1Ac Iehosaphat brenin Iuda a ddychwelodd iw dŷ ei hun i Ierusalem mewn heddwch.
2Ac Iehu mab Hanani y gweledudd a aeth oi flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Iehosaphat, ai cynnorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oeddynt yn cassau yr Arglwydd a wnait ti? am hyn digofaint oddi wrth yr Arglwydd arnat ti.
3Er hynny pethau dâ a gafwyd ynot ti: canys ti a dynnaist ymmaith y llwyni o’r wlâd, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw.
4Felly Iehosophat a drigodd yn Ierusalem: ac a ddychwelodd, ac a aeth trwy yr bobl o Beer-seba hyd fynydd Ephraim, ac ai dûg hwynt eil-waith at Arglwydd Dduw eu tadau.
5Ac efe a osododd farn-wŷr yn y wlâd, drwy holl ddinasoedd caeroc Iuda, ac ym mhob dinas.
6Ac efe a ddywedodd wrth y barn-wŷr, gwelwch beth yr ydych yn ei wneuthur, canys nid tros ddŷn y bernwch onid tros yr Arglwydd: ac gyd a chwi wrth roddi barn.
7Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi: cedwch, a gwnewch o herwydd nid anwiredd gyd a’r Arglwydd ein Duw, Deut.10.17.|DEU 10:17. iob.34.19.|JOB 34:19. act.10.34.|ACT 10:34. rhuf.2.11.|ROM 2:11. galath.2.6.|GAL 2:6. ephe.6.9.|EPH 6:9. colos.3.25.|COL 3:25. 1.Pet.1.17.na derbyniad wyneb, na derbyniad gwobr.
8Ac Iehosaphat a osododd hefyd yn Ierusalem o’r Lefiaid, ac o’r offeiriaid, ac o bennau tadau Israelbarnedigaethau a matterion yr Arglwydd: a hwynt a ddychwelasant i Ierusalem.
9Ac efe a orchymynnodd iddynt gan ddywedyd: fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd, mewn ffydd, ac a chalon berffaith.
10Am bôb ymryson a’r a ddêl attoch chwi oddi wrth eich brodyr (y rhai sy yn trigo yn eu dinasoedd) rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybyddiwch hwynt fel na throsseddant yn erbyn yr Arglwydd, a bod ddigofaint ef arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch, ac na throsseddwch.
11Ac wele Amaria’r offeiriad yn benn arnoch chwi ym mhob peth Arglwydd, a Zebadia mab Ismael yn flaenor ar dŷ Iuda ym mhob achos i’r brenin, a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi: ymwrôlwch, a gwnewch a’r Arglwydd fydd gyd a’r daionus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
