1Fy chwythad a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau barod i mi.
2Onid gwatwar-wŷr gyd a’m fi? a’m llygad sydd yn aros yn eu chwerwedd hwynt.
3Caniadhâ atolwg gyd-fachnio a mi: pwy efe deru ei law yn fy llaw i?
4Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni dderchefi di
5Yr hwn a ddywed weniaith iw gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant.
6Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl, fel y byddwn yn watwargerdd oi blaen hwynt.
7Am hynny y crychodd fy llygad gan ddigllonedd: fy aelodau oll fel cyscod.
8Y rhai iniawn a synnant am hynn: a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithwŷr.
9Yna y cyfiawn a ddeil ei ffordd: a’r glân ei ddwylaw a chwanega gryfdwr.
10Ond dychwelwch chwithau oll, a deuwch atolwg: ac ni chafi doeth yn eich plith chwi.
11Fy nyddiau aethant heibio, fy amcannion a dynned ymmaith: meddyliau fyng-halon.
12Gosodant nos liw dydd, a’r goleuni cyfagos yn dywyllwch.
13Er a ddisgwiliaf, y bedd tŷ i mi: mewn tywyllwch y cyweiriaf fyng-wely.
14Gelwais ar y pwll, ty di fy-nhad: ar y pryf, fy mam a’m chwaer
15A pha lê yn awr fyng-obaith? pwy hefyd a genfydd fyng-oglud?
16[Fyng-obaith] a ddescyn gyd a mi i’r bedd: cyd-orphywyswn yn y llŵch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
