1AC yn y ddeunawfed flwyddyn, yr ail ar hugain o’r mîs cyntaf yr oedd y gair yn nhŷ Nabuchodonosor brenin yr Assyriaid, yr ymddiale efe ar yr holl ddaiar fel y dywedase efe.
2Felly efe a alwodd atto ei holl weision, ai holl bendefigion, ac a ymddiddanodd â hwynt yng-hylch ei gyfrinach ddirgel ef: ac efe a osododd ger eu bron hwynt âi enau ei hun holl ddrygioni y ddaiar.
3Yna hwynt a gydunasant ddifetha pôb cnawd a’r na chanlynase orchymyn ei enau ef.
4A phan orphennodd efe ei gyfrinach, Nabuchodonosor brenin yr Assyriaid a alwodd am Holophernes tywysog ei filwriaeth, yr hwn oedd nessaf iddo ef, ac a ddywedodd wrtho,
5Fel hyn y dywed y brenin mawr arglwydd yr holl ddaiar, wele dos ti ymmaith o’m gŵydd i, a chymer di gyd â thi wŷr yn ymddyried yn eu nerth eu hunain, o wŷr traed cant ac vgain mîl, a rhifedi y meirch ai marchogiō deuddeng-mîl.
6A dos di yn erbyn holl wlâd y gorllewyn, o herwydd hwynt a anufyddhausant fyng-orchymyn i.
7A thi a fynegi iddynt, am baratoi o honynt hwy i mi y ddaiar, a’r dwfr: canys myfi a af allan yn fy llîd yn eu herbyn hwynt, ac a orchguddiaf holl wyneb y ddaiar â thraed fy llû i, ac mi ai rhoddaf hwynt yn sclyfaeth iddynt,
8Fel y llanwo eu rhai archolledig hwy eu dyffrynnoedd, ai hafonydd hwynt, a’r llifeiriant a lifa trosodd wedi ei lenwi âi celaneddau hwynt.
9A mi a ddygaf eu caethiwed hwynt i eithafoedd yr holl ddaiar.
10Gan hynny dos di ymmaith, a gorescyn imi eu holl wlâd hwynt: ac os ymroddant hwy i ti, ti ai cedwi hwynt i mi, hyd y dydd y ceryddwyf hwynt.
11Ond am y rhai a fuant anufydd, nac arbeded dy lygad hwynt, eithr dyro hwynt i farwolaeth, ac yn yspail drwy dy holl dîr di.
12Canys fel yr ydwyfi yn fyw, a gallu fy mrenhiniaeth, beth bynnac a ddywedais myfi ai cwplaf a’m llaw fy hunan.
13Na throssedda dithe yr vn o orchymynnion dy arglwydd, eithr cwplha di hwynt yn llwyr, fel y gorchymynnais i ti, ac nac oeda di iw gwneuthur hwynt.
14Yna Holophernes a aeth allan o ŵydd ei arglwydd, ac a alwodd am yr holl bennaethiaid, a thywysogion, a swyddogion llû yr Assyriaid,
15Ac efe a gyfrifodd y gwŷr etholedig i ryfel, fel y gorchymynnase ei arglwydd iddo ef, hyd yn gant, vgain mîl, a deuddeng-mîl o saethyddion ar feirch.
16Ac efe ai gosododd hwynt mewn trefn, fel y mae yr arfer o osod llû mawr mewn trefn,
17Ac efe a gymmerth fintai fawr iawn o gamelod, ac assynnod i eu beichiau hwynt, a defaid, ac ŷchen, a geifr yn llynniaeth iddynt, ar y rhai nid oedd rifedi.
18Ac ymborth i bôb gŵr o’r fyddin, a llawer iawn o aur, ac arian allan o dŷ yr brenin.
19Yna yr aeth efe âi holl lu i ffordd, fel yr aent hwy o flaen brenin Nabuchodonosor, ac y gorch-guddient holl ŵyneb y ddaiar tua’r gorllewyn âi cerbydau, ac âi gwŷr meirch, ac âi gwŷr traed detholedig.
20A llawer o gymmysc ddynion a ddaethant gyd â hwynt fel y ceiliogod rhedyn, ac fel tyfod y ddaiar: canys nid oedd rifedi arnynt rhag cymmaint oedd o honynt.
21A hwynt a aethant o Ninife daith tri diwrnod tua gwlad Bectileth, ac a werssyllasant oddi wrth Bectileth yn gyfagos i’r mynydd yr hwn sydd ar y llaw asswy i Cilicia vchaf.
22Yna efe a gymmerth ei holl lu ef, ei wŷr traed, ai wŷr meirch a’r cerbydau, ac a aeth oddi yno i’r mynydd-dîr.
23Ac efe a ddinistriodd Phud, a Lud, ac a anrheithiodd holl feibion Rasses, a meibion Ismael y rhai oeddynt tua ’r anialwch o du yr deau i chelon.
24Yna efe a aeth tros Euphrates, ac a aeth trwy Mesopotamia, ac a ddinistriodd yr holl ddinasoedd vchel y rhai oeddynt ar afon Arbonai, hyd oni ddeuir hyd y môr.
25Ac efe a orescynnodd derfynau Cilicia, ac a ddestruwiodd yr holl rai a’r ai gwrthwynebent ef, ac efe a ddaeth i ardaloedd Iapheth y rhai oeddynt tua ’r deau, ac ar gyfer Arabia.
26Efe a amgylchodd hefyd holl feibion Madian, ac a loscodd eu pebyll hwynt, ac a anrheithiodd ei lluestai hwynt.
27Yna efe a aeth i wared i wlâd Damascus, yn nyddiau cynhaiaf y gwenith, ac a loscodd eu holl feusydd hwynt, ac a roddes eu defaid, ai gwartheg hwynt i ddinistr: efe a anrheithiodd eu dinasoedd bwynt, ac a yspeiliodd eu gwledydd, ac a laddodd eu holl wŷr ieuaingc hwynt â min y cleddyf.
28Am hynny ofn a dychryn a syrthiodd ar holl drigolion y mor-dir, y rhai oeddynt yn Sidon, ac yn Tyrus, ac yn trigo yn Sur, ac Ocina, a’r holl rai oeddynt yn presswylio yn Iemnaan: a phresswyl-wŷr Azot, ac Ascalon a ofnasant rhagddo ef yn ddirfawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.