1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:
2 Exod.22.29. exod.37.12.|EXO 37:12. lefit.27.26.|LEV 27:26. num.3.3.|NUM 3:3. luc.2.23. Cyssegra i mi bôb cyntafanedig beth bynnac a agoro grôth ym mysc meibion Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi efe.
3Yna y ddywedodd Moses wrth y bobl cofiwch y dydd hwn yr hwn y daethoch allan o’r Aipht o dŷ y caethiwed, o blegit trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd.
4Heddyw yr ydych chwi yn myned allan: ar y mîs Abib.
5A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Iebusiaid yr hon a dyngodd efe, wrth dy dadau y rhodde efe i ti gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: yna y gwnei y gwasanaeth ymma ar y mîs hwn.
6Saith niwrnod y bwytei fara croiw: ac ar y seithfed dydd gŵyl i’r Arglwydd.
7Bara croiw a fwyteir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyd a thi ac na weler gennit surdoes o fewn dy holl frô.
8A mynega i’th fab y dydd hwnnw gan ddywedyd: o herwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi pan ddaethum allan o’r Aipht
9A bydded it yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid, fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau: o herwydd a llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aipht.
10A’m hynny cadw y ddeddf hon yn ei hamser nodedic: o flwyddyn i flwyddyn.
11A phan ddygo’r Arglwydd di i wlâd y Canaaneaid megis y tyngodd efe wrthit, ac wrth dy dadau: ai rhoddi i ti,
12Yna y Exod.22.29. Exod.34.19. Ezec.44.30.nailltui bôb cyntaf-anedig i’r Arglwydd: ac bôb cyntaf-anedic yr anifeiliaidy rhai a fyddant eiddo ti dôd y gwrwyiaid i’r Arglwydd.
13A phôb cyntafanedic i assyn a ryddheui di ag oen, ac oni ryddheui di yna torfynygla ef, a phôb dŷn cyntaf-anedic o’th feibion a brynni di hefyd.
14A phan ofynno dy fâb yn ol hyn gan ddywedyd, beth hyn? yna dywet wrtho a llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht o dŷ y caethiwed.
15Canys pan oedd anhawdd gan Pharao ein gollwng ni y lladdodd yr Arglwydd bôb cyntaf-anedic yng-wlâd yr Aipht, o gyntaf-anedic dŷn, hyd gyntaf-anedic anifail: a’m hynny’r ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bôb gwryw cyntaf-anedic, ond pôb cyntaf-anedic o’m meibion a brynnaf.
16A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn ractalau rhwng dy lygaid: mai a llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht.
17A phan ollyngodd Pharao y bôbl ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt drwy wlâd y Philistiaid er ei bôd hi yn nes: o blegit dywedodd Duw rhac i’r bôbl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd o honynt i’r Aipht.
18Ond Duw a arweiniodd y bôbl o amgylch trwy anialwch y môr côch: yn arfogion yr a’eth meibion Israel allan o wlâd yr Aipht.
19A Moses a gymmerodd escyrn Ioseph gyd ag ef: o herwydd efe a wnelse i feibion Israel gan ddywedyd: Duw Gen.50.25.|GEN 50:25. Ios.24.32.a ymwel a chwi yn ddiau, dygwch chwithau fy escyrn oddi ymma gyd a chwi.
20Yna’r aethant o Succoth: ac a werssyllasant yn Etham yng-hwrr yr anialwch.
21A’r Num.4.14. Deut.1.33. Psal.78.14. 1.Cor.10.1.Arglwydd oedd yn myned oi blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl iw harwein ar y ffordd, a’r nos mewn colofn o dân i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nos.
22Ni Nehem.9.19.syflodd efe y golofn niwl y dydd, na’r golofn dân y nôs, o flaen y bôbl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.