1O Arglwydd holl-alluog, Duw Israel y mae yr enaid mewn ing a’r yspryd cystuddiol yn llefain arnat ti.
2Clyw Arglwydd a thrugarha, o blegit Duw trugaroc ydwyt ti: cymmer drugaredd o blegit nyni a bechasom i’th erbyn.
3O herwydd yr ydwyt ti yn aros byth, a derfydd am danom ninnau yn dragywydd.
4O Arglwydd holl-alluog, Duw Israel gwrando ar weddi y rhai a fuant feirw o Israel, a eu meibion hwynt y rhai a bechasant i’th erbyn di, ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd eu Duw, o ba achos y glynodd y dialeddau hyn wrthym ni.
5Na chofia anwireddau ein tadau ni, eithr cofia dy allu a’th enw dy hun y prŷd hyn.
6O herwydd tydi ein Harglwydd Dduw ni, a thydi ô Arglwydd a foliannwn ni.
7O blegit er mwyn hyn y rhoddaisti dy ofn yn ein calonnau ni er mwyn galw ar dy enw di a’th foliannu yn ein caethiwed, a meddwl am holl anwiredd ein tadau y rhai a bechasant ger dy fron di.
8Wele ni etto yn ein caethiwed lle y gwasceraist ti nyni yn wradwyddus yn felldigedic, ac yn drethoc yn ôl holl anwireddau ein tadau ni y rhai a enciliasant oddi wrth yr Arglwydd ein Duw ni.
9Clyw ô Israel orchymynnion y bywyd, gwrando i gael gwybod doethineb.
10Paham Israel yr ydwyt ti yn nhir dy elynnion: yr heneiddiaist ti mewn gwlad ddieithr? i’th halogwyt gan y meirw:
11[Pa ham] i’th gyfrifwyd gyd â’r rhai i vffern:
12[Am] adel o honot ffynnon doethineb.
13Pe rhodiessit ti yn ffordd Dduw, ti a drigesit mewn heddwch byth.
14Dysc pa le y mae doethineb, pa le y mae grymmusdra, pa le y mae deall, i gael gwybod hefyd pa le y mae hir hoedl, ac enioes, pa le y mae goleuni llygaid a thangneddyf.
15Pwy a gafodd ei lle hi: a phwy a aeth i mewn iw thryssorau hi:
16Pa le y mae tywysogion y cenhedloedd a llywodraeth-wŷr yr anifeiliaid y rhai ydynt ar y ddaiar:
17Y rhai oeddynt yn chware ag adar y nefoedd, ac yn tyrru arian, ac aur yn yr hwn yr ymddyried dynion, ac nid oes diben ar eu ceisio hwynt y rhai a fathent arian, a mor ofalus ac nad oedd diben ar eu gwaith hwynt:
19Hwy a ddifethwyd ac a ddescynnasant i vffern: a rhai eraill a godasant yn eu lle hwynt.
20Yn ieuainc y gwelsant hwy oleuni, ac a arhoesant ar y ddaiar: ond nid adnabuant hwy ffordd gwybodaeth.
21Ei llwybrau hi ni ddehallasant hwy chwaith, ai plant ni dderbyniasant hi, pell oedd hi oddi ar ei ffordd hwynt.
22Ni chlywyd sôn am dani hi yn Chanaan ac ni welwyd hi yn Theman.
23Yr Hagareniaid ydynt yn ceisio deall yn ddaiarol marchnadwyr y wlad, y Themaniaid ydynt yn chwedleua am, ac yn ceisio deall ond nid adwaenant hwy ffordd doethineb, ac ni feddyliasant am ei llwybrau hi.
24O Israel mor fawr yw tŷ Duw, ac mor helaeth yw ei feddiant ef.
25Mawr ac nid oes diwedd iddo ef: vchel yw efe ac anfeidrol.
26Yna yr oedd y cewri enwoc y rhai a oeddynt gynt yn gorphol ac yn medru rhyfela.
27Nid y rheini a ddewisodd Duw, ac ni roddes iddynt ffordd gwybodaeth.
28Am hynny y difethwyd hwy am nad oedd ganddynt ddoethineb: o ynfydrwydd y methasant hwy.
29Pwy a ddringodd i’r nefoedd ac ai cymmerodd hi, ac ai dugodd hi o’r cwmylau:
30Pwy a aeth tros y môr ac ai cafodd hi, ac ai dug hi o flaen aur o’r goref:
31Nid oes neb yn adnabod ei ffordd hi, nac yn ystyried ei llwybr hi.
32Ond yr hwn a ŵyr bob peth ai hedwyn hi thrwy ei ddoethineb ai cafodd hi, yr hwn a ddarparodd y ddaiar tros amser tragywyddol ai llanwodd hi ag anifeiliaid pedwarcarnol.
33Pan anfono efe oleuni allan fe a aiff, a phan ei galwo ef, efe a vfyddha mewn ofn.
34Y sêr a oleuasant yn eu gwiliadwriaethau yn llawen: efe ai galwodd hwynt, ac hwy a ddywedasant: dymma ni, goleuasant yn llawen i’r hwn ai gwnaeth hwynt.
35Dymma ein Duw ni, na chyffelyber arall iddo ef.
36Efe a gafodd allan ffordd gwybodaeth, ac ai rhoddes hi i Iacob ei was, ac i Israel ei annwylyd.
37Wedi hyn yr ymddangosodd efe ar y ddaiar, ac y trigodd efe ym mysc dynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.