Psalmau 104 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. ciiij.

1 Fy enaid bendithia’r Arglwydd, ô Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt: gwiscaist ogoniant, a harddwch.

2Yr hwn sydd yn gwisco goleuni fel dilledyn: yn tânu y nefoedd fel llenn.

3Yr hwn sydd yn tŷlathu yn y dyfroedd, yn gosod y cwmylau yn gerbyd iddo: ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.

4 Heb.1.7. Yr hwn sydd yn gwneuthur ysprydion yn gennadon iddo: ai wenidogion yn dân fflamllyd.

5Efe a seiliodd y ddaiar ar ei sylfeini: fel na siglo byth, nac yn dragywydd.

6Toaist hi â gorddyfnder megis â gwisc: y dyfroedd a safant ar y mynyddoedd.

7Gan dy gerydd di y ffoant, rhag sŵn dy daran y rhedant yn frawchus.

8[Fel] mynyddoedd yr ymgodant, fel glynnoedd y descynnant i’r lle yr hwn a seiliaist îddynt.

9Gosodaist derfyn fel nad elont trosodd, fel na ddychwelont i orchguddio’r ddaiar.

10Yr hwn a yrraist ffynhonnau i’r afonydd a gerddant rhwng y mynyddoedd.

11Diodant holl fwyst-filod y maes: yr assynnod gwylltion a dorrant eu syched

12Adar y nefoedd a drigant ger llaw iddynt, ac a leisiant oddi rhwng y cangau.

13Y mae efe yn dwfrhau y mynyddoedd oi vchelder: a’r ddaiar a gyflawnir o ffrwyth dy weithredoedd.

14Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llyssiau i wasanaethu dŷn: gan ddwyn bara allan o’r ddaiar,

15A gwîn hefyd y llawenycha efe galon dŷn gan beri i wynêbau ddiscleirio ag olew: ac â bara y cynnal efe galon dŷn.

16Prennau’r Arglwydd ydynt lawn cedr-wŷdd Libanus y rhai a blannodd efe.

17Lle y nytha’r adar: y ffynnidwydd tŷ y Ciconia.

18Y mynyddoedd vchel i’r geifr, creigiau yn lloches i gwnningod.

19Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedic: yr haul a edwyn ei fachludiad.

20Gosodi dywyllwch a nôs fydd: ynddi’r ymlusca pôb bwyst-fil coed.

21Y llewod a rûant am sclyfaeth, ac i geisio eu bwyd gan Dduw.

22[Pan] godo haul yr ymgasclant, ac y gorweddant yn eu llochesau.

23Dŷn aiff allan iw waith, ac iw orchwyl hyd yr hwyr.

24Mor lluosog dy weithredoedd ô Arglwydd: gwnaethost hwynt oll mewn doethineb, llawn yw’r ddaiar o’th gyfoeth.

25[Felly] mawr, a llydan’r môr: yno y mae ymlusciaid heb rifedi, bwyst-filod mawrion a bychain.

26Yno’r aiff llongau: Lefiathan a lunniaist i chware ynddo.

27Hwynt oll a ddisgwiliant wrthit am roddi eu bwyd yn ei brŷd.

28Casclant roddech iddynt: agorech dy law diwellir hwynt â daioni.

29[Pan] guddiech dy wyneb y dychrynnant, gasclech dy yspryd y trengant, ac y dychwelant iw llwch.

30[Pan] ollyngech dy yspryd y creuir hwynt, ac yr adnewyddi di wyneb y ddaiar.

31Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.

32Yr hwn a edrych ar y ddaiar, a hi a gryna, a gyffwrdd a’r mynyddoedd, a hwy a fygant.

33Canaf i’r Arglwydd yn fy mywyd, canaf i’m Duw tra fyddwyf.

34Bydd melys ganddo fy myfyrdod: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.

35Derfydd y pechaduriaid o’r tîr, ni bydd yr annuwiolion mwy: fy enaid bendithia di’r Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help