1.Samuel 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Dyfodiad yr Arch i Giriath-Iearim. 3 Israel wrth gyngor Samuel yn cymmeryd edifeirwch. 11 ac yn gorchfygu y Philistiaid, 15 llywodraeth Samuel ar Israel.

1Yna gwŷr Iosua 15.60.Ciriathiearim a ddaethant, ac a gymmerasant i fynu Arch yr Arglwydd, ac ai dugasant hi i dŷ Abinadab yn y brynn: ac a sancteiddiasant Eleazar ei fab ef i gadw Arch yr Arglwydd.

2Ac o’r dydd y trigodd yr Arch yn Ciriathiear im y bu ddyddiau lawer, nid amgen vgain mhlynedd a ddarfuant, a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr Arglwydd.

3Yna Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel gan ddywedyd: os dychwelwch chwi at yr Arglwydd a’ch holl galon, bwriwch ymmaith dduwiau dieithr o’ch mysc, ac Iosua 24.15,23.|JOS 24:15,23. Barnwyr 2.13.Astaroth: a pharatoiwch eich calon at yr Arglwydd, a Deut.6.4. Math.4.10.gwasanaethwch ef yn vnic, ac efe a’ch gwared chwi o law y Philistiaid.

4Am hynny meibion Israel a fwriasant ymmaith Barnwyr 2.12.Baalim, ac Astaroth: a’r Arglwydd yn vnic a wasanaethasant hwy.

5Yna y dywedodd Samuel, ymgesclwch holl Israel i Mispah: ac mi a weddiaf trosoch chwi at yr Arglwydd.

6A hwy a ymgasclasant i Mispah, ac a dynnasant ddwfr, ac tywalltasant ger bron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant hefyd yno, pechasom yn erbyn yr Arglwydd: a Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispah.

7Pan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasclu i Mispah, yna pendefigion y Philistiaid a aethant i fynu yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhac y Philistiaid.

8A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, na thaw di a gweiddi trosom ni ac yr Arglwydd ein Duw, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.

9Yna y cymmerth Samuel vn llaeth-oen, ac ai hoffrymmodd ef ei gyd yn boeth offrwm i’r Arglwydd, a Samuel a waeddodd ar yr Arglwydd dros Israel, a’r Arglwydd ai gwrandawodd ef.

10Pan oedd Samuel yn offrymmu y poeth offrwm, yna y Philistiaid a nessasant i ryfel yn erbyn Israel, a’r Arglwydd a daranodd a thwrwf mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw, ac ai drylliodd hwynt, fel y lladdwyd hwynt o flaen Israel.

11Yna gwŷr Israel a aethant o Mispah, ac a erlidiasant y Philistiaid: ac ai tarawsant hyd oni tann Bethcar.

12A chymmerodd Samuel ryw faen, ac ai gosododd rhwng Mispah a Sen, ac a alwodd ei enw ef Eben-ezer, ac a ddywedodd: hyd yn hyn yr Arglwydd a’n cynnorthwyodd ni.

13Felly y darostyngwyd y Philistiaid, ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel: a llaw’r Arglwydd a fu yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel.

14A’r dinasoedd y rhai a gymmerase y Philistiaid oddi ar Israel a roddwyd adref i Israel, o Acaron hyd Gath: ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid: ac yr oedd heddwch rhwng Israel a’r Amoriaid.

15A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd.

16Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn, ac a amgylchodd, Bethel, a Gilgal, a Mispah: ac efe a farnodd Israel yn yr holl leoedd hynny.

17Ai ddychwelfa i Ramah, canys yno, ei dy ef, yno hefyd y barnodd efe Israel: ac yno’r adailadodd efe allor i’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help