1Ond yw doethineb yn gweiddi, ac ond yw deall yn llefain?
2Ym mhen lleoedd vchel, ger-llaw’r ffordd, ac ym mhen llwybrau lawer y mae hi yn sefyll.
3Ger-llaw pyrth y drêf, yn ymyl drysau y mae hi yn llefain,
4Ha wŷr ardderchog arnoch chwi yr wyfi yn galw, ac at feibion dynnion yr wyfi yn derchafu fy llais.
5Ha ynfydion deallwch gyfrwysder, a chwi wŷr anghall troiwch ymma eich calon i ddeall.
6Gwrandewch, canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog, mi a agoraf fyng-wefusau, ac a lefaraf iniondeb.
7Canys fyng-enau a draethant wirionedd ffiaidd gan fyng-wefusau ddrygioni.
8Holl eiriau fyng-enau ydynt gyfiawn, nid oes ynddynt, na gŵyrni, na thrawsedd.
9Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn iniawn i’rhai a chwennychent ŵybodaeth.
10Derbynnwch fy addysc, ac nid arian, a gŵybodaeth o flaen aur etholedig.
11Canys gwell yw doethineb na gemmau, nid oes hyfrydwch cyffelyb iddi.
12Myfi doethineb wyf yn glŷnu wrth gallineb: yr ydwyf yn cael allan gŵybodaeth, a chyngor.
13Ofn yr Arglwydd casáu drygioni: balchder a thraha, a ffordd y drygioni, a’r genau trawsion sydd gâs gennifi.
14Mi pie cyngor, a pherffeithrwydd, ddeall ydwyfi, mi pie nerth.
15Drwofi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna y penaethiaid gyfiawnder.
16Drwofi y rheola tywysogion a phendefigion, a holl farn-wŷr y ddaiar.
17Y neb a’m cârant a garaf inne, a’r neb a’m ceisiant yn foreu am cânt.
18Gennifi y mae cyfoeth, ac anrhydedd golud parhaus, a chyfiawnder.
19Gwell yw fy ffrwyth i nag nag coeth, a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig.
20Rhyd ffordd cyfiawnder i’th arweiniaf ar hŷd canol llwybrau barn.
21Mi a baraf i’r rhai a’m carant berchennogi’r peth a beru byth: a mi a lanwaf eu trysorau.
22Yr Arglwydd a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd, a chyn vn amser.
23Cyn y bŷd i’m heneiniwyd, cyn y dechreuad, cyn gwneuthuriad y ddaiar.
24Prŷd nad oedd dyfnder i’m cenhedlwyd, cyn bôd ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.
25Cyn sylfaenu y mynyddoedd, ac o flaen y brynnau i’m cenhedlwyd.
26Cyn gwneuthur o honaw ef y ddaiar, na’r meusydd, na dechreuad llwch y bŷd.
27Pan baratôdd efe y nefoedd yr oeddwn i yno: pan amgylchodd efe wyneb y dyfnder:
28Pan gadarnhaodd efe y cwmylau vwch ben, a phan ffurfiawdd efe ffynhonnau y dyfnder,
29Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent orchymyn ei enau ef, pan seiliodd efe y ddaiar,
30Yna yr oeddwn i gyd ag ef yn magu yn ddaintaeth beunyddol, ac yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser.
31Ac yn llawenychu o amgylch ei ddaiar ef, ac a’m daenteithion yn llawenhau meibion dynnion.
32Yr awron (o feibion) gwrandewch arnaf, canys gwyn eu bŷd a gadwant fy ffyrdd i.
33Gwrandewch addysc, a byddwch ddoethion, nac ymwrthodwch â hi.
34Gwyn ei fŷd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wilio yn ddyfal beunydd fy nrysau, gan warchod pyst fy mhyrth i.
35Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da yr Arglwydd.
36Onid y neb a becho yn fy erbyn a dreisia ei enaid: fy holl gaseion a garant angeu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.