Genesis 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Duw yn bendithio Noah ai feibion 3 yn caniatâu bwyta cig. 4 Ac yn gwahardd gwaed. 9 Duw yn addo na ddifethir y byd mwy trwy ddwfr. 12. Yr enfys yn wystl o hynny. 21 Meddwdod Noah. 22 Cam yn amherchi ei dâd, 25 ei dâd yn ei felldigo yntef 29 oedran a marwolaeth Noah.

1Duw hefyd a fendithiodd Noah, ai feibion: ac a ddywedodd wrthynt, ffrwythwch, a lluosogwch a llenwch y ddaiar.

2Eich ofn hefyd, a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaiar, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a sathr ar y ddaiar, ac ar holl byscod y môr: yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.

3Pôb ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lyssieun y rhoddais i chwi bôb dim.

4 Gene.1.29. Lefit.17.14. Er hynny na fwytewch gîg yng-hyd ai enioes ei waed.

5Canîs yn ddiau gwaed eich enioes chwithaw hefyd a ofynnaf fi, o law pôb bwyst-fil y gofynnaf ef; ac o law dŷn, o law pôb brawd iddo, y gofynnaf enioes dŷn.

6A Mat.26.52.|MAT 26:52. gwel.13.10.dywalldo waed dŷn, drwy ddŷn y tyweldir ei waed yntef, o herwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddŷn.

7Ond ffrwythwch, ac amlhewch, heigiwch ar y ddaiar, a lluosogwch ynddi.

8Duw a lefarodd wrth Noah, ac wrth ei feibion gyd ag ef: gan ddywedyd,

9Wele fi hefyd yn cadarnhau fyng-hyfammod a chwi, ac a’ch hâd chwi ar eich ôl chwi.

10Ac â phôb peth byw’r hwn gyd a chwi, a’r ehediaid, a’r anifeiliaid, ac a phôb bwyst-fil y tîr gŷd a chwi, o’r rhai oll ydynt yn myned allan o’r Arch: drwy holl fwyst-filod y ddaiar.

11Ac Esai.54.9.mi a gadarnhaf fyng-hyfammod a chwi, fel na thorrir ymmaith bôb cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac ni byddo diluw mwy i ddifetha y ddaiar.

12A Duw a ddywedodd, dymma arwydd y cyfammod yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi rhyngofi a chwi, ac a phôb peth byw yr hwn gyd a chwi, tros oesoedd tragywyddol.

13Fy mŵa a roddais yn y cwmmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngofi a’r ddaiar.

14A bydd pan Eccle.43.12.godwyf gwmwl ar y ddaiar, ac ymddangos o’r bŵa yn y cwmwl,

15Y cofiaf fyng-hyfammod yr hwn rhyngofi a chwi, ac a phôb peth byw o bôb cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddiluw mwy, i ddifetha pôb cnawd.

16A’r bŵa a fydd yn y cwmwl; ac mi a edrychaf arno ef i gofio cyfammod tragywyddol, rhwng Duw a phôb peth byw, o bôb cnawd yr hwn ar y ddaiar.

17A Duw a ddywedodd wrth Noah, dymma arwydd y cyfammod yr hwn a gadarnheais rhyngofi, a phôb cnawd: yr hwn sydd ar y ddaiar.

18A meibion Noah y rhai a ddaeth allan o’r Arch, oeddynt Sem, Cam, ac Iapheth: a Cham hwnnw dâd Canaan.

19Y tri hyn feibion Noah: ac o’r rhai hyn yr eppiliodd yr holl ddaiar.

20A Noah a ddechreuodd yn llafurwr, ac a blannodd win-llan.

21Ac a yfodd o’r gwîn, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng-hanol ei babell.

22Yna Cam tâd Canaan a welodd noethni ei dâd, ac a fynegodd iw ddau frodyr allan.

23Yna y cymmerodd Sem, ac Iapheth, ddilledyn, ac ai gossodasant ar eu hyscwyddau ill dau, ac a gerddasant yn-wysc eu cefn, ac a orchguddiasant noethni eu tâd: ai hwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.

24Yna y a ddeffrôdd Noah oi wîn, ac a wybu beth a wnaethe ei fab ieuangaf iddo.

25Ac efe a ddywedodd, melltigêdic Canaan, gwâs gweision iw frodyr fydd.

26Ac efe a ddywedodd, bendigêdic yw Arglwydd Dduw Sem, a Chanaan fydd wâs iddynt.

27Duw a helaetha ar Iapheth, ac efe a bresswylia ym mhebyll Sem: a Chanaan fyddo wâs iddynt hwy.

28A Noah fu fyw wedi yr diluw, dry-chan mlhynedd, a deng mlhynedd a deugain.

29Felly holl ddyddiau Noah oeddynt, naw can mlhynedd, a deng mlhynedd a deugain ac efe a fu farw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help