1.Machabæaid 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.1 Antiochus yn ewyllysio ennill dinas o fewn Elymais iw hyspeilio, a’r dinassyddion yn ei yrru ef ymmaith. 8 Efe yn clafychu, ac yn marw. 17 Gwneuthur Antiochus ei fab yn frenin. 34 Hwnnw yn amgylchu Sion, Eupator yn dyfod i Iudea â llu mawr. 43 Gwrolaeth Eleazar.

1AC Antiochus y brenin a dramwyodd trwy ’r gwledydd vchaf, ac a glybu fod yn Elymais o fewn Persia ddinas anrhydeddus o olud o arian ac aur.

2A bod teml gyfoethog lawn ynddi hi, a gwiscoedd, a llurigau, a thariānau o aur y rhai a adawse Alexander mab Philip brenin Macedonia yno, yr hwn a deyrnasase o’r blaen a’r y Groec-wŷr.

3Am hynny efe a aeth, ac a geisiodd ennill y ddinas ai hyspelio hi, ond ni alle efe, o blegit cael o’r dinasyddion ŵybod y peth, ac am hynny hwy a godasant yn ei erbyn ef i ryfel.

4Ond efe a ffôdd, ac a ymadawodd oddi yno mewn tristwch mawr, ac a ddychwelodd i Babilon.

5Hefyd rhyw vn a ddaeth, ac a fynegodd iddo ef yn Persia, ymlid ymmaith y gwerssyll­oedd y rhai a aethent i wlâd Iuda,

6Ac fel yr aethe Lysias â llu cadarn yn gyntaf, ac yr ymlidiesid ef oi blaen hwynt, ac fel yr aethent hwy yn gryfach o ran arfau a llu, ac yspail lawer y rhai a gymmerasent hwy oddi ar y gwerssylloedd a dorrasent hwy ymmaith.

7Ac fel y destruwiasent hwy ’r ffiaiddbeth yr hwn a adeiladase efe ar yr allor yn Ierusalē, ac yr amgylchasent hwy ’r cyssegr â chaerau vchel fel y buase efe o’r blaen, a Bethsura ei ddinas ef hefyd.

8Felly y digwyddodd pan glybu y brenin y geiriau hyn efe a ofnodd, ac a gythruddodd yn ddirfawr: am hynny efe a orweddodd ar ei wely, ac a syrthiodd mewn clefyd oddi wrth y tristwch hwnnw, a’r cwbl am na ddigwyddase iddo ef fel yr amcanase efe.

9Ac efe a arhôdd yno lawer o ddyddiau, canys ei dristwch ef oedd fwyfwy, ac efe a wnaeth gyfrif y bydde efe farw.

10Am hynny efe a ddanfonodd am ei holl garedigion, ac a ddywedodd wrthynt hwy, mae ’r cyscu wedi ymadl â’m llygaid, ac mi a dorrais fyng-halon o wîr ofid.

11O blegit pan feddyliwyf yn fyng-halon i ba drallod y deuthym, ac ym-mha afonydd o drymder yr ydwyf yrywan, lle ’r oeddwn i o’r blaen yn llawen, ac yn gariadus yn fy awdurdod,

12Ac yrywan yr ydwyfi yn cofio ’r drwg a wneuthym i yn Ierusalem, fel y dygais i ymmaith yr holl lestri aur, ac arian a oedd ynddi hi, ac fel y danfonais i ddestruwio trigolion Iuda yn ddiachos.

13Myfi a wn mai am hynny y cefais y drwg ymma, ac wele darfu am danaf fi trwy a­laeth mawr mewn gwlâd ddieithr.

14Yna efe a alwodd am Philip vn oi garedigion, ac ai gosododd ef yn llywodraeth-wr ar ei holl deyrnas,

15Ac a roddes iddo ef ei dalaeth, ai fantell, ai fodrwy, fel y galle efe gymmeryd Antiochus ei fab ef atto, ai ddwyn ef i fynu i deyrnasu.

16Ac Antiochus y brenin a fu farw yno yn y nawfed flwyddyn a deugain a chant.

17Pan ŵybu Lysias farw o’r brenin, efe a osododd Antiochus ei fab ef ideyrnasu yn ei lê ef, yr hwn a ddygase efe i fynu, ac ai galwodd ef Eupator.

18A’r rhai oeddynt yn y castell a gadwasant yr Israeliaid i mewn yn amgylch y cyssegr, ac a geisiasant eu drygu hwy yn wastadol, er mwyn cadarnhau ’r cenhedloedd.

19Am hynny yr amcanodd Iudas eu destruwio hwy, ac efe a gasclodd yr holl bobl yng­hyd iw hamgylchynu hwy.

