1Meibion Iuda: Gen.38.29.|GEN 38:29 & 46.12.|GEN 46:12. 1.Cron.2.4.Pharez, Hesron, a Charmi, a Hur, a Sobal.
2A Reaia mab Sobal a genhedlodd Iahath, ac Iahath a genhedlodd Ahumai, a Lahad: fel dymma deuluoedd y Zorathiaid.
3A’r rhai hyn dâd Etam: Iesrahel, ac Isma, ac Idbas: ac enw eu chwaer hwynt Hazlelphoni.
4A Phenuel dâd Gedor, ac Eser dâd Husa: dymma feibion Hur cyntaf-anedic Ephratah, tâd Bethlehem.
5Ac i Assur tâd Thecoa yr oedd dwy wragedd: Helah, a Naarah.
6A Naarah a ymddug iddo Ahusam, a Hepher, a Themeni, ac Ahastari: dymma feibion Naarah.
7A meibion Helah Zereth, Iezoar, ac Etnan.
8A Coz a genhedlodd Anob, a Zobeba: a theuluoedd Aharel fab Harum.
9Ac yr oedd Barn.1.13.Iabes yn anrhydeddusach nai frodyr: ai fam a alwodd ei enw ef Iabes, gan ddywedyd: o blegit i mi ei ymddwyn ef drwy ofid.
10Ac Iabes a alwodd ar Dduw Israel, gan ddywedyd: os gan fendithio y bendithi, ac yr ehengi fy-nherfynau, a bod dy law gyd a mi, am gwneuthur oddi wrth ddrwg fel na’m gofidier: a pharodd Duw ddyfod yr hyn a ofynnase.
11A Chelub brawd Suah a genhedlodd Mehir: hwn tâd Esthon.
12Ac Esthon a genhedlodd Bethrapha, a Phase, a Thehinna tad dinas Nahas: dymma ddynion Recha.
13A meibion Cenas, Othniel, a Seraia: a meibion Othniel Hathath,
14A Meonothi a genhedlodd Ophra: a Seraia a genhedlodd Ioab tâd glyn y crefft-wŷr, canys crefft-wŷr oeddynt hwy.
15A meibion Caleb fab Iephun: Iru, Ela, a Naam: a meibion Ela Cenas.
16A meibion Iehalel Ziph a Zipha, Thiria, ac Asarel.
17A meibion Ezra Iether, a Mered, ac Epher, ac Ialon: ac efe a genhedlodd Miriam, a Sammai, ac Isbah, tâd Esthemoa.
18Ai wraig ef Iehudia a ymddug Iered tâd Gedor, a Heber tâd Socho, ac Iecuthiel tâd Zanoah: ac dymma feibion Bithiah merch Pharao, yr hon a gymmerth Mered.
19A meibion gwraig Hodia, chwaer Naham, tâd Ceilah y Garmiaid, ac Esthemoa y Maachathiad.
20A meibion Simon Amnon, a Rinnah, Benhanan, a Thilon: a meibion Iisi Zoheth, a Benzoheth.
21[A] Gen.38.1,3,5.meibion Selah fab Iuda, Er, tâd Lecha, a Laada tâd Marefa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion sidan yn nhy Asbea.
22Ac Iocim, a dynion Chozebah, ac Ioas, a Saraph y rhai oeddynt yn arglwyddiaethu ar Moab, ac Iasubi Lehem: ond y pethau hyn yn hên.
23Y rhai hyn grochenyddion yn cyfanneddu planwydd, a chaeau, gyd a’r brenin yr arhosasant yno yn ei waith ef.
24 Gene.46.10. exod.6.15. Meibion Simeon Nemuel, a Iamin, Iarib, Zerah, Saul.
25Salum ei fab yntef, Misbam ei fab yntef, Misma ei fab yntef.
26A meibion Misma: Hamuel ei fab yntef, Zachur ei fab yntef, Semehi ei fab yntef.
27Ac i Semehi vn ar bymthec o feibion, a chwech o ferched, ac iw frodyr ef nid nemmor o feibion: ac nid amlhause eu holl deuluoedd hwynt megis meibion Iuda.
28A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hazar Sual.
29Yn Bilah hefyd, ac yn Ezē, ac yn Tholad
30Ac yn Bathuel, ac yn Horma, ac yn Ziclag
31Ac yn Beth-marcaboth, ac yn Hazer Susim, ac yn Bethbirei, ac yn Saaraim: dymma eu dinasoedd hwynt nes teyrnasu o Ddafydd.
32Ai trefydd hwynt Etam, ac Ain, Rimmon, a Thochen, ac Asan: pump o ddinasoedd.
33Ai holl drefydd hwynt hefyd, y rhai oddi-amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal: dymma eu trigfannau hwynt, ai hachau.
34Mesobab, ac Iamlech, ac Iosa mab Amasia.
35Ac Ioel, ac Iehu mab Iosibi, fab Saraia, fab Asiel.
36Ac Elioenai, ac Iaacoba, ac Isohaia, ac Asaiah, ac Adiel, ac Ismiel, a Benaia.
37A Ziza mab Siphi, fab Alon, fab Iedaiah, fab Ziniri, fab Semaia.
38Y rhai hyn erbyn henwau a ddaethant yn bennaethiaid yn eu teuluoedd: ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.
39A hwy a aethant i drothwy Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa iw praidd.
40A hwynt a gawsant borfa frâs, a da, a gwlâd ehang therfynau, heddychlon a thangneddyfus: canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen o Cham.
41A’r rhai hyn yn scrifennedic erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Hezecia brenin Iuda, ac a darawsant eu pebyll, a’r anneddau y rhai a gafwyd yno, a difrodasant hwynt hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt, am porfa iw praidd hwynt yno.
42Ac o honynt hwy o feibion Simēo yr aeth pum-cant o ddynion i fynydd Seir: a Phelathia, a Nearia, a Raphaia, ac Uzziel meibion Isi, yn ben arnynt.
43Tarawsāt hefyd y gweddill a ddiangase o Amalec: a gwladychasant yno hyd y dydd hwn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.