Lefiticus 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Adroddiad Cyfreithiau a gynhwysir yn y dêc gorchymyn.

1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:

2Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywet wrthynt: Lefit.11.44. Lefit.20.7. 1.Pet.1.16.byddwch sanctaidd canys sanctaidd fi yr Arglwydd eich Duw chwi.

3Ofnwch bôb Exod.20.12.vn ei fam, ai dâd, a * chedwch fy Sabbothau: yr Arglwydd eich Duw fi.

4Na throiwch at eulynnod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd, yr Arglwydd eich Duw fi.

5A phan aberthoch hedd aberth i’r Arglwyd yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny

6Ar y dydd yr offrymmoch, neu drannoeth y bwytteir ef, Lefit.7.16.a llosger mewn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd.

7Ond os gan fwytta y bwytteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaid fydd efe, ni byddir bodlon iddo.

8A’r hwn ai bwyttu a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cyssegredic yr Arglwyd, a’r enaid hwnnw a dorrir ymmaith oddi wrth ei bobl.

9A phan gynhaiasoch gynhaiaf ei’ch tîr, Lefit.23.22.na feda yn llwyr gwrr dy faes, ac na chynnull loffa dy gynhaiaf.

10Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan, gâd hwynt i’r tlawd ac i’r dieithr, yr Arglwydd eich Duw chwi fi.

11Na Exod.20.15|EXO 20:15. Ephes.4.28|EPH 4:28. Zach.8.16.Iadratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bôb vn ei gymydog.

12Ac Exod.20.7. Deut.5.11. Math.5.34.na thyngwch i’m enw mau fi yn anudon, haloga enw dy Dduw: yr Arglwydd fi.

13Na Deut.24.14. Tob.4.15.thraws-attal, ac na cham ddwg oddi ar dy gymydog, na thriged cyflog y gweithwr gyd a thi hyd y boreu.

14Na Deut.18.27.(sic.)chabla y byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall: ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd fi.

15Na Exod.23.3. Deut.1.27. Deut.16.19. Iam.2.2.wnewch gam mewn barn, na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.

16Ac na rodia yn ethrodwr ym mysc dy bobl, Diare.23.23.|DEU 23:23. 1.Timo.5.13na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd fi.

17Na 1.Ioan.2.1.chasa dy frawd yn dy galon, gan Math.5.46. Math.18.15. Eccl.19.10.|SIR 19:10. Rhuf.13.8. Rhuf.12.7. Gal.5.14.|GAL 5:14. Iam.2.8.geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo.

18Na ddiala, ac na chadw Iîd i feibion dy bobl, ond * câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd fi.

19Cedwch fy neddfau, na wna i’th anifeiliaid gydio o amryw rywiogaeth, ac na haua dy faes ag amryw had, ac nac aed am danat Deut.22.11.ddilledyn cymmysc o amryw ddefnydd.

20A phan fyddo i ŵr a wnelo a benyw, a hithe yn forwyn gaeth wedi ei dyweddio i ŵr ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhydddid iddi, bydded gurfa, ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd.

21A dyged efe yn aberth tros ei gamwedd i’r Arglwyth i ddrws pabell y cyfarfod hwrdd dros gammedd.

22A gwnaed yr offeiriad iawn trosto a’r hwrdd tros gamwedd, ger bron yr Arglwydd am ei bechod yr hwn a bechodd, a maddeuir iddo am ei bechod yr hwn a wnaeth efe.

23A phan ddeloch i’r tîr, a phlannu o honoch bôb pren ymborth, yna torrwch ymmaith ei aflendid ef, sef ei ffrwyth ef: tair blynedd y bydd efe aflan i chwi: na fwyttaer efe.

24A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sancteiddrwydd moliant i’r Arglwydd.

25Ar bummed flwyddyn y bwyttewch ei ffrwyth fel y chwanego efe eignwd i chwi: myfi yr Arglwydd eich Duw.

26Na fwyttewch o’r gwaed, nac ofer-goeliwch, ac nac arferwch hudoliaeth.

27Na Lefit.21.5.thalgrynnwch odrau eich pen, ac na thorr gwrr dy farf.

28Ac na roddwch Deut.14.1.cwygiad yn eich cnawd am vn marw, ac na roddwch brint nôd arnoch: yr Arglwydd fi.

29Na haloga dy ferch gan beri iddi butteinio, rhac putteinio y tîr, a llenwi y wlâd o scelerder.

30Cedwch fy Sabbothau, a pherchwch fyng-hyssegr: yr Arglwydd fi.

31Nac edrychwch am ddewiniaid, Lefit.20.6. Deut.18.10. 1.Sam.28.9.ac nac ymgynghorwch a’r brud-wyr, i ymhalogi oi plegit: yr Arglwydd eich Duw fi.

32Cyfot ger bron penwynni, a pharcha wyneb henuriad, ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd fi.

33A phan ymdeithio dieithrddyn yng-hyd a thi yn eich gwlâd: na flinwch ef.

34Bydded y dieithr i chwi yr hwn a ymdeithio yn eich plîth, fel yr vn a hanffod o honoch, a châr ef fel ti dy hun: o herwydd dieithraid fuoch yng-wlad’r Aipht, yr Arglwydd eich Duw fi.

35Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys nac ar fessur.

36Bydded iwch Diarch.11.1.|PRO 11:1. Dihar.16.11.|PRO 16:11. Diarch.20.10.glorianuau cyfiawn, gerric cyfiawn, Epha gyfiawn, a Hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aipht.

37Cedwch chwithau fy holl ddedfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd fi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help