Esay 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Dammeg y winllan yn dangos daioni Duw iw bobl. 7 Eu drigioni hwythau. 13 A chospedigaeth Duw am hynny.

1Canaf yr awr hon i’m hanwylyd ganiad fy annwylyd am ei winllan: Iere.2.21.|JER 2:21. mat.21.33gwinllan sydd i’m hannwylyd mewn brynn tra ffrwythlon.

2Ac efe ai cloddiodd hi, ac ai digarregodd, ac ai plannodd o’r win-wydden oref, ac a adailadodd dŵr yn ei chanol, a thrychodd hefyd winwryf ynddi: yna a ddiscwiliodd ddwyn grawn-win, ond hi a ddûg rawn gwylltion.

3Ac yr awr hon presswylwŷr Ierusalem, a gwŷr Iuda, bernwch attolwg rhyngofi a’m gwinllan.

4Beth iw wneuthur ychwaneg i’m gwinllan nag a wneuthum ynddi? pa ham a mi yn disgwil iddi ddwyn grawn-win, y dûg hi rawn gwylltion?

5Ac yr awr hon mi yr hyspysaf i chwi yr hyn yr ydwyfi ar ei wneuthur i’m gwinllan: tynnaf ymmaith ei chae fel y porer hi, gan ddryllio ei chlawdd fel y byddo hi yn sathrfa.

6A mi ai gosodaf hi yn ddifrod, nid yscythrir hi, ac ni chwynnir hi, onid mieri a drain a gyfyd: ac i’r cwmylau y gorchymynnaf na lawiont law arni.

7Diau gwinllan Arglwydd y lluoedd tŷ Israel, a gwŷr Iuda ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele blâ, am gyfiawnder, ac wele lef.

8Gwae y rhai sy yn cysylldu tŷ at dŷ, ac yn cwplyssu maes wrth faes: hyd oni byddo eisiau lle, ac y trigoch chwi yn vnic yng-hanol y tîr.

9Lle y clywais Arglwydd y lluoedd, nid oni bydd tai lawer, mawrion a thêg yn anrhaith heb drigiannudd.

10Canys dêc cyfer o winllan a ddygant vn Bath, a lle Gomer a ddwg Epha.

11Gwae y rhai a gyfodant yn foreu, ac a ddilynant ddiod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr enynno y gwîn hwynt.

12Ac yn eu gwleddoedd hwynt, y mae y delyn, a’r nabel, y tympan, y bibell hefyd, a’r gwîn: ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwy-law ef ni welant.

13Am hynny y caeth-gludwyd fy mhobl mau fi o eisie gwybodaeth, ai gogoniāt dynnion newynog, ai gweryn a wywodd gan syched.

14Herwydd hynny’r ymehangodd vffern ei hun, ac yr agorodd ei safn yn anferth, fel y discynne eu gogoniant, ai gweryn, ai rhwysc, a’r hwn a lawenycho ynddi.

15Felly y crymmir dyn, ac y darostyngir gŵr: a llygaid y rhai vchel a issêlir.

16Ac Arglwydd y lluoedd a dderchefir mewn barn: a’r Duw sanctaidd a sancteiddir a sancteddiwyd mewn cyfiawnder.

17Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer: a dieithriaid a fwyttânt ddiffaithfaoedd y breision.

18 2 Pet.3.4. Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd: a phechod megis â rhaffau menn:

19Y rhai a ddywedant, bryssied, a chyflymmed ei orchwyl fel y gwelom: nesaed hefyd, a deued cyngor Sanct yr Israel fel y gwypom.

20Gwae y rhai a ddywedant am y drwg da ac am y da, drwg gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch, y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw.

21Gwae y rhai ydynt ddoethion yn eu golwg eu hun: a’r rhai deallgar yn eu bryd eu hun.

22Gwae y rhai cryfion i yfed gwîn, ai dynnion nerthol i gymmyscu diod gadarn:

23Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir ei gobr, ac a gymmerant ymmaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt.

24Am hynny megis ag yr yssa y ffagl dân y sofl, ac y difâ y fflam y mân vs: y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, ai blaguryn a gyfyd i fynu fel llŵch: canys dirmygasant gyfraith Arglwydd y lluoedd, a diystyrasant ymadrodd Sanct yr Israel.

25Am hynny’r enynnodd llîd yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac ai tarawodd hwynt, fel y dychrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedic yng-hanol yr heolydd: er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond etto ei law ef yn estynnedic.

26Ac efe a gyfyd fâner i’r cenhedloedd o bell, ac a chwibiana arnynt hwy o eithaf y ddaiar: ac wele ar frŷs yn fuan y deuant.

27Ni blîn, na thramgwyddedic yn eu plith, ni huna, ac ni chwsc, ac ni ddatodir gwregys ei lwynau: ac ni ddryllir carre ei escidiau.

28Yr hwn ai saethau yn llymmion, ai holl fwâu yn anneloc: carnau ei feirch ef a ydynt fel callestr, ai olwynion ef fel corwynt.

29Ei ruad fel llew; efe a rua fel cenawon llew, efe a chwrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysclyfaeth, efe a ddiangc hefyd, ac ni achubudd.

30Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw, fel rhuad y môr: yna yr edrychir tua’r ddaiar, ac wele dywyllwch, chyfyngder, a’r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help