Genesis 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Lot yn derbyn angylion iw dy. 4 Anaturiol bechod y Sodomiaid. 10 Yr angylion yn achub Lot. 24 Dinistr Sodoma. 26 Cosp gwraig Lot. 31 Merched Lot yn meddwi eu tad iw ddwyn ef i ymlosgach a hwynt.

1Yna y ddau angel a ddaethant i Sodoma yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym-mhorth Sodoma a phā welodd Lot, efe a gyfododd iw cyfarfod hwynt ac a ymgrymmodd wyneb tua yr ddaiar.

2Ac efe a ddywedodd wele yn awr, fy Arglwyddi, troiwch attolwg i dŷ eich gwâs, lleteuwch hefyd a Genes.18.4.golchwch eich traed, yna codwch yn foreu ac ewch i’ch taith: hwynt a ddywedasant na o herwydd nyni a allwn letteu yn yr heol.

3Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy, yna y troesant atto, ac y daethant iw dŷ ef, ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croiw, a hwynt a fwyttasant.

4Yna cyn gorwedd o honynt, gwyr y ddinas, gwyr Sodoma, hên ac ieuangc, a amgylchasant o amgylch y tŷ yr holl bobl o eithaf

5Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, mae y gwyr y rhai a ddaethant attat ti heno? dŵg hwynt allan attom ni, fel yr adwaenom hwynt.

6Yna y daeth Lot attynt hwy allan i’r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl,

7Ac a ddywedodd atolwg fy-mrodyr na wnewch ddrwg.

8Wele yn awr dwy ferched genifi, y rhai nid adnabuant ŵr: dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn ddâ, yn unic na wnewch ddim i’r gwyr hyn, o herwydd er mwyn hynny y daethant dan gyscod fyng-hronglwyd mau fi.

9Yna y dywedasant, nessa hwnt: dywedasant hefyd, efe a ddaeth i ymdaith yn unic, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti, nac iddynt hwy. felly buant daer iawn 2.Pet.2.7.ar y gwr ar Lot, a hwy a nessasant i dorri y ddôr.

10Yna y gwŷr a estynnasant eu llaw, ac a ddygasant Lot attynt hwy i’r tŷ, ac a gaeasant y ddôr.

11 Doeth.9.16. Tarawsant hefyd y dynion y rhai ddrws y tŷ a dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio y drws.

12A’r gwyr a ddywedasant wrth Lot, pwy sydd genniti ymma etto, ddawō, ath feibiō, a’th ferched, a’r hyn ôll i ti yn y ddinas, a ddŷgi di allan o’r fangre hon.

13O blegit yr ydym ni ar ddinistrio y lle hwn Genes.18.20.am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni iw ddinistrio ef.

14Yna yr aeth Lot allan ac a lefarodd wrth ei ddawon y rhai oeddynt yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd: cyfodwch, deuwch allan o’r fann ymma: o herwydd y mae’r Arglwydd yn difetha y ddinas hon: ac yng-olwg ei ddawon yr ydoedd efe fel yn cellwair.

15Ac ar godiad y wawr yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd: cyfot ti cymmer dy wraig, a’th ddwy ferched, y rhai ydynt iw cael, rhac dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas hon.

16Yntef a oedd hwyr-frydic, yna y Doeth.10.6.gwyr a ymafelasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ferched, am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef: ac ai dygasant ef allan, ac ai gossodasant o’r tu allan i’r ddinas.

17Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd diangc am dy enioes, nac edrych ar dy ôl, ac na sâf yn yr holl wastadedd, diangc i’r mynydd rhac dy ddifetha.

18Yna y dywedodd Lot, nid atolwg fy arglwyddi.

19Wele yn awr y cafodd dy wâs ffafor yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd yr hon a wnaethost a mi gan gadw fy enioes yn fyw: ac ni allaf fi ddiangc i’r mynydd rhac i’r drwg fyng-oddiweddyd, a marw o honof.

20Wele yn awr y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw, atolwg gad ti i mi ddiangc yno: (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.

21Yntef a ddywedodd wrtho, wele, mi a ganiadheais dy ddymuniad hefyd am y pêth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas yr hon y dywedaist.

22Bryssia, diangc di yno, o herwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Zoar.

23Cyfodase yr haul a’r y ddaiar, pan ddaeth Lot i Zoar.

24Yna’r Arglwydd a Deut.29.23. Isai.13.19.|ISA 13:19. Ier.50.40. Ezec.16.49. Oze.11.8.|HOS 11:8. Amos.4.11. Luc.17.29lawiodd ar Sodoma a Gomorra frwmstan, a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o’r nefoedd.

25Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaiar.

26Yna ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn oi du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.

27Ac Abraham a gododd yn foreu i’r lle yr hwn safase efe ynddo ger bron yr Arglwydd.

28Ac efe a edrychodd tua Sodoma, a Gomorra, a thua hôll dir y gwastadedd, yna y gwelodd, ac wele cyfododd mwg y tir fel mwg ôdyn.

29A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.

30A Lot a escynnodd o Zoar, ac a drigodd yn y mynydd ai ddwy ferched gyd ag ef, o herwydd efe a ofnodd drigo yn Zoar, ac a drigodd mewn ogof, efe ai ddwy ferched.

31Yna y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, ein tad ni hên, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod attom ni, wrth ddefod yr holl dir.

32Tyret rhoddwn i’n tâd wîn iw yfed, fel y gorweddwn gyd ag ef ac y cadwom hâd yn fyw o’n tâd.

33Felly hwynt a roddasant wîn iw tâd i yfed y noson honno, a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyd ai thâd, ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

34A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, wele gorweddais neithwyr gyd a’m tâd, rhoddwn wîn iddo ef iw yfed heno hefyd, a dos di, a gorwedd gyd ag ef, fel y cadwom yn fyw hâd o’n tâd.

35Felly hwynt a roddasant wîn iw tâd i yfed y noson honno hefyd, a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gyd ag ef, ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

36Felly dwy ferched Lot a feichiogwyd oi tâd eu hun.

37A’r hynaf a escorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tâd y Moabiaid hyd heddyw.

38A’r ieuangaf hefyd a escorodd hithe ar fab, ac a alwodd ei enw efe Bennammi: ef yw tad meibion Ammon hyd heddyw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help