20Felly hwy a ddaethant yng-hyd, ac ai hamgylchynasant hwy yn y ddecfed flwyddyn a deugain a chant, ac a wnaethant leoedd i’r tafl-wŷr i sefyll a rhyfel-offer.

21Yna rhai o’r rhai yr oeddyd yn eu hamgylchu a aethant allan, sef o’r gwŷr annuwiol o Israel, ac a lynâsant wrthynt hwy hefyd.

22Ac a aethant at y brenin, ac a ddywedasant, pa hŷd y byddi di heb wneuthur cospedigaeth a dialedd ar ein brodyr ni:

23Yr oeddem ni yn fodlon i wasanaethu dy dâd ti, i rodio fel y dywede efe, ac i vfyddhau iw orchymynnion ef.

24Am hynny ein pobl a ymddieithrasant oddi wrthym ni, a pha le bynnac y cawsant hwy neb o honom ni hwy ai lladdasant hwy, ac hwy a yspeiliasant ein etifeddiaeth ni.

25Ac nid estynnasant hwy eu dwylo yn vnic yn ein herbyn ni, ond yn erbyn ein holl gyffiniau.

26Ac wele y maent hwy wedi gwerssyllu heddyw yn erbyn y castell yr hwn sydd yn Ierusalem i’w orescyn ef, a hwy a gadarnhasant y cyssegr, a Bethsura.

27Ac o ddigerth i ti achub eu blaen hwy yn fuan, hwy a wnant bethau mwyn nâ’r rhain, fel na’s gellech di eu hattal hwy.

28Pan glybu’r brenin hynny, efe a ddigiodd, ac a gasclodd ei holl garedigion yng-hyd, capteiniaid ei lu ai ai wŷr meirch.

29Yna y daeth atto ef oddi wrth frenhinoedd eraill, ac o ynysoedd y môr lu ar gyflog.

30A rhifedi ei lu ef oedd gan-mil o wŷr traed, ac vgein mil o wŷr meirch, a deuddec ar hugain o elephantiaid wedi eu dyscu i ryfela.

31Y rhai a ddaethant trwy Idumaea i Beth­sura, ac a werssyllasant yn ei herbyn hi tros lawer o ddyddiau, ac a osodasant allan lawer o ryfel offer yn ei herbyn hi, ond a ddaethant allan, ac a loscasant y rheini â thân, ac a ymladdâsant fel gwŷr.

32Yna Iudas a ymadawodd oddi wrth y castell, ac a werssyllodd yn Bethzacaran gyferbyn a gwerssyll y brenin.

33A’r brenin a gyfododd yn foreu, ac a ddygodd y llu ar ruthr i’r ffordd tua Bethzacaran: a’r llu a ymrannodd i ryfela, ac a ganodd vdcyrn.

34Ac hwy a ddangosasant sugyn grawn­win, a mor-wŷdd i’r elephantiaid i’w hannog hwy i’r rhyfel.

35Ac a rannasant yr anifeiliaid ym mysc y byddinoedd, ac a ordeiniasant fil o wŷr wedi eu gwisco mewn llurigau o fodrwryau, ac â helmau o brês am eu pennau i bob elephant, a phump cant o wŷr meirch etholedic a ordeineid hefyd i bob elephant.

36Y rhai a galynent ’r elephant, gan fyned i ba le bynnac yr ele efe, ac ni ymadawent hwy oddi wrtho ef.

37A phob elephant a orchguddiasid â thŵr cadarn o goed wedi ei siccrhau arno ef ag offer, ac yr oedd deuddec ar hugain o ryfel-wŷr ag arfau i ymladd oddi arno efym-mhob tŵr, a gŵr o India’r anifail.

38Ac efe a osododd weddill y gwŷr meirch yn yr ystlysau yn ddwy ran ag vdcyrn i annog, ac i gynhyrfu y rhai diweddaraf o’r llu.

39A phan dywynne yr haul ar eu tariannau hwy o aur, y mynyddoedd a ddiscleirient oddi wrthynt hwy, ac oeddynt cyn loewed a flam dân.

40Ar naill ran o werssyll y brenin oedd yn cyrheddyd hyd at y mynyddoedd vchel, a’r llall hyd at y lleoedd isel, ac felly hwy a aethant yn ddiofal ac mewn trefn.

41A holl trigolion y wlâd a synnasant wrth glywed sŵn eu gwerssyll hwy, a cherddediad y llu a’r arfau yn taro yng-hyd, canys yr oedd y llu yn fawr anianol ac yn gadarn.

