Iosuah 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Iosuah yn gorchfygu brenhinoedd eraill y rhai a ddaethent yn ei erbyn ef.

1A phan glybu Iabin brenin Hazor yna efe a anfonodd at Iobab brenin Madon, ac at frenin Simron ac at frenin Acsaph,

2Ac at y brenhinoedd y rhai o du yr gogledd yn y mynydd-dir, ac yn y rhosdir i’r dehau i Ceneroth ac yn y gwastadedd: ac yn ardaloedd Dôr tua’r gorllewyn,

3[At] y Canaaneaid o’r dwyrain, a’r gorllewyn, a’r Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Iebusiaid yn y mynydd-dir: ac yr Hesiaid tann * Hermon yng-wlad Mispah.

4A hwynt a aethant allan, ai holl fyddinoedd gyd a hwynt, pobl lawer fel y tyfod yr hwn ar fin y môr o amldra: meirch hefyd, a cherbydau lawer iawn.

5A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant: daethant hefyd a gwerssyllasant yng-hyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.

6Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Iosuah, nac ofna rhag-ddynt hwy, canys y foru yng-hylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, ai cerbydau hwynt a losci di a thân.

7Yna Iosuah a ddaeth a’r holl bobl ryfeloc gyd ag ef yn ddisymmwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Merom: ac a ruthrasant iddynt.

8A’r Arglwydd ai rhoddodd hwynt yn llaw Israel, fel y tarawsant hwynt, ac yr erlidiasant hwynt hyd Sidon fawr, ac hyd Misrephothamaim, ac hyd glynn Mispah o du’r dwyrain: a tharawodd hwynt fel na adawodd efe o honynt yng-weddill.

9Ac Iosuah a wnaeth iddynt fel yr archase’r Arglwydd iddo ef: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, ai cerbydau a loscodd a thân.

10Iosuah y pryd hynny a ddychwelodd, ac a ennillodd Hazor, ac a darawodd ei brenin a’r cleddyf: canys Hazor or blaen oedd benn yr holl deyrnasoedd hynny.

11Tarawsant hefyd bob enaid a’r ynddi a min y cleddyf gan difrodi ni adawyd vn perchen anadl: ac efe a loscodd Hazor a thân.

12Felly holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, ai holl frenhinoedd hwynt a ennillodd Iosuah, ac ai tarawodd a mîn y cleddyf gan eu difrodi hwynt: Num.33.52. Deut.7.2.megis y gorchymynnase Moses gwâs yr Arglwydd.

13Ond ni loscodd Israel yr vn o’r dinasoedd y rhai oeddynt yn sefyll ar eu pelannau: namyn Hazor yn vnic a loscodd Iosuah.

14A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid a sclyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn vnic pob dŷn a darawsant hwy a min y cledyf, nes iddynt eu difetha hwynt, ni adawsant berchen anadl.

15 Exod.34.11. Fel y gorchymynnase’r Arglwydd i Moses ei wâs, Deut.7.2.felly y gorchymynnodd Moses i Iosuah: ac felly y gwnaeth Iosuah, ni thynnodd efe ymmaith air o’r hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd i Moses.

16Felly Iosuah a ennillodd yr holl fynydddir hwnnw, a’r holl ddehau, a holl wlad Gosen a’r gwastadedd, a’r rhossydd: a mynydd Israel, ai wastadedd.

17O fynydd Halac yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir, hyd Baal Gad yng-lynn Libanus tann fynydd Hermon: ai holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe, tarawodd hwynt hefyd a rhoddodd hwynt i farwolaeth.

18Iosuah a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny dyddiau lawer.

19Nid oedd dinas a’r a heddychodd a meibion Israel heb law’r Hefiaid presswylwyr Gibeon: Iosua.9.3.yr holl rai a ennillasant hwy drwy ryfel.

20Am ddarfod i’r Arglwydd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel fel y difrodent hwynt, ac na fydde iddynt drugaredd: onid eu difetha hwynt fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

21A’r pryd hynny y daeth Iosuah ac a ddifaodd yr Anaciaid o’r mynydd-dir, o Hebron, o Dabir, o Anab, ac o holl fynydd Iuda, ac o holl fynydd Israel: Iosuah ai difrododd hwynt ai dinasoedd.

22Ni adawyd Anaciaid yng-wlad meibion Israel: yn vnic yn Azzah, yn Gath, ac yn Asdod y gadawyd hwynt.

23Felly Iosuah a gymmerth yr holl wlâd yn ôl yr hyn oll a lefarase yr Arglwydd wrth Moses, Num.26.53.ac Iosuah ai rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ôl eu rhannau hwynt drwy eu llwythau: a’r wlâd a orphywysodd heb ryfel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help