Esay 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Etholedigaeth y cenhedloedd. 6 Ganedigaeth Grist ai lywodraeth. 14 Cosp ei ddirmyg-wyr ef.

1Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rhai oeddynt yn aros yn nhir cyscod angeu Mat.4.15y llewyrchodd goleuni arnynt.

2Amlheaist y genhedlaeth, ni fawrheaist lawenydd, llawenychasant ger dy fron, megis y llawenydd yr hwn sydd amser cynhaiaf, megis y llawenychant wrth rannu yspail.

3*Canys iau ei faich ef, a ffon ei yscwydd ef, gwialen ei orthrymder ef a ddrylliant megis yn nydd Madian.

4 Barn.7.22. Diau pob rhyfel-wr a ryfela mewn trwst, a dillad wedi trybaeddu mewn gwaed: ond bydd efe yssiad tân.

5Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei yscwydd ef: a gelwir ei enw ef Rhyfeddol, Cynghor-wr, Duw cadarn, Tad tragywyddoldeb, Tywysog tangneddyf.

6A’r amlder ei lywodraeth, a thangneddyf ni diwedd: a’r orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef iw threfnu hi, ac iw chadarnhau mewn barn, ac mewn cyfiawnder, o’r pryd hyn, a hyd byth: zêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

7Yr Arglwydd a anfonodd air i Iacob: ac a syrthiodd ar Israel.

8Holl bobl Ephraim hefyd, a thrigiannudd Samaria a fedrant ddywedyd mewn balchder, ac mewn mawredd calon,

9Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherric nadd yr adailadwn: y Sycamor-wŷdd a dorrwyd, ond ni ai cyweiriwn â chedr-wydd.

10Er hynny’r Arglwydd a dderchafa wrthwyneb-wŷr Rezin yn ei erbyn, ac a gymmysc ei elynnion.

11Y Syriaid o’r blaen, a’r Philistiaid hefyd o’r ôl, fel yr yssant Israel yn safn-rhwth: er hyn ei gyd ni ddychwelodd ei lid ef, onid etto ei law ef yn estynnedic.

12A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn ai tarawodd: ac ni cheisiasant Arglwydd y lluoedd.

13Am hynny y tyrrodd yr Arglwydd o Israel y pen a’r gynffon, y gangen a’r gorsen yn yr vn dydd.

14Yr hen-wr a’r anrhydeddus yw’r pen: y prophwyd yr hwn sydd yn dyscu celwydd yw’r gynffon.

15Canys cyfarwydd-wŷr y bobl hyn ydynt yn yn cyfeiliorni: a llyngcwyd y rhai a gyfarwyddasant.

16Am hynny ni lawenhâ’r Arglwydd wrth ei wŷr ieuaingc ef, ac wrth ei ymddifaid ef ai weddwon ni thosturia: canys pob vn o honynt ragrithi-wr, a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd: er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, onid etto ei law ef yn estynnedic.

17O herwydd anwiredd a lysc fel tân, drain, a mieri a yssa efe: ac a gynne yn nrysni y coed: ac hwynt a dderchafant ymdderchafiad mŵg.

18Gan ddigofaint Arglwydd y lluoedd y tywylla’r ddaiar, a bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei gilydd.

19Ond efe a rwyga ar y llaw ddehau, ac a newyna, bwyttu hefyd ar y llaw asswy, ac ni’s digonir: pawn a fwyttu gig ei fraich ei hun.

20Manasses Ephraim, ac Ephraim Manasses, hwythau yng-hyd yn erbyn Iuda: er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond etto y mae ei law ef yn estynnedic.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help