42Iudas hefyd ai lu a nessaodd i’r rhyfel, ac a laddodo chwe-chant o wŷr o werssyll y brenin.

43Pan welodd Eleazar mab Abaron vn o’r elephantiaid wedi ei wisco â llurig y brenin, ac yr oedd efe yn vwch na’r anifeiliaid eraill, efe a feddyliodd mai ar hwnnw yr oedd y brenin.

44Am hynny efe a ymroes i achub ei bobl, ac i ennill iddo ei hun enw tragywyddol.

45Am hynny efe a redodd yn galonnoc at yr elephant hwnnw trwy ganol y fyddin, ac ai lladdodd hwy ar y llaw ddehau, ac ar y llaw asswy, oni ymwahanasont hwy oddi wrtho ef o bob tu.

46Ac efe a aeth at draed yr elephant, ac a y­mosododd tano ef, ac ai lladdodd ef: yna ’r elephant a syrthiodd i lawr arno ef, ac efe a fu farw yno.

47Ond pan welodd Iudas ai wŷr gader­nid y brenin a rhuthr y lluoedd, hwy a giliasant oddi wrthynt hwy.

48Ar rhai oeddynt o werssyll y brenin a aethant i fynu yn eu herbyn hwy tu ag Ierusalem, fel y galle ’r brenin werssyllu yn erbyn Iuda a mynydd Sion.

49Hefyd y brenin a wnaeth heddwch rhyngddo a’r Bethsuriaid, ond pan ddaethant hwy allan o’r ddinas (am nad oedd ganddynt hwy borthiant yno i ymgadw ynddi hi o blegit ei bod hi yn Sabboth i’r tîr)

50Y brenin a gymmerodd Bethsura, ac a osododd wŷr iw chadw hi, ac a drôdd ei lu tu a’r cyssegr,

51Ac efe a osododd ryfel wrtho ef tros law­er o ddyddiau, ac a wnaeth yno bôb math ar ryfel-offer, bwâu a gwaith i seuthu tân, a gwaith i seuthu cerrig, scorpionau i seuthu saethau o thaflau.

52Yr Iddewon hefyd a wnaethant ryfel­offer yn eu herbyn hwythau, ac a ymladdasant yn hir o amser.

53Ond nid oedd mor bwyd yn y ddinas o blegit y seithfed flwyddyn oedd hi er pan ddechreuase y rhyfeloedd, âr cenhedloedd y rhai a drigasent o fewn Iuda a fwyttasent eu holl stôr hwy.

54Ac ni adawsid ond ychydig wŷr yn y cyssegr, o blegit newyn ai gorchfygodd hwy oni thynnasant hwy ymmaith pob vn iw le ei hun.

55Pan glybu Lysias fod Philip (yr hwn a osodase Antiochus y brenin pan oedd efe etto yn fyw i ddwyn Antiochus ei fab i fynu i deyrnasu)

56Wedi dyfod trachefn o Persia, a Media â llu ’r brenin, ai fod efe yn ceisio ymyrryd â matterion y frenhiniaeth,

57Yna hwy a frysiasant, ac hwy a annogwyd o’r castell i fyned a dywedyd wrth y brenin a chapteniaid y llu a’r gwŷr yr ydym ni yn deffygio beunydd, ac nid oes cennym ni ond ychydig borthiant, drachefn y lle yr ydym ni yn ei amgylchu sy gadarn, ac angenrheidiol ydyw i ni gymmeryd gofal am y deyrnas.

58Am hynny cymmodwn a’r gwŷr hyn, a gwnawn heddwch rhyngom â hwynt, ac âi holl bobl hwy:

59A chaniatawn iddynt hwynt fyw yn ôl eu cyfraith, fel yr oeddynt hwy o’r blaen, canys y maent hwy wedi eu cythruddo: a hyn oll a wnaethāt hwy yn ein herbyn ni am ddiystyru o honom ni eu cyfreithiau hwynt.

60A’r brenin a’r tywysogion a fuant fodlon, ac a ddanfonasant attynt hwy i gynnig heddwch, ac hwy ai derbynniasant.

61A’r brenin a’r tywysogion a dyngasant iddynt hwy, ac ar hynny hwy a ddaethant allan o’r castell.

62A’r brenin a aeth i fynu i fynydd Sion, ond pan welodd efe gadernid y lle, efe a dorrodd y llw a dyngase efe, ac a orchymynnodd ddestruwio y caerau oddi amgylch.

63Yna efe a ymadawodd ar frŷs, ac a ddych­welodd i Antioch, ac a gafodd Philip yn arglwyddiaethu ar y ddinas, ac a ymladdodd ag ef, ac a orescynnodd y ddinas wrth gryfder.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help