1Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Iacob a’th ddeffynno.
2Anfoned i ti gymmorth o’r cyssegr: a nerthed di o Sion.
3Cofied dy holl offrymmau: a bydded fodlon i’th boeth offrwm.Selah.
4Rhodded i ti wrth dy galon: a chyflawned dy holl arfaeth.
5Gorfoleddwn yn dy iechydwriaeth di, a derchafwn fâner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl dymuniadau.
6Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog, ac y gwrendu arno ef o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheu-law ef.
7[Ymddyried] rhai mewn cerbydau, ac eraill mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.
8Hwynt a gwympasant, ac a syrthiasant: a nynneu a gyfodasom, ac a safasom.
9Cadw Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
