1Ha wŷr, frodyr a thadau, gwrandewch fy amddeffyn wrthych yr awr hon.
2A phan glywsant mai yn Hebræ-aec yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell, ac efe a ddywedodd:
3Gŵr wyfi yn wîr o Iddew, yr hwn a aned yn Tharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawu yn ôl dull perffaith ddeddf y tadau, yn dwyn zêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddyw.
4A mi a erlidiais ffordd y fuchedd hon hyd angeu, Pen.8.3 gan rwymo a bwrw yng-harchar wŷr a gwragedd:
5Fel y mae yr arch-offeiriad yn dyst i mi, a’r holl henaduriaeth, gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr aethym i Ddamascus, i ddwyn y rhai oeddynt yno, yn rhwym i Ierusalem iw poeni.
6Eithr fel yr oeddwn yn myned yn agos i Ddamascus yng-hylch hanner dydd, mawr oleuni o’r nef a ddiscleiriodd yn ddisymmwth o’m hamgylch.
7A mi a syrthiais ar y ddaiar, ac a glywais lais yn dywedyd wrthif fi: Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid?
8A minnau a attebais: pwy wyt ti ô Arglwydd? yntef a ddywedodd wrthif; myfi yw Iesu o Nazareth yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
9Hefyd, y rhai oeddynt gydâ myfi a welsant y goleuad yn ddiau, ac a ofnasant, ond ni chlywsant hwy mo lais yr hwn oedd yn ymddiddan â mi.
10Yna y dywedais: beth a wnaf ô Arglwydd? a’r Arglwydd a ddywedodd wrthif: cyfot, a dos i Ddamascus, ac yno y mynegir i ti bob peth a’r ordeiniwyd i ti ei wneuthur.
11A phan na allwn weled gan ogoniant y goleuad hwnnw, mi a dywyswyd erbyn fy llaw, mi a ddaethym i Ddamascus.
12Ac vn Ananias gwr duwiol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll ar oeddynt yn presswylio
13A ddaeth attaf, ac a safodd ger llaw gan ddywedyd: y brawd Saul, gwêl, ac mi a edrychais arno yn yr awr honno.
14Ac yntef a ddywedodd: Duw ein tadau ni a’th ddewisodd di i ŵybod ei ewyllys ef, ac i weled y cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef.
15Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r a welaist, ac a glywaist.
16Ac yr awron, beth yr wyt yn ei aros? cyfot, cymmer fedydd, a golch ymmaith dy bechodau gan alw ar enw yr Arglwydd.
17A darfu wedi i mi ddyfot yn fy ôl i Ierusalem, fel yr oeddwn yn gweddio yn y Deml, imi syrthio mewn llewyg:
18A gweled o honof ef yn dywedyd wrthif: brysia, a dos yn fuan ymmaith o Ierusalem: o herwydd ni chymmerant dy destiolaeth am danaf fi.
19A minne a ddywedais, ô Arglwydd, hwy a ŵyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob Synagog y rhai a gredâsant ynot ti:
20A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy ferthyr di, yr oeddwn i yn sefyll ger llaw, ac yn cytuno iw ladd ef, a mi a gedwais ddillad y rhai a’i lladdasant ef.
21Ac efe a ddywedodd wrthif, dos ymmaith, canys mi a’th anfonaf ym mhell at y cenhedloedd.
22A hwy a’i gwrandawsant ef hyd y gair hwn: yna y cyfodasant eu llef, ac a ddywedâsant, ymmaith a’r cyfryw vn oddi ar y ddaiar, canys nid iawn ei fod efe yn fyw.
23Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch yn yr awyr,
24Y pen-capten a orchymynnodd ei ddwyn ef i’r castell, ac a archodd ei fflangellu ef, a’i holi, fel y gwydde am ba achos y llefent arno ef.
25A phan rwymasant ef â llinynnau, y dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll ger ei law, a’i rhydd i chwi fflangellu Rhufein-wr, ac heb ei farnu hefyd?
26A phan glybu y canwriad, efe a aeth, ac a fynegodd i’r pen-capten gan ddywedyd: edrych beth a wnelych, canys Rufeiniad yw y dŷn hwn.
27Yna y daeth y pen-capten, ac a ddywedodd wrtho, dywed imi, ai Rhufeiniad wyt ti? ac efe a ddywedodd, ie.
28A’r pen-capten a attebodd, â swm mawr o arian y prynais i y ddinas-fraint hon, Paul a ddywedodd: a minne hefyd a aned felly.
29A’r holwyr a ymadawsant ag ef yn y man, a’r pen-capten hefyd a ofnodd pan wybu efe, ei fod ef yn Rhufeiniad, am ddarfod iddo ei rwymo ef.
30A thrannoeth o herwydd ei fod efe yn ceisio gŵybodaeth ddiogel pa ham y cyhuddid ef gan yr Iddwon, efe a’i gollyngodd o’r rhwymau, ac a archodd i’r arch-offeiriaid a’u cyngor oll ddyfod ac efe a ddug Paul, ac a’i gosododd ger eu bron hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.