1Ac mi a welais arwydd arall mawr yn y nef a rhyfedd, saith angel a chanddynt y saith blâ diweddaf, canys llîd Duw a gyflawnwyd trwyddynt hwy.
2Ac mi a welais megis môr o ŵydr, wedi ei gymmyscu â thân, a’r sawl a orchfygasant yn y bwystfil, a’i ddelw, ai nôd, a rhîf ei henw ef, yn sefyll ar lann y môr o ŵydr, â thelynau Duw ganddynt,
3Ac hwy a ganasant ganniad Moses gwasanaethŵr Duw, a channiad yr Oen, gan ddywedyd, mawr, a rhyfedd yw dy weithredoedd, ô Arglwydd Dduw holl-alluog, cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di Brenin y sainct.
4Pwy ni’th ofna di ô Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? canys ti yn vnic ŵyt sanctaidd, a’r holl genhedloedd a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, canys dy farnau di ydynt gyhoeddus.
5Ac yn ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd Teml pabell y destiolaeth yn agored yn y nêf.
6A’r saith angel a ddaethant allan or Deml, y rhai oeddent a’r saith blâ ganddynt, a’u dillad oedd liain pûr loiw, ac wedi eu gwregysu ynghylch eu bronnau â gwregysau o aur.
7Ac vn o’r pedwar anifail a roddodd i’r saith angel saith philo aur yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn dragywydd.
8Ac yr ydoedd y Deml yn llawn o fŵg gogoniant Duw, a’i allu, ac nid oedd neb yn abl i fyned i mewn i’r Deml, nês darfod cyflawni saith blâ y saith angel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
