1Pan glybu Sanebalat ein bod ni yn adailadu’r mur, yn a efe a gynddeiriogodd ynddo, ac a lidiodd yn ddirfawr: ac a watwarodd yr Iddewon.
2Ac efe a ddywedodd o flaen ei frodyr a llû Samaria, îe efe a dywedodd: beth y mae’r Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur? a adewir iddynt hwy? a aberthant, a orphennant mewn diwrnod? a godant hwy y cerrig o’r tyrrau llwch, a hwynt wedi eu llosci?
3A Thobia’r Ammoniad gyd ag ef: ac efe a ddywedodd, er eu bod hwynt yn adailadu, ped ele lwynog i fynu, efe a rwyge eu mûr cerric hwynt.
4Gwrando ô ein Duw, canys yr ydym yn ddirmygus: dychwel hefyd eu gwradwydd ar eu pennau hwynt, a dod ei hwynt yn anrhaith yng-wlâd caethiwed.
5Ac na orchguddia eu hanwiredd hwynt, ac na ddeluer eu pechod hwynt o’th ŵydd di: canys digiasant yr adailadwyr.
6Felly nyni a adailadasom y mûr, a chyfannwyd yr holl fûr hyd ei hanner: ac yr oedd calon y bobl i weithio.
7Ond pan glybu Sanebalat, a Thobia, a’r Arabiaid, yr Ammoniaid hefyd, a’r Astodiaid gwbl gyweirio muroedd Ierusalem, a dechreu caeu yr adwyau: yna y llidiasant yn ddirfawr.
8A hwynt oll a fradfwriadasant yng-hyd ddyfod i ymladd yn erbyn Ierusalem: ac iw rhwystro
9Yna y gweddiasom ar ein Duw: ac y gosodasom wiliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nôs rhag eu hofn hwynt.
10Ac Iuda a ddywedodd, nerth y cludwyr a wanhâodd, a phrîdd lawer am hynny ni allwn ni adailadu’r mûr.
11A’n gwrthwyneb-wŷr a ddywedasent, ni chânt wybod, na gweled nes i ni ddyfod iw mysc hwynt, ai lladd hwynt: a rhwystro eu gwaith hwynt.
12A phan ddaeth yr Iddewon y rhai oeddynt yn presswylio gyd a hwynt: dywedasant wrthym ddeng-waith, rhac yr holl leoedd’r rhai y gallech ddychwelyd attom ni.
13Am hynny mi a osodais yn y lleoedd issaf o’r tu ôl i’r mûr yn yr amddeffynfeudd: yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl ai cleddyfau gwaiw-ffyn, ac ai bwâu.
14Yna’r edrychais, y cyfodais, ac y dywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai.
15Pan glybu ein gelynnion fod yn hyspus i ni, yna Duw a ddiddymmodd eu cyngor hwynt: a ninneu oll a ddychwelasom at y mûr bawb iw waith.
16Ac o’r dydd hwnnw hanner fy llangciau oeddynt yn gweithio mewn gwaith, ai hanner hwynt oeddynt yn dal gwaiw-ffyn a thariannau, a bwâu, a llurigau: a’r tywysogion ar ôl pob vn o deuluoedd Iuda.
17Y rhai oeddynt yn adailadu ar y mûr, ac yn cludo beichiau, rhai oeddynt yn llwytho, oeddynt ag vn llaw yn gweithio mewn gwaith, ac a’r arall yn dal y cleddyf.
18Canys pob vn o’r adailad-wŷr oeddynt wedi gwregyssu ei gleddyf ar ei glun, ac yn adailadu: a’r hwn oedd yn lleisio mewn vdcorn gyd a mi.
19Yna y dywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhann arall o’r bobl, y gwaith sydd fawr a helaeth: a nyni a wascarwyd ar hyd y mûr ym mhell bob vn oddi wrth ei gilydd.
20Yn y fann lle y clywoch sain yr vdcorn yno ymgesclwch attom: ein Duw ni a ymladd trosom.
21Felly’r oeddem ni yn gweithio mewn gwaith: ai hanner hwynt yn dal gwaiw-ffyn o gyfodiad y wawr, hyd ddyfodiad y sêr.
22Dywedais hefyd y prŷd hynny wrth y bobl, lleteued pob vn ai langc yn Ierusalem: fel y byddant i ni gwiliadwriaeth y nôs, a’r dydd gwaith.
23Felly myfi a’m brodyr, a’m llangciau a’r gwil-wŷr y rhai ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad: pob vn a ymddiosce i olchi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.