1Yna yr adailadodd Salomon ei dŷ ei hun Pen.9.10tair blynedd ar ddêc, ac a orphēnodd ei holl dŷ.
2Adailadodd efe hefyd dŷ coedwic Libanus, yn gant cufydd ei hŷd, ac yn ddêc cufydd a deugain ei lêd, ac yn ddêc cufydd ar hugain ei vchter: ar bedair rhês o glofnau cedr-wŷdd, a thrawstiau cedr-wŷdd ar y colofnau.
3A byrddiad o cedr-wŷdd oddi arnodd ar y trawstiau y rhai ar y pump colofn a deugain: pymthec y rhês.
4Ac tair rhês o ffenestri, sef ffenestr ar gyfer ffenestr dair gwaith.
5A’r holl ddryssau a’r gorsyngau bedwar corneloc, y ffenestri: ffenestr ar gyfer ffenestr dair gwaith.
6Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau yn ddêc cufydd a deugain ei hŷd, ac yn ddêc cufydd ar hugain ei lêd: a’r porth oi blaen hwynt, sef ar y colofnau, a swmmerau oi blaen hwythau.
7Porth yr orseddfa hefyd yr hwn y barne efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wiscwyd a cedr-wŷdd o sylfaen hyd sylfaen.
8Ac dŷ ei hun yr hwn y trige efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewn y porth fel y gwaith hyn: gwnaeth efe hefyd dŷ i ferch Pharao’r hon a briodase Salomon, fel y porth hwn.
9Hyn oll o feini gwerthfawr wedi eu naddu wrth fesur, lladd a llif o fewn, ac allan: a o’r sylfaen hyd y llogel: ac oddi allan hyd y cyntedd mawr.
10Ac efe a sylfaenesid a meini gwerthfawr, a meini mawr, a meini o ddêc cufydd, ac a meini o wyth gufydd.
11Ac oddi arnodd meini gwerthfawr, wedi eu naddu wrth fesur, a cedr-wŷdd.
12Ac cyntedd mawr o amgylch dair rhês o gerric nadd, a rhês o drawstiau cedr-wŷdd: fel i gyntedd tŷ’r Arglwydd oddi fewn, ac i borth y tŷ.
13A’r brenin Salomon a anfonodd, ac a gymmerodd Hiram o Dyrus.
14Mab gwraig weddw hwn o lwyth Nephthali, ai dâd yn ŵr ô Dyrus) gôf prês a llawn ydoedd efe o ddoethineb a ddeall, a gwybodaeth i weithio pob gwaeth o brês, ac efe a ddaeth at y brenin Salomon, ac a weithiodd ei holl waith ef.
15Ac efe a luniodd ddwy golofn brês, deu-naw cufydd vchter vn golofn, a llinin o ddeuddec cufydd hamgylche yr ail golofn.
16Ac efe a wnaeth ddau gnapp o brês tawdd, iw rhoddi ar bennau y colofnau: pump cufydd vchter y naill gnapp, a phump cufydd vchter y cnapp arall.
17Efe a wnaeth rwyd-waith, yn blethiadau o waith cadwynau ar y cnappiau y rhai ar ben y colofnau: saith ar y naill gnapp, a saith ar gnapp arall.
18Felly y gwnaeth efe y colofnau, a dwy rês o bomgranadau o amgylch ar y naill rwyd waith i guddio y cnappiau y rhai vwch benn: ac felly y gwnaeth efe i’r cnapp arall.
19A’r cnappiau y rhai ar benn y colofnau o waith lili yn y porth yn bedwar cufydd.
20Ac ar y cnappiau ar y ddwy golofu oddi arnodd ar gyfer y canol y rhai tros yr rhwyd-waith: felly y pomgranadau ddau cant yn rhesau o amgylch ar yr ail cnapp.
21Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml, pan gyfododdefe y golofn ddehau, yna y galwodd efe ei henw hi Iachin, ac efe a gyfododd y golofn asswy, ac a alwodd ei henw hi Boaz.
22Ac ar benn y colofnau yr gwaith lili: felly y gorphennwyd gwaith y colofnau.
23Ac efe a wnaeth gerwyn dawdd yn ddec cufydd oi hymyl bwy gilydd, yn gron oddi amgylch: ac yn bump cufydd ei huchter, a llinin o ddêc cufydd a’r hugain ai humgylche hi oddi amgylch.
24A chnappiau ai hamgylchent hi tann ei hympl o amgylch, dêc mewn cufydd oeddynt yn amgylchu y gerwyn 2.Cron.4.3.o amgylch: y cnappiau yn ddwy rês wedi eu bwrw pan fwrriwyd hithe.
25Sefyll yr oedd hi ar ddeuddec o ychen, tri oeddynt yn edrych tua yr gogledd, a thri yn edrych tua yr gorllewyn: tri hefyd yn edrych tua yr dehau, a thri yn edrych tua yr dwyrain, a’r gerwyn arnynt oddi arnodd, ai pennau ôl hwynt oll o fewn.
