Iob 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Iob drachefn yn dangos fyrred, a blined oes dyn.

1Dyn a aned o wraig fyrr o ddyddiau, a llawn o hebbul.

2Fel bloedun y daw allan, ac y torrir ef ymmaith: ac efe a gilia fel cyscod, ac ni saif.

3A agori di dy lygaid ar y fath ymma? ac a ddygi di fi i gyfraith a thi?

4Pwy a rydd glân o aflan? neb.

5Ond ei ddyddiau ef wedi eu rhacderfynu? rhifedi ei fisoedd ef gyd a thi: gwnaethost ei derfynau fel nad el efe trostynt,

6Trô oddi wrtho ef fel y gorphywyso, oni orphenno efe yn ewyllyscar ei ddydd fel gwâs cyflog.

7Canys y mae gobaith i bren er ei dorri y blagura efe etto: ac na phaid ei frig ef

8Os heneiddia ei wreiddin ef yn y ddaiar: ac marweiddia ei fon-cyff ef yn y pridd,

9Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd: ac a fwrw ganghennau fel planhigin.

10Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymmaith: a dyn a drenga a pha le y efe?

11[Fel] y mae dyfroedd yn myned allan o’r môr: ac afon yn myned yn ddiyspydd, ac yn sychu:

12Felly gŵr a orwedd ac ni chyfyd, ni ddihunant, ac ni ddeffroant oi cwsc hyd oni byddir heb nefoedd.

13O na osodit fi mewn bedd, cuddit fi hyd oni throit dy lid ymmaith: osodit ti derfynniad i mi, a’m cofio.

14Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw disgwiliaf holl ddyddiau fy milwriaeth hyd oni ddelo fyng-hyfnewidiad.

15Gelwi, ac myfi a’th attebaf: hiraethi am waith dy ddwylaw.

16Canys yr awr hon y rhifi fyng-hamreu: nid oedi am fy mhechod.

17Fyng-hamwedd a selied mewn côd: a thi a chwanegaist ar fy anwiredd.

18Ac yn wir mynydd yr hwn a syrthio a ddiflanna: a chraig a symmudir oi lle.

19Dyfroedd a dreuliant gerric, ti a godi trwy lifeiriant bridd y ddaiar ei chnwd hi, yr hwn sydd yn tyfu o hono ei hun: felly’r wyt ti yn gwneuthur i obaith dŷn golli.

20Yr wyt ti yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo efe ymmaith: ac yr wyt ti yn ei ddanfon ef i ffordd gan newidio ei wyneb ef.

21Ei feibion ef a gyfoethogi, ac nis gwybydd efe: a hwy a dlodir, ac ni ŵyr efe oddi wrthynt hwy.

22Ond ei gnawd tra efe arno a ddoluria, ai enaid a alara ynddo ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help