Amos 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.1 Y mae Duw drwy weledigaethau yn dangos fel yr anrheithir Israel. 10 Amazia yn athrod Amos. 17 Atteb Amos i Amazia.

1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi: sef wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn, pan ddechreuodd yr adledd godi, ac wele adledd wedi lladd y brenin

2A phan ddarfu iddynt fwytta glas-wellt y tîr, yna y dywedais, arbed arglwydd atolwg: pwy a gyfyd Iacob? canys bychan efe

3Edifarhaodd yr Arglwydd o hyn: ni bydd eb yr Arglwydd.

4Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Dduw i mi, sef wele’r Arglwydd Dduw yn galw i farn trwy dân: a difaodd y y dyfnder mawr, ac a yssodd beth.

5A ddywedais, Arglwydd Dduw paid attolwg, pwy a gyfyd Iacob? canys bychan efe.

6Edifarhaodd yr Arglwydd o hyn, ni bydd hyn hefyd eb yr Arglwydd Dduw.

7Fel hrn y dangosodd efe i mi, sef wele’r Arglwydd yn sefyll ar gaer linin, ac yn ei law yntef linin.

8A’r Arglwydd a ddywedodd wrthif, beth a weli di Amos? a mi a ddywedais, llinin: a’r Arglwydd a ddywedodd, gosodaf linin yng-hanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.

9Uchelfeudd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a themlau Israel a ddifethir, ac mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Ieroboam â cleddyf.

10Yna Amazia offeiriad Bethel a anfonodd at Ieroboam frenin Israel, gan ddywedyd: cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng-hanol tŷ Israel, ni ddichon y ddaiar ddwyn ei holl eiriau ef.

11Canys fel hyn y dywedodd Amos: Ieroboam a fydd farw trwy’r cleddyf, ac Israel a gaeth-gludir yn llwyr allan oi wlâd.

12Dywedodd Amazia hefyd wrth Amos, y gweledydd, dôs ffô ymmaith i wlâd Iuda, a bwytta fara yno, a phrophwyda yno.

13Na chwanega brophwydo yn Bethel mwy canys cappel y brenin, a llys y brenin hi.

14Yna Amos a attebodd, ac a ddywedodd wrth Amazia, nid prophwyd i, ac nid mab i brophwyd i: namyn bugail i, a chascludd ffigus gwylltion.

15A’r Arglwydd a’m cymmerodd oddi ar ôl y praidd, a’r Arglwydd a ddywedodd wrthif: dos, a phrophwyda i’m pobl Israel.

16Ac yr awr hon gwrando air yr Arglwydd, ti a ddywedi, na prophwyda yn erbyn Israel, ac nac yngen yn erbyn tŷ Isaac.

17Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, dy wraig a butteinia yn y ddinas, dy feibion, Ierem.28.12|JER 28:12, iere.29.12.a’th ferched a syrthiant ar y cleddyf: a’th dîr a rennir â llinin, a thitheu a fyddi farw mewn tîr halogedic, a chan gaeth-gludo y caeth-gludir Israel oi dîr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help