1 Arglwydd na cherydda fi yn dy lid: ac na chospa fi yn dy ddigllonedd.
2Canys dy saethau a ddescynnasant ynof: a’th law a ddescynnodd arnaf.
3Nid oes iechyd yn fyng-nhawd o herwydd dy ddigllonedd: ac nid oes heddwch i’m hescyrn, o blegit fy mhechod.
4Canys fyng-hamweddau a aethant dros fy mhen, megis baich gorthrwm y maent yn rhy drwm i mi.
5Fyng-hleisiau a bydrâsant a lygrâsant gan fy ynfydrwydd.
6Crymmwyd a darostyngwyd fi’n ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alârus.
7Canys fy lwynau a lawnwyd o boethder, ac nid iechyd yn fyng-nhawd.
8Gwanhauwyd, a drylliwyd fi’n dramawr: rhuais gan ofid fyng-halon.
9O’th flaen di Arglwydd fy holl ddymuniad, ac ni chuddiwyd fy vchenaid oddi wrthit.
10Fyng-halon sydd yn cynhyrfu, fy nerth a’m gadâwodd, a llewyrch fy llygaid nid ychwaith gennif.
11Fyng-haredigion, a’m cyfeillion a safent oddiar gyfer fy mhlâ, a’m cyfneseifiaid a safent o hir-bell.
12Yna y rhai a geisient fy enaid a osodasant faglau, a’r rhai a geisient fy niwed a draethent anwirêddau, ac a ddychymmŷgent ddichellion beunydd.
13A minne fel byddar ni clywn, eithr fel mudan heb agorid ei enau.
14Felly’r oeddwn fel gŵr yr hwn ni chlywe, ac heb argyoeddion yn ei enau.
15O herwydd i’m obeithio ynot Arglwydd, ti fy Arglwydd Dduw, a wrandêwi.
16Canys dywedais, rhag llawenychu i’m herbyn, pan lithre fy nhroed ymfawrygent i’m herbyn.
17Yn ddiau i ddialedd i’m paratoiwyd, a’m dolur ger fy mron yn wastad.
18Diau y mynegaf fy anwiredd, y pryderaf o herwydd fy mhechod.
19Ac y mae fyng-elynnion yn fyw, ac yn gedyrn, amlhawyd hefyd y rhai a’m cassânt ar gam:
20A’r rhai a dâlant ddrwg dros ddâ a’m gwrthwynêbant: am ddilyn o honof ddaioni.
21Na ad ti fi ô Arglwydd fy Nuw, nac ymbellhâ oddi wrthif.
22Bryssia i’m cynnorthwyo ô Arglwydd fy iechyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
