1Ffydd yn wir yw sail y pethau a obeithir, a siccrwydd y pethau ni’s gwelir.
2O blegit trwyddi hi yr ennillodd yr henafiaid air da.
3 Gene.1.1. io.1.10. Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y byd trwy air Duw, yn gymmaint nad obethau gweledig y gwaed y pethau a welir.
4Trwy ffydd yr offrymmodd Gene.4.4. math.23.35.Abel i Dduw aberth rhagorach nâ Chain, trwy’r hon yr ennillodd efe destiolaeth ei fod yn gyfiawn, trwy fod Duw yn testiolaethu am ei roddion ef a thrwy’r hon wedi marw, y mae etto yn lefaru.
5 Gene.5.24. Trwy ffydd y cymmerwyd Enoch ymmaith, rhag gweled marwolaeth: ac ni chaed ef: am ddarfod i Dduw ei gymmeryd ef ymmaith, eithr cyn ei gymmeryd ef ymmaith, efe a gawse’r gair o fod yn bodloni Duw.
6Eithr heb ffydd ni ellir bodloni, o blegit credu sydd raid i’r neb a ddel at Dduw, ei fod ef a’i fod yn obrwy-wr y rhai a ymgais ag ef.
7 Gene.6.13. eccle.44 17. Nac trwy ffydd (wedi i Dduw ei rybuddio am y pethau ni’s gwelsid etto) yn llawn o ofn parchedig, a ddarparodd long i achub ei deulu, trwy ’r hon long y condemnodd efe y byd, ac efe a wnaethbwyd yn etifedd y cyfiawnder yr hwn sydd o ffydd.
8Trwy ffydd gwedi galw Gene.12.4.Abraham, yr vfyddhaodd i fyned i’r man a gaffe efe ryw amser yn etifeddiaeth, ac yr aeth, heb wybod i ba le yr oedd yn myned.
9Trwy ffydd yr arhosodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn dieithr, ac y preswylodd mewn lluestau gyd ag Isaac, ac Iacob cydetifeddion yr vn addewid.
10Canys disgwil yr ydoedd am y ddinas, ac iddi sail, saer ac adailadudd yr hon yw Duw.
11Trwy ffydd Gene.17.19. & 21.2.Sara hithe yn amhlantadwy a dderbyniodd nerth i ymddwyn hâd, ac a escorodd wedi amser oedran, am ei bod i yn barnu yn ffyddlon yr hwn a addawse.
12Ac o herwydd hynny o vn a hwnnw wedi marweiddio y cēhedlwyd cynifer Eccle.44.21.a sêr yr wybr mewn rhifedi, ac megis y tywod aneirif ar lan y môr.
13Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a chyfaddef eu bod yn ddieithr, ac yn ymdeithiaid ar y ddaiar.
14Canys y mae y rhai sy yn dywedyd hyn yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad
15Pe buasent hwy yn meddwl am y wlad y daethant allan o honi, hwynt hwy a gawsent amser i ddychwelyd.
16Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennychu, sef y nefol: o achos pa ham nid cywilydd gan Dduw ei alw eu Duw hwynt hwy, o blegit efe a baratodd ddinas iddynt.
17Trwy ffydd yr offrymmodd Gene.22.10.Abraham, Isaac, pan fu profedigaeth arno, ai vnic fab a offrymmodd yr hwn a gawse yr addewidion.
18Wrth yr hwn y dywedasid, yn Gene.21.12. rufei.9.7.Isaac y gelwir i ti hâd.
19Gan ystyried y galle Duw gyfodi o feirw: o ba herwydd efe ai derbyniodd ef mewn cyffelybrwydd.
20Trwy ffydd y bendithiodd Gen.27.28.29.Isaac ei fab Iacob, ac Esau, am y pethau a ddelēt rhag llaw
21Trwy ffydd pan oedd Gene.48.15.Iacob yn marw y rhoes fendith i bob vn o feibion Ioseph, Gene.47.31.ac ar ben ei ffon, yr addolodd efe.
22Trwy ffydd pan oedd Gene.50.25.Ioseph yn marw, y coffaodd am ymadawiad plant Israel, ac y rhoddodd orchymyn am ei escyrn.
23Trwy ffydd pan anwyd Exod.2.2. gweith.7.23.Moses, y cuddiwyd ef dri-mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws, ac nid ofnasant Exod.1.16.orchymyn y brenin.
24Trwy ffydd Exod. 2.11.Moses wedi myned yn fawr, a wrthodes ei alw yn fab merch Pharao,
25Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyd â phobl Dduw, na chael mwyniant pechod tros amser,
26Gan farnu yn fwy golud dirmig Crist na thryssor yr Aipht-wŷr: canys edrych yr oedd efe am daledigaeth y gobrwy.
27Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aipht heb ofni llid y brenin: Canys efe a ymwrolodd fel yn gweled y neb sydd anweledig.
28Trwy ffydd y gwnaeth efe y Exod.12.22.Pasc, a gollyngiad y gwaed, rhac i’r hwn ydoedd yn dinistrio y rhai cyntaf-anedig gyffwrdd â hwynt.
29Trwy ffydd yr Exod.14.22.aethant trwyr môr coch, megis trwy’r tir sych, yr hyn pan brofodd yr Aiphtiaid, boddi a wnaethant.
30Trwy ffydd y Iosua 6.20.syrthiodd caerau Iericho wedi eu hamgylchu tros saith niwrnod.
31Trwy ffydd ni ddifethwyd Iosua 6.23.Rahab y butain gyd a’r rhai annufydd, pan dderbyniodd hi yr spiwŷr yn heddychol.
32A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a balle i mi i fynegu am Barn.6.11.Gedeon, am Barn.4.6.Barac, a Barn.13.24.Samson, ac Barn.11.1.Iephte, am 1.Sam.1.20.Ddafydd hefyd a Samuel, a’r prophwydi:
33Y rhai trwy ffydd a orescynnasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant yr addewidion, a gaeasant safnau’r llewod,
34A ddiffoddasant angerth y tân, a ddiangasant gan fin y cleddyf, o wendid a ymnerthasant, ac a aethant yn gedyrn mewn rhyfel, ac a yrrasant fyddinoedd yr estroniaid ar encil.
35Gwragedd a dderbyniasant eu meirw wedi eu codi yn fyw eil-waith: eraill a ddirdynnwyd heb dderbyn ymwared, fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell.
36Eraill o gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, trwy rwymau hefyd a charchar.
37Hwynt hwy a labyddiwyd, a dorrwyd yn ddrylliau, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â’r cleddyf, a gyrwydrasāt mewn crwyn defaid a geifr, yn ddiddym, yn gystuddiol, ac yn ddrwg eu cyflwr.
38Y rhai ni haedde y byd eu cael: cyrwydro yr oeddent yr y diffathwch, ac yn y mynyddoedd, mewn tyllau, ac ogfeudd y ddaiar.
39A’r rhai hyn oll wedi heuddu testiolaeth trwy ffydd, ni chawsant yr addewid,
40Am fod Duw yn rhag-weled peth gwell am danom ni, fel na pherfeithid hwynt hebo’m ninnau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.