Lefiticus 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Y modd y daw Aaron ir cyssegr. 8 Yr afr ddiangol. 14 Puredigaeth y cyssegr. 29 Gwyl y puredigaeth.

1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fâb Aaron, (pan offrymmasant ger bron yr Arglwydd yna y buant feirw. )

2A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, llefara wrth Aaron dy frawd, am na ddelo bôb amser i’r cyssegr o fewn y wahan-len ger bron y drugareddfa yr hon ar yr Arch, fel na byddo efe farw: o herwydd ymddangosaf y drugareddfa 4.Bren.8.10.mewn niwl.

3A hyny daw Aaron i’r cyssegr, a bustach ieuangc yn bech aberth, ac a hwrdd yn boeth offrwm.

4Gwisced bais liain sanctaidd, a bydded llawdrau lliain am ei gnawd, a gwregysser ef a gwregys lliain, a gwisced gap lliain, gwiscoedd sanctaidd y rhai hyn: golches yntef ei gnawd mewn dwfr, pan wisco hwynt.

5A chymmered gan gynulleidfa meibion Israel ddau fwch geifr yn bech aberth, ac vn hwrdd yn boeth offrwm.

6Ac offrymmed Aaron fustach y pech aberth yr hwn Heb.9.7.drosto ei hun, a gwnaed iawn trosto ei hun a thros ei dŷ.

7A chymmered y ddau fwch a gossoded hwynt ger bron yr Arglwydd, ddrws pabell y cyfarfod:

8A rhodded Aaron goel-brennau ar y ddau fwch, vn coel-bren tros yr Arglwydd, a coelbren arâll tros yr afr ddiangol.

9A nessaed Aaron y hwch yr hwn y syrthio coel-bren yr Arglwydd arno, ac offrymmed ef yn bech aberth.

10A’r bwch yr hwn y syrthio arno goelbren yr afr ddiangol, a roddir i sefyll yn fyw ger bron yr Arglwydd i wneuthur iawn ag ef, iw ollwng i’r anialwch yn afr ddiangol.

11A nessaed Aaron fustach y pech aberth yr hwn drosto ei hun, a gwnaed iawn drosto ei hun, a thros ei dŷ: a lladded fustach y pech aberth yr hwn trosto ei hun.

12A chymmered loned thusser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi ger bron yr Arglwydd, a lloned ei ddwylo o arogl-darth llysseuoc mân, a dyged o fewn y wahan-len.

13A rhodded yr arogl-darth ar y tân, ger bron yr Arglwydd, fel y cuddio mŵg yr arogldarth y drugareddfa, yr hon ar y destiolaeth, ac na byddo efe farw.

14A chymmered o waed y bustach a Heb.10.13. Lefit 4.6.thaenelled ai fŷs, ar du wyneb y drugareddfa tu a’r dwyrain: a seithwaith y taenella efe o’r gwaed ai fŷs o flaen y drugareddfa.

15Yna lladded fwch y pech aberth, yr hwn tros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahan-len, a gwnaed waed ef megis ac y gwnaeth i waed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa.

16A phured y cyssegr oddi wrth aflendid meibion Israel, a oddi wrth eu hanwireddau yn eu holl bechodau: a gwnaed yr vn modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyda hwynt ym mysc ei haflendid hwynt.

17Ac na fydded vn dŷn Luc.1.10.ym-mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i wneuthur iawn yn y cyssegr hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur o honaw ef iawn trosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl dyrfa Israel.

18Ac aed efe allan at yr allor yr hon ger bron yr Arglwydd a gwnaed iawn arni, a chymmered o waed y bustach, ac o waed y bwch a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.

19A thaenelled arni o’r gwaed seith-waith ai fys, a glanhaed hi, a sancteiddied hi, oddi wrth aflendid meibion Israel.

20Pan ddarffo iddo buro y cyssegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, yna nessaed y bwch byw.

21A gosoded Aaron ei ddwylaw ar ben y bwch byw, a chyffessed arno holl anwiredd meibion Israel, ai holl gamweddau hwynt, yn eu holl bechodau, a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned yn llaw gŵr cymmwys i’r anialwch.

22Canys dwg y bwch eu holl anwiredd hwynt arno ef i dir nailldueth am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch.

23Yna deued Aaron i babell y cyfarfod a diosced y gwiscoedd lliain, y rhai a wiscodd efe wrth ddyfod i’r cyssegr, a gadawed hwynt yno.

24A golched ei gnawd mewn dwfr, yn y lle sanctaidd a gwisced ei ddillad ei hun, ac aed allan, ac offrymmed ei boeth offrwm ei hun, a phoeth offrwm y bobl, a gwnaed iawn trosto ei hun, a thros y bobl.

25A llosged wêr y pech aberth ar yr allor.

26A golched yr hwn a anfonodd y bwch yn afr ddiangol ei ddillad, ac golched ei gnawd mewn dwfr, ac yna deued i’r gwerssyll.

27A bustach y pech aberth, a bwch y pech aberth y rhai y dygir eu gwaed i wneuthur iawn yn y cyssegr, a ddwg i’r tu allan i’r gwersyll, Lefit.6.3.|LEV 6:3. Heb.13.11ac a losgant eu crwyn hwynt, Lefit.6.30.|LEV 6:30. Heb.13.11ai cnawd hwynt, ai biswel hwynt mewn tân.

28A golched yr hwn ai llosco hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwerssyll.

29A bydded yn ddeddf dragywyddol i chwi, y seithfed mis, ar y decfed o’r mis y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor ar dieithr yr hwn fyddo yn ymdaith yn eich plith.

30O herwydd y dydd hwnnw y gwna iawn drossoch, i’ch glanhau o’ch holl. bechodau, y byddoch lân ger bron yr Arglwydd.

31Sabboth gorffwystra yw hwn i chwi, yna chystuddiwch eich eneidiau, deddf dragywyddol

32A’r offeiriad yr hwn a eneinio efe, a’r hwn a gyssegro efe i offeiriadu yn lle ei dâd, a wna’r iawn, ac a wisc y gwiscoedd lliain y gwiscoedd sanctaidd,

33A bura y cyssegr sanctaidd, felly y pura efe babell y cyfarfod, a’r allor, ac y gwna iawn tros yr offeiriad, a thros holl bobl y dyrfa.

34A bydded hyn yn ddeddf dragywyddol i chwi am wneuthur iawn tros feibion Israel am eu pechodau oll Exod.30.10. Heb.9.10.vn waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help