1Mab vgain mlwydd Ahaz pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac ni wnaeth efe yr hyn oedd inion yng-olwg yr Arglwydd fel Dafydd ei dad.
2Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel: ac efe a wnaeth i Baalim coddedic.
3Ac efe a arogl-darthodd yn nyffryn Benhinuon: ac Lefit.18.21. 2.Cron.33.6.a loscodd ei feibion yn tân yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd y rhai a fwriase yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
4Efe hefyd a aberthodd, ac a arogl-darthodd yn yr vchelfeudd, ac ar y brynnau: a thann bob prenn gwyrdd-las.
5Am hynny’r Arglwydd ei Dduw ai rhoddodd ef yn llaw brenin Syria, a hwynt ai tarawsant ef, ac a gaethgludasant ymmaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac ai dugasant hwy i Ddamascus: ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn ai tarawodd ef a phlâ mawr.
6A Pheca mab Remaliahu a laddoddd yn Iuda chwech vgain mil mewn vn diwrnod, hwynt oll yn feibion grymmus: am wrthod o honynt Arglwydd Dduw eu tadau.
7A Zichri gadarn yr Ephraimiad a laddodd Maaseiah fab y brenin, ac Azricham blaenor y tŷ: ac Elchanah rhaglaw y brenin.
8A meibion Israel a gaeth-gludasant oi brodyr ddau cant mil yn wragedd, yn feibion, ac yn ferched, sclyfaethasant hefyd anrhaith fawr oddi arnynt: ac a ddugasant yr yspail i Samaria.
9Ac yno’r oedd prophwyd i’r Arglwydd ai enw Oded, ac efe a aeth allan o flaen y llû yr hwn oedd yn dyfod i Samaria, ac a ddywedodd wrthynt hwy, wele o herwydd digofaint Arglwydd Dduw eich tadau yn erbyn Iuda y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi: fel y lladdasoch o honynt mewn cynddaredd, a aeth hyd y nefoedd.
10Ac yn awr yr ydych chwi yn amcanu darostwng meibion Iuda, ac Ierusalem yn weision, ac yn forwynion i chwi: onid chwi yn ddiau pechodau arnoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw?
11Yn awr gan hynny gwrandawch arnafi, a gollyngwch adref y gaeth-glud yr hon a gaeth-gludasoch o’ch brodyr: os amgen llidiog ddigofaint yr Arglwydd arnoch chwi.
12Am hynny rhai o bennaethiaid meibion Ephraim, Azaria mab Iehohanan, Berechiahu mab Mesilemoth, ac Iehizciah mab Salum, ac Amasa mab Hadlai a gyfodasant yn erbyn y rhai oeddynt yn dyfod o’r filwriaeth,
13Ac a ddywedasant wrthynt hwy, na ddygwch y gaeth-glud ymma, canys yn bechod yn ein herbyn niyr Arglwydd, yr ydych chwi yn amcanu chwanegu ar ein pechodau ni, ac ar ein camweddau: canys camwedd lawer yn ein herbyn ni, a digofaint llidiog yn erbyn Israel.
14Felly y llu a adawodd y gaeth-glud a’r anrhaith o flaen y tywysogion: a’r holl gynnulleidfa.
15A’r gwŷr y rhai a hennwyd wrth eu henwau a gyfodasant, ac a ymflasant yn y gaeth-glud, ac a ddilladasant eu holl rai noethion hwynt a’r yspail, pan ddilladdasant hwynt, a roddasant iddynt escidiau, yna hwynt a wnaethant iddynt fwytta, ac ai diodasant, eneiniasant hwynt hefyd, a dugasant ar assynnod bob vn llesc, ie dugasant hwynt i Iericho dinas y palm-wŷdd at eu brodyr: felly hwyntau a ddychwelasant i Samaria.
16Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahaz at frenhinoedd Assyria i ei gynnorthwyo.
17A’r Edomiaid a ddaethant etto, ac a darawsant ar Iuda, ac a gaeth-gludasant gaeth-glud.
18Y Philistiaid hefyd a ruthrasant i ddinasoedd y gwastadedd, a thû’r dehau i Iuda, ac a ennillasant Beth-semes, ac Aialon, a Gederoth, a Socho, ai phen-trefydd, Thimna hefyd ai phen-trefydd, a Gimzo ai phentrefydd: ac a drigasant yno.
19Canys Duw a ddarostyngodd Iuda er mwyn Ahaz brenin Israel: o blegit efe a wnelse ddialedd yn Iuda gan drosseddu drwy gamwedd yn erbyn yr Arglwydd.
20A 2.Bren.19.7.Thilgath Pilneser brenin Assyria a ddaeth atto ef: ac a flinodd arno ef, ac ni’s cynnorthwyodd ef.
21Er 1.Bren.16.8.i Ahaz gymmeryd rhan o dŷ’r Arglwydd, ac o dŷ’r brenin, a’r tywysogion: ai rhoddi i frenin Assyria, etto ni’s cynnorthwyodd efe ef.
22A’r amser yr oedd yn gyfyng arno ef, efe a chwanegodd drosseddu yn erbyn yr Arglwydd: 187 hwn’r brenin Ahaz.
23Ac efe a aberthodd i dduwiau Damascus y rhai ai tarawsent ef, ac efe a ddywedodd, am iddynt hwy duwiau brenhinoedd Syria fyng-hynnorthwyo i, myfi a aberthaf iddynt hwy, fel i’m cynnorthwyant ond hwy a fuant iddo ef i beri iddo ef, ac i holl Israel dramgwyddo.
24Ac Ahaz a gasclodd lestri tŷ Dduw, ac a ddarniodd lestri tŷ Dduw, ac a gaeodd ddryssau tŷ’r Arglwydd: ac a wnaeth iddo ef allorau ym mhob congl i Ierusalem.
25Ac ym mhob Dinas yn Iuda y gwnaeth efe vchelfeudd i arogl-darthu i dduwiau dieithr: ac a ddigllonodd Arglwydd Dduw ei dadau.
26A’r rhan arall oi hanes ef, ai holl lwybrau ef cyntaf a diweddaf: wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Iuda, ac Israel.
27Ac Ahaz a hunodd gyd ai dadau, a hwynt ai claddasant ef yn ninas Ierusalem, ond ni ddugasant hwy mo honaw ef i feddrod brenhinoedd Israel: a Hezecia ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.