Gweledigaeth Ioan 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.4.9. Gweled y mae efe wasanaethwyr Duw wedi eu sclio yn eu talau o bôb cenhedlaeth a phobloedd. 25 Y rhai er eu bôd yn dioddef trallod er hynny y mae’r oen yn eu bwydo hwynt, ac yn eu harwain i ffynhonnau dwfr byw.

1Ac yn ôl hyn, mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaiar, yn dal pedwar gwynt y ddaiar, rhag i’r gwynt chwythu ar y ddaiar, nac ar y môr, nac ar vn pren.

2 Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fynu oddi wrth godiad haul, ac yr ydoedd sêl Duw byw ganddo, ac efe a lefodd â llais vchel ar y pedwar angel i’r rhai y rhoddasid i ddrygu’r ddaiar a’r môr,

3Gan ddywedyd, na ddrygwch y ddaiar, na’r mor, na’r coedydd hyd oni seliom wasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau.

4Ac mi a glywais rîf y rhai a seliwyd, wedi eu selio bedwar a saith vgain mil o holl lwythau meibion Israel.

5O lwyth Iuda yn seliedig ddeuddeng-mil, o lwyth Ruben yn seliedig deuddeng-mil, o lwyth Gad y seliesid deuddeng-mil.

6O lwyth Aser y seliasid deuddeng-mil, o lwyth Nephihalim y seliasid deuddeng-mil, o lwyth Manasses y seliasid deuddeng-mil.

7O lwyth Simeon y seliasid deuddengmil, o lwyth Lefi y seliasid deuddeng-mil, o lwyth Issachar y seliasid deuddeng-mil, o lwyth Zabulon y seliasid deuddeng-mil.

8O lwyth Ioseph y seliasid deuddengmil, o lwyth Beniamin y seliasid deuddeng-mil.

9Wedi hyn mi a edrychais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ni alle neb ei rhifo, o’r hôll genhedlaethau a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr orseddfaingc, a cher bron yr Oen, a gynau gwynion am danynt, a phalmwydd yn eu dwylo,

10Ac hwy a lefasant â llais vchel, gan ddywedyd, iechydwriaeth i’n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac i’r Oen.

11A’r hôll angelion a safasant o amgylch yr orseddfa, ac o amgylch yr henuriaid, a’r pedwar anifail, ac hwy a syrthiasant ger bron yr orseddfaingc ar eu hwynebau, ac a anrhydeddasant Dduw,

12Gan ddywedyd, Amen, moliant, a gogoniant, a doethineb, a diolch, ac anrhydedd a gallu, a nerth fyddo i’n Duw ni yn dragywydd, Amen.

13Ac vn o’r henuriaid, a attebodd, gan ddywedyd wrthif, pwy ydyw y rhai hyn sy â gynau gwynion am danynt? ac o ba le y daethant?

14Ac mi a ddywedais wrtho ef, ô Arglwydd, ti a ŵyddost: ac yntef a ddywedodd wrthif i: y rhai hyn yw y rhai a ddaethant allan o’r cystudd mawr, ac a olchasant eu gynnu, ac a wnaethant eu gŷnau yn wynion yng-waed yr oen.

15Am hynny y maent ger bron gorseddfaingc Dduw, ac yn ei wasanaethu ef yn ei deml ddydd a nôs, a’r vn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, a drig yn eu plith hwynt.

16Ni fydd arnynt Esay.49.10.newyn mwy, na syched mwy, ac ni syrth yr haul arnynt, na dim gwrês.

17Canys yr oen, yr hwn sydd yng-hanol yr orseddfaingc a’u bugeilia hwynt, ac a’u tywys hwynt at y ffynhonnau byw o ddyfroedd, Esay.25.8.|ISA 25:8. isod.24.4.(sic.)a Duw a sych bôb deigr oddi wrth eu llygaid hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help