1Wele di yn deg, fyng-hyfeilles, wele di yn deg, dy lygaid golomennaidd, rhwng dy lywethau dy wallt fel diadell o eifr, y rhai a ymlyfnhasant ym mynydd Gilead.
2Dy ddannedd fel diadell gogyfuwch, y rhai a ddaethant i fynu o’r olchfa, y rhai bob vn yn dwyn dau oen, ac nid ynddynt yn ddi-hepil.
3Dy wefusau fel edef loiw-goch, a’th barabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywethau fel darn o bomgranad.
4Dy wddf fel tŵr Dafydd, yr hwn a adailadwyd yn amddeffynfa, tariannau fîl sydd yn crogi ynddo, a estylch y cedyrn.
5Dy ddwy fron fel dau lwdn iwrch o efellion yn pori ym mysc lili.
6Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cyscodau âf i fynydd y Myrh, ac i frynn y Thus.
7Ti oll deg fyng-hyfeilles, ac nid oes ynot frychewyn.
8[Tyret] gyd a’m fi o Lybanus nyweddi, tyret gyd a’m fi o Libanus, cei edrych o benn Amana, o goppa Sanir, a Hermon, o lochesau y llewod, o fynydd y llewpardiaid.
9Lladrateaist fyng-halon, fy chwaer a’m dyweddi, lladratteaist fyng-halon ag vn o’th lygaid, ag vn gadwyn oddi wrth dy wddf.
10Morr deg dy gariad fy chwaer, dyweddi, pa faint gwell yw dy gariad na gwin? ac arogl dy olew, na’r holl bêr aroglau?
11Dy wefusau nyweddi ydynt yn diferu dil mêl, mêl a llaeth tann dy dafod, ac arogl dy wiscoedd fel arogl Libanus.
12Gardd gloedic fy chwaer a’m dyweddi: ffynnon gloedic, ffynnon seliedic
13Dy blanhigion perllan o Bomgranadau, a ffrwyth peraidd: Camphir, a Nardus.
14[Ie] Nardus, a saffrwm, Calamus a Synamwn a phob prenn Thus, Myrh, ac Aloes, yng-hyd â phôb rhagorol aroglau:
15O ffynnon y gerddi, ô ffynnon y dyfroedd byw y rhai hefyd a ddiferant allan o Libanus.
16Cyffroa di ogledd-wynt, a thyret ddeheu-wynt, chwyth fyng-ardd, gwascarer ei phêr aroglau: deued fy annwylyd iw ardd, a bwyttaed ffrwyth ei beraidd-dra ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
