Deuteronomium 31 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXI.1 Moses erbyn ei farw yn gosod Iosuah i lywodraethu y bobl. 9 Ac yn rhoddi y gyfraith at y Lefiaid iw darllen i’r bobl. 19 Duw yn rhoddi cân yn destiolaeth rhyngddo ei hun a’r bobl. 23 ac yn cadarnhau Iosuah. 29 Moses yn rhybyddio y bobl oi hanufydd-dod i Dduw wedi ei farwolaeth ef.

1Yna ’r aeth Moses, ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel:

2Ac a ddywedodd wrthynt, mab chwech-vgain-mlwydd ydwyfi heddyw, ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthif, ni chei fyned Num.20.12. Deut.3.26.tros yr Iorddonen hon.

3Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned trosodd o’th flaen di, efe a ddinistria y cenhedloedd hyn o’th flaen, fel y gorescynnech hwynt: Num 27.18.Iosuah hefyd fydd yn myned trosodd o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.

4A’r Arglwydd a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon, ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac iw tîr hwynt, y rhai a ddinistriodd efe.

5A rhydd yr Arglwydd hwynt o’ch blaen chwi, gwnewch chwithe iddynt hwy yn ôl yr Deut.7.2.holl orchymynnion y rhai a orchymynnais i chwi.

6Ymgadarnhewch, ac ymnerthwch, nac ofnwch, ac na ddychrynnwch rhacddynt, canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyd a thi: ni’th edu efe di, ac ni’th wrthit.

7Galwodd Moses hefyd ar Iosuah, a dywedodd wrtho ef yng-olwg holl Israel: ymgadarnhâ, ac ymnertha: canys ti a ddygu y bobl ymma i’r tîr yr hwn a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt, a thi ai rhenni yn etifeddiaeth iddynt.

8Yr Arglwydd hefyd sydd yn myned o’th flaen di, efe a fydd gyd a thi, ni’th edu, ac ni’th wrthit, nac ofna, ac na lwfrhâ.

9A Moses a scrifennodd y gyfraith hon, ac ai rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, arweinwŷr Arch cyfammod yr Arglwydd, ac at holl henuriaid Israel.

10A Moses a orchymynnodd iddynt ganddywedyd: yn ôl Nehem.8.2.saith mlynedd, ar yr amser nodedic, Deut.15.1.ar flwyddyn y gollyngdod, ar ŵyl y pebyll:

11Pan ddelo holl Israel i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn y lle’r hwn a ddewiso efe, y darlleni y gyfraith hon, o flaen holl Israel lle y clywant.

12Cynnull y bobl, y gwŷr, y gwragedd, a’r plant, a’th dieithr yr hwn o fewn dy byrth fel y gwrandawant, ac fel y dyscant, ac yr ofnant yr Arglwydd eich Duw: ac yr edrychāt am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon.

13Ac fel y clywo ac y dysco eu meibion hwynt, (y rhai ni wyddant) ofni’r Arglwydd eich Duw yr holl ddyddiau y rhai y byddoch byw ar y ddaiar yr hon yr ydych yn myned iddi tros yr Iorddonen iw gorescyn.

14A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, wele dy ddyddiau a ddaethant i farw, galw Iosuah, a sefwch ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchymynnion iddo ef: yna’r aeth Moses, ac Iosuah, ac a safasant ym mhabell y cyfarfod.

15A’r Arglwydd a ymddangosodd yn y babell mewn colofn niwl, a’r golofn niwl a safodd ar ddrŵs y babell.

16Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, wele di ar orwedd gyd a’th dadau, a’r bobl ymma a gyfyd ac a butteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir yr hwn y maent hwy yn myned i mewn iddo, ac am gwrthydi, ac a ddiddymma fyng-hyfammod yr hwn a wneuthum ag ef.

17A’m dîg a enyn yn eu herbyn y dydd hwnnw, ac mi ai gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt: yna y bwytteir ef, a drygau lawer, a chyfyngderau, a ddigwyddant iddo ef, a’r dydd hwnnw y dywed efe, onid am nad’r Arglwydd yn fy mysc y digwyddodd y drwg hwn i mi?

18Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni’r hyn a wnaeth efe, pan drôdd at dduwiau dieithr

19Scrifennwch yr awran gan hynny i chwi y gân hon, dysc hi hefyd i feibion Israel, gosot hi yn eu genau hwynt, fel y byddo y gân hon yn dŷst i mi yn erbyn meibion Israel.

20Canys dygaf ef i dîr yn llifeirio o laeth, a mêl, yr hwn a addewais trwy lŵ iw dadau ef: fel y bwyttu, ac y digoner, ac yr elo yn frâs ond efe a dry at dduwiau dieithr, ac ai gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga fi, ac a ddiddymma fyng-hyfammod.

21Yna pan digwyddo iddo ddrygau lawer, a chyfyngderau y bydd i’r gân hon destiolaethu yn dýst yn ei wyneb ef: canys nac anghofier hi o enau ei hâd ef, o herwydd mi a adwen ei amcan ef, yr hwn y mae efe yn ei wneuthur heddyw, cyn dwyn o honofi ef i’r tir yr hwn a addewais trwy lŵ.

22Yna yr scrifennodd Moses y gân honno ar y dydd hwnnw, ac ai dyscodd hi i feibion Israel.

23Gorchymynnodd efe hefyd i Iosuah fab Nun, a dywedodd, Iosu.1.6.ymgadarnhâ, ac ymnertha, canys ti a arweini feibion Israel i’r tîr yr hwn trwy lŵ a addewais iddynt, a minne a fyddaf gyd a thi.

24A phan ddarfu i Moses scrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr hyd eu diwedd,

25Yna y gorchymynnodd Moses i’r Lefiaid y rhai oeddynt yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd, gan ddywedyd:

26Cymmerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys Arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw, a bydded yno yn dyst i’th erbyn.

27Canys mi a adwen dy wrthnyssigrwydd, a’th wargaledrwydd, wele a’m fi etto yn fyw gyd a chwi heddyw, gwrthryfolgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch, a pha faint fwy wedi fy marw?

28Cesclwch attaf holl henuriaid eich llwythau, a’ch swyddogion fel y llefarwyf yr holl eirian hyn lle y clywant hwy, ac y cymmerwyf yn dystion yn eu herbyn hwynt y nefoedd a’r ddaiar.

29Canys gwn mai wedi fy marw gan lygru y llygrwch, ac y ciliwch o’r ffordd, yr hon a orchymynnais i chwi, ac y digwydda i chwi ddrygioni yn y dyddiau diweddaf, am y gwnewch ddrygioni yng-olwg y, Arglwydd, gan ei ddigio ef yng-weithredoedd eich dwylo.

30A llefarodd Moses lle y clybu holl gynnulleidfa Israel eiriau y gân hon hyd ei diwedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help