1Dywedais, cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu a’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fyng-enau tra’r annuwiol yn fyng-olwg.
2Tewais yn ddistaw, tewais a daioni: a’m dolur a gyffrôdd.
3Gwresôgodd fyng-halon o’m mewn: tra y myfyriais, enynnodd tân, mi a leferais a’m tafod.
4Arglwydd gâd ti i mi ŵybod fy niwedd, a pheth yw nifer fy nyddiau: gad ti i mi ŵybod o ba oedran fi.
5Wele rhoddaist fy nyddiau dyrnfedd, a’m henioes megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd pôb dŷn byw.Selah.
6Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cyscod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra ac ni’s gŵyr pwy ai cascl.
7Ac yn awr beth a obeithiaf ô Arglwydd: fyng-obaith sydd ynot ti.
8Gwaret fi o’m holl gamweddau: na osot fi yn wradwydd i’r ynfyd.
9Aethum yn fûd, nid agorais fyng-enau: canys ti a wnaethost
10Tynn dy blâ oddi wrthif: gan ddyrnod dy law y darfûm i.
11[Pan] gospit ddyn â cheryddon am anwiredd, dattodit fel gŵyfyn ei ardderchawgrwydd ef: gwagedd am hynny yw pôb dŷn.Selah.
12Gwrando fyng-weddi, Arglwydd, a chlyw fy llef, na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithudd ydwyf gyd â thi, ac alltud, fel fy holl dadau.
13Paid ti â mi, fel y cryfhauwyf cyn fy myned: ac na byddwyf
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
