wele hefyd fychion odieth

3Ac efe a ddywedodd wrthifi, ha fâb dŷn a fydd byw’r escyrn hyn? yna y dywedais, y gwyddost ti ô Arglwydd Dduw.

4Ac efe a ddywedodd wrthif, prophwyda am yr escyrn hyn, a dywet wrthynt: ô escyrn sychion, clywch air yr Arglwydd.

5Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth yr escyrn hyn, wele fi yn dwyn yspryd arnoch fel y byddoch byw.

6Giau hefyd a roddaf ynoch, a pharaf i gîg gyfodi arnoch, gwiscaf chwi hefyd â chroen, a rhoddof yspryd ynoch, fel y byddoch byw, ac y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd.

7Yna y prophwydais fel i’m gorchymynasid, ac fel yr oeddwn yn prophwydo bu llêf, ac wele gynnwrf, a’r escyrn a ddaethant ascwrn at ei ascwrn.

8Edrychais hefyd, ac wele cyfodase giau a chîg arnynt, gwiscase hefyd groen am danynt, ond nid ysyryd ynddynt,

9Ac efe a ddywedodd wrthif, prophwyda tua’r gwynt, prophwyda fab dyn, a dywet wrth y gwynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: ô chwythad tyret oddi wrth y pedwar gwynt, a chwyth ar y lladdedigion hyn fel y byddant byw.

10Felly y prophwydais fel i’m gorchymynasid, a’r chwythad a ddaeth ynddynt, fel y buāt byw, ac y safasant ar eu traed yn llu mawr iawn.

11Ac efe a ddywedodd wrthif, ha fab dŷn yr escyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele dywedant, ein hescyrn a wywâsant, a’n gobaith a ollodd, torrwyd ni ymmaith yn llwyr.

12Am hynny prophwyda, a dywet wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn agori eich beddau fy mhobl, codaf chwi hefyd o’ch beddau, a dygaf chwi i dŷ Israel.

13A chewch ŵybod mai myfi yr Arglwydd pan agorwyf eich beddau, a phan gyfodwyf chwi o’ch beddau fy mhobl.

14Rhoddaf hefyd fy yspryd ynoch fel y byddoch byw, a gwnaf i chwi orphywys yn eich tir eich hun, a chewch ŵybod mai myfi’r Arglwydd a leferais, ac a wnaf hyn, medd yr Arglwydd.

15A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd,

16Tithe fab dŷn cymmer it vn prenn, ac scrifenna arno at Iuda, ac at feibion Israel ei gyfeillion, a chymmer it brenn arall, ac scrifenna arno at Ioseph cyff Ephraim, a holl dŷ Israel ei gyfeillion.

17A nessâ hwynt y naill at a llall yn vn prenn i ti, fel y byddant yn vn yn dy law di.

18Pan lefaro meibion dy bobl wrthit gan ddywedyd, oni fynegi i ni beth hyn gennit?

19Dywet wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn cymmeryd cyff Ioseph yr hwn yn llaw Ephraim, a llwythau Israel di gyfeillion, ac mi ai rhoddaf hwnt wrtho ef, sef gyff Iuda, ac ai gwnaf hwynt yn vn prenn fel y byddāt yn fy llaw yn vn.

20A bydded yn dy law o flaen eu llygaid hwynt y prennau y rhai’r scrifennech arnynt.

21A dywet wrthynt, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, wele fi yn cymmeryd meibion Israel o fysc y cenhedloedd y rhai’r aethāt attynt, ac mi ai casclat hwynt o amgylch, ac ai dygaf hwynt iw tîr eu hun.

22A gwnaf hwynt yn vn genhedlaeth o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac vn Iohn.10.16.Brenin fydd yn Frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genhedlaeth, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth.

23Ac ni ymhalogant mwy wrth eu gau dduwiau, na thrwy eu ffiaidd-dra, nac yn eu holl anwiredd: eithr cadwaf hwynt oi holl drigfaon y rhai y pechasant ynddynt, ac mi ai glanhaf hwynt, fel y byddant yn bobl i mi, minnef a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau.

24A’m Esa.40.11. iere.23.5.|JER 23:5. ezec.34.23.|EZK 34:23. dan.9.24.gwâs Dafydd brenin arnynt, îe vn bûgail fydd iddynt oll: yn fy marnedigaethau maufi hefyd y rhodiant, a’m deddfau mau fi a gadwant, ac ai gwnant hwynt:

25Trigant hefyd yn y tîr yr hwn a roddais i’m gwâs Iacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo, îe hwynt a drigant ynddo ai meibion, a meibion eu meibion byth: Dafydd hefyd fyngwâs tywysog iddynt yn dragywydd.

26 Psal.109.4. psal.116.2. Gwnaf hefyd â hwynt gyfammod hêdd, ammod tragywyddol a fydd iddynt: canys rhoddaf hwynt lle’r amlhauwyf hwnt, a rhoddaf fy sancteiddrwydd yn eu mysc hwynt yn dragywydd.

27A’m tabernacl fydd gyd â hwynt, îe byddaf iddynt yn Dduw, a hwythau a fyddant i mi yn bobl.

28A’r cenhedloedd a gânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd ydwyf yn sancteiddio Israel: trwy fod fy sancteiddrwydd yn eu mysc hwynt yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help