Genesis 34 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIIII.2 Sichem mab Hemor yn treisio Dina 8 Hemor yn ei gofyn hi yn briod i Sichem. 22 Enwaediad y Sicemiaid wrth ddymuniad meibion Iacob, a thrwy eiriol Hemor. 25 Simeon a Lefi yn dial am aniweirdeb Sichem. 28 Iacob yn ceryddu ei feibion am eu gwaith yn dial.

1Yna Dina merch Lea, yr hon a ymddugase hi i Iacob, a aeth allan i weled merched y wlâd.

2Yna Sichem mab Hemor yr Hefiad tywysog y wlad ai canfu hi, ac ai cymmerth hi, ac a orweddodd gyd a hi, ac ai treisiodd.

3Ai feddwl ef a lŷnodd wrth Dina ferch Iacob: ie efe a hoffodd y llangces, ac a ddywedodd wrth calon y llangces.

4Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dâd gan ddywedyd: cymmer y llangces hon yn wraig i mi.

5Yna Iacob a glybu halogi Dina ei ferch, a’i feibion ef oeddynt gyd ai hanifeiliaid yn y maes: am hynny Iacob a dawodd a sôn hyd oni ddaethant hwy

6A Hemor tâd Sichem a aeth allan at Iacob, i ymddiddan ag ef.

7A meibion Iacob a ddaethant o’r maes, ac wedi clywed o honynt, ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, o blegit gwneuthur ffolineb yn Israel, gan orwedd gyd a merch Iacob, canys ni ddylessyd gwneuthur felly.

8A Hemor a ymddiddanodd a hwynt gan ddywedyd, glynu a wnaeth meddwl Sichem fy mâb i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi attolwg yn wraig iddo ef.

9Ac ymgyfathrechwch a ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymmerwch ein merched ni i chwithau.

10Felly y presswyliwch gyd a ni, a’r wlad fydd o’ch blaen chwi, trigwch a negeseuwch ynddi, a byddwch feddiannol o honi.

11Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thâd, ac wrth ei brodyr hi, cafwyf ffafor yn eich golwg, a’r hyn a ddywedoch wrthif a roddaf.

12Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhyscaeth, neu roddiad, ac mi a roddaf fel y dywedoch wrthif: rhoddwch chwithau y llangces i mi yn wraig.

13Yna meibion Iacob a attebasant Sichem