Esay 49 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLIX.Swydd Crist yw casclu ei eglwys o bob cenhedlaeth. 7 addewidion cyssurus i Grist, ac iw eglwys.

1Gwrandewch arnaf ynysoedd, ac ystyriwch bobl o bell, yr Arglwydd a’m galwodd o’r grôth, parodd goffau fy enw o fru fy mam.

2Gosododd hefyd fyng-enau fel cleddyf llym, a thann gyscod ei law i’m cuddiodd: gosododd fi yn saeth loiw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau.

3Efe a ddywedodd wrthif, fyng-wâs i ti Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot.

4Minne a ddywedais, yn ofer y blinais, yn ofer, ac yn ddiwin y treuliais fy nerth: er hynny fy marn gyd a’r Arglwydd, a’m gwaith gyd a’m Duw.

5Ac yn awr medd yr Arglwydd (yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn wâs iddo, i ddychwelyd Iacob atto ef, er nad ymgascle Israel, etto gogoneddus fyddafi yng-olwg yr Arglwydd, a’m Duw fydd fy nerth,

6Ie dywedodd, gwael yw dy fod yn wâs i mi, i gyfodi llwythau Iacob, ac i ddychwelyd rhai cadwedic Israel, am hynny i’th roddais hefyd yn oleuni y cenhedloedd fel y byddit fy iechydwriaeth mau fi hyd eithaf y ddaiar.

7Fel hyn y dywed yr Arglwydd, gwaredudd Israel, ai Sanct, am y dirmygedic o enaid, am genhedlaeth ffiaidd, a’m wâs llywodraeth-wŷr, brenhinoedd a welant, ac a gyfodant, tywysogion hefyd a ymgrymmant er mwyn yr Arglwydd yr hwn ffyddlon, Sanct Israel yr hwn a’th ddewisodd di.

8Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, mewn amser bodlon-gar i’th wrandewais, ac yn nydd iechydwriaeth i’th gynnorthwyais, am hynny i’th gadwaf, ac i’th roddaf yn gyfammod pobl, i siccrhau y ddaiar, i beri etifeddu etifeddiaethau anghyfaneddol,

9Gan ddywedyd wrth y carcharorion, ewch allan, ac wrth y rhai mewn tywyllwch ymddangoswch, ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl riwiau ei porfa hwynt.

10Ni newynant, ac ni sychedant, ac ni’s teru gwrês, na haul hwynt: o herwydd a dosturria wrthynt, ai tywys, ac ai harwein i ffynhonnau dyfroedd.

11Yna y gosodaf fy holl fynyddoedd yn ffordd, a’m priffyrdd a gyfodir.

12Wele y rhai hyn a ddeuant o bell, ac wele y rhai accw o’r gogledd, ac o’r gorllewyn: a’r rhai ymma o dir Sinim.

13Cenwch nefoedd, a gorfoledda, ddaiar, bloeddiwch ganu y mynyddoedd, canys yr Arglwydd a gyssurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueniaid.

14Etto dywedodd Sion, yr Arglwydd a’m gwrthododd, a’r Arglwydd a’m anghofiodd.

15A anghofia gwraig ei phlentyn sugno? fel na thosturio wrth fâb ei chroth? pe anghofie y rhai hyn, etto myfi nid anghofiwn di.

16Wele ar gledr nwylo i’th scrifennais, dy furiau ger fy mron bob amser.

17Dy adailad-wŷr a fryssiasant, y rhai a’th ddinistriant, ac a’th ddestruwiant a ânt ymmaith oddi wrthit.

18Dercha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych, hwynt oll a ymgasclant, a ddaethant attat: byw fi medd yr Arglwydd, diau y gwisci hwynt oll fel hardd-wisc, ac yr ymwregysi di a hwynt fel priod-ferch.

19Canys dy ddiffaithwch, a’th anialwch a’th dir dinistriol yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng iw bresswyl-wŷr: a’r rhai a’th lyngcant a ymbellhânt.

20Plant dy rai di-heppil, a ddywedant lle y clywech, cyfyng yw y lle hwn i mi, nessa oddi wrthif fel y presswyliwyf.

21Yna y dywedi yn dy galon, pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi? am fi yn ddi-heppil, ac yn vnic, yn gaeth, ac ar engcil: a phwy a fagodd y rhai hyn? wele myfi a adawyd fy hunan, o ba le y y rhai hyn?

22Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, wele cyfodaf fy llaw ar genhedloedd, a derchafaf fy mâner ar bobloedd, fel y dygant dy feibion yn eu monwes, ac y cluder dy ferched ar yscwyddau.

23Brenhinoedd hefyd fyddant dy dadmaethod, ai brenhinesau dy fammaethod: crymmant it eu hwynebau lawr, a llyfant lwch dy draed, a chei wybod mai myfi Arglwydd, canys ni chywilyddir y rhai a ymddyriedant ynofi.

24A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a ddiangc y rhai a garcherir yn gyfiawn?

25Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, ie carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddiangc: canys myfi a ymryssonaf a’th ymryssonudd, a myfi a achubaf dy feibion.

26Gwnaf hefyd i’th orthrym-wŷr fwytta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win, fel y gwypo pob cnawd mai myfi’r Arglwydd dy achubudd, a’th gadarn waredudd di Iacob.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help