Ecclesiasticus 43 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLIII.Godidawgrwydd amryw creaturiaid Duw.

1Gogoniant yr vchelder yw ’r furfafen hyfryd, yn yr olwg ar ei ogoniant ef y mae tegwch y nefoedd.

2Y mae yr haul hefyd wrth ymddangos yn mynegu am mai offeryn rhyfedd yw gwaith y Goruchaf.

3Ar hanner dydd fe a lysc y wlad, a phwy a ddichon aros ar gyfer ei wrês ef:

4Y mae vn yn cadw ffwrn yn boeth, tri mwy y llysc yr haul y mynyddoedd: gan chwythu allan angerdd tanllyd, a discleirio, âi belydr y mae efe yn dallu y llygaid.

5Mawr yw yr Arglwydd yr hwn ai gwnaeth ef, ac wrth ei orchymyn ef, efe a beidiodd ai daith.

6Y lleuad hefyd a wnaeth efe i sefyll yn ei hamser: i fod yn egluro yr amser, ac yn arwydd i’r byd:

7 Deut.12.2. Wrth y lleuad y ceir gŵybod yr ŵyl, sef goleuni yn lleihau tu ar diwedd.

8Ar ei henw hi y mae y mis, ac efe a gynydda yn rhyfedd yn y cyfnewid.

9Y mae llu gwersyllol yn yr vchelder yn llewyrchu yn ffurafen y nefoedd.

10Disclairdeb y sêr sydd yn degwch i’r nefoedd, ac yn harddwch yn discleirio yn vchelder yr Arglwydd.

11Wrth y gorchymyn sanctaidd y maent hwy yn sefydlu coll-farn yn eu defod, ac nid ydynt yn llosci yn eu gwiliadwriaeth.

12 Gen.9.13. Gwêl yr enfys a chlodfora yr hwn ai gwnaeth hi, têg odieth yw hi yn ei disclaereb.

13Y mae Esa.40.12.hi yn amgylchu y nefoedd â chylch gogoneddus, dwylo yr Arglwydd ai hannelodd hi.

14Y mae efe wrth ei orchymyn yn gwneuthur i’r eira beidio, ac i daranau ei farn ef bryssuro.

15Am hynny yr ymegyr y tryssorau, ac yr hêd y cwmmylau fel adar.

16Yn ei fawredd y cadarnhaodd efe y cwmylau, ac y drylliwyd cerrig y cenllysc.

17Y mae twrwf ei daran ef yn cystuddio y ddaiar: a’r mynyddoedd a symmudant rhag ei olwg ef.

18Wrth ei ewyllys ef y chwyth y gwynt, a themhestl y gogledd wynt a’r trô-wynt.

19Y mae efe yn tanu eira fel adar yn ehedeg, ac fel locustiaid dinistriol y descyn efe.

20Rhyfedd gan lygad tegwch ei wynder ef: a calon a ofna ei gafod ef.

21Efe a dywallt rew ar y ddaiar fel halen, ac wedi iddo ef rewi, y mae efe yn bîg llym.

22Pan chwytho y gogleddwynt oer y rhewa grisial o’r dwfr, ac a orphywys ar bob llyn dwfr, ac a wisc y dyfroedd megis lluric.

23Y mae efe yn difa y mynyddoedd, ac yn llosci y diffaethwch, ac yn diffoddi pob gwyrdd­lesni fel tân.

24Meddiginiaeth rhag y cwbl yw cwmwl a ddelo ar frŷs, a gwlith a ddelo yn erbyn gwrês ac ai llawenycha hwynt.

25Wrth yr hyn a ddychymygodd efe y llonyddodd efe y dyfnder, ac efe a blannodd ynysoedd yno.

26Y rhai a hwyliant ar y môr a fynegant mor enbyd yw efe, a phan glywom ninnau a’n clustiau, nyni a ryfeddwn.

27Yno y mae dieithr weithredoedd rhyfedd: pob amryw anifail a’r mor-feirch.

28Trwyddo ef y mae ei angel ef yn cael hyffordd: a thrwy ei air ef y cyfāsoddwyd pob peth.

29Nyni a ddywedwn lawer, er hynny ni chyrhaeddwn ni berffeithrwydd ymadrodd: efe yw ’r cwbl.

30Pa fodd y gallwn ni ei ogoneddu ef, canys y mae efe o’r tu hwynt iw holl waith:

31Ofnadwy yw ’r Arglwydd Psal.96.4.a mawr o­diaeth, a rhyfedd yw ei allu ef.

32Pan ogoneddoch chwi yr Arglwydd derchefwch ef fwyaf ac y galloch, ac efe a ragora ar hynny.

33A phan dderchafoch ef rhoddwch lawer o egni.

34Na flinwch, canys ni chyrrheddwch chwi: Ioan.1.18. Psal.106.2.pwy ai gwelodd ef, ac a fynega: a phwy ai mawryga ef megis y mae efe:

35Y mae llawer peth mwy na hyn yn gudi­eddic: ychydic a welsom ni oi weithredoedd ef.

36O blegit yr Arglwydd a wnaeth bob peth: ac i’r rhai duwiol y roddes efe ddoethineb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help