26Ei thewder hi hefyd ddyrnfedd, ai hymyl fel gwaith ymyl cwppan: blodeun lili, dwy fil o Bathau a anne ynddi.
27Hefyd efe a wnaeth ddêc o ystolion pres, pedwar cufydd hŷd pobl ystôl, a phedwar cufydd eu llêd, a thri chufydd eu huchter.
28Ac dymma waith yr ystolion, ystlysau iddynt, a’r ystlysau rhwng delltennau.
29Ac ar yr ystlysau y rhai rhwng y delltennau llewod, ychen, a Cherubiaid: ac ar y dellt ystol oddi arnodd, ac oddi tann y llewod a’r ŷchen cyssylltiadau o waith teneu.
30A phedair olwyn brês i bôb ystôl, a phlangciau prês: ac yn eu pedair congl derbynniadau iddynt hwy: tann y noe derbyniadau wedi eu toddi ar gyfer pôb cyssylltiad.
31Ai genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd wrth cufydd, canys ei genau hi oedd grwnn ar waith yr ystôl yn gufydd a hanner: ac ar ei hymyl hi cerfiadau, ai hystlysau hwynt yn bedwar ochroc, nid yn grynnion.
32A’r pedair olwyn tann yr ystlysau, ac echelau yr olwynion trwy yr ystôl: ac vchter pôb olwyn yn gufydd, a hanner cufydd.
33Gwaith yr olwynion hefyd fel gwaith olwynion menn, ei hechelau, ai bothau, ai cammegau, ai hadenyd oll yn dawdd.
34Ac pedwar derbynniad ar bedair congl pôb ystôl, o’r ystôl ei derbyniadau hi.
35Ac ar benn yr ystôl cwmpas o amgylch o hanner cufydd o vchter, ar benn yr ystôl hefyd ei hymylau, ai hystlysau, o honi ei hun.
36Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi, ac ar ei hystlysau hi Gerubiaid, llewod, a phalm-wŷdd wrth ystlys eu gilydd, a’r cyssylltiadau iddi o amgylch.
37Fel hyn y gwnaeth efe y dêc ystôl, vn doddiad, vn fesur, ac vn agwedd iddynt hwy oll.
38Gwnaeth hefyd ddeng noe brês, deugain Bath a ddalie pôb noe, yn bedwar cufydd bôb noe, phôb noe ar vn ystôl, o’r dec ystôl.
39Ac efe a roddes bump ystôl ar ystlys dehau y tŷ, a phump ar yr ystlys asswy i’r tŷ: a’r gerwyn a roddes efe tu y dehau i’r tŷ tua yr dwyrain, ar gyfer y dehau.
40Gwnaeth Hiram hefyd noeau, a rhawiau a chawgiau, a Hiram a orphennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Salomon nhŷ yr Arglwydd.
41Y ddwy golofn, a’r cnappiau coronoc y rhai oeddynt ar benn y ddwy golofn, a dwy bleth i guddio y ddau gnapp goronoc y rhai ar y colofnau.
42A phedwar cant o bomgranadau yn y ddwy bleth: dwy rês o bomgranadau ar hyd pôb pleth, i guddio y ddau gnapp goronoc y rhai ar benn y colofnau.
43A’r dêc ystôl, a’r dêc noe ar yr ystôlion.
44Ac vn gerwyn, a deuddec o ŷchen tann y gerwyn.
45A’r crochanau, a’r rhawiau a’r cawgiau, a’r holl lestri y rhai a wnaeth Hiram i’r brenin Salomon nhŷ yr Arglwydd o brês glorw.
46Yng-wastadedd Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn clei-dir, rhwng Succoth, a Zarthan.
47A Salomon a beidiodd yr holl lestri rhac mor ddirfawr aml anfeidrol oedd pwys y prês.
48A Salomon a wnaeth yr holl ddodrefn y rhai dŷ yr Arglwydd: sef yr allor aur, a’r bwrdd aur, yr hwn y bar a gosod arno.
49A phump canhwyll-bren o’r tu dehau, a phump o’r tu asswy o flaen y gafell yn aur pur, a’r blodau, a’r lusernau, a’r gefeiliau o aur.
50Y phiolau hefyd, a’r psaltringau, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thusserau o aur coeth, a bachau dôrau y tŷ o fewn y cyssegr sancteiddiaf, a dorau tŷ y deml aur.
51Felly y gorphennwyd yr holl waith yr hwn a wnaeth y brenin Salomon i dŷ yr Arglwydd, a Salomon a ddûg 2.Cron.5.1.yr hyn a gyssegrase Dafydd ei dâd? yr arian, a’r aur, a’r dodrefn a roddodd efe ym mhlith tryssorau tŷ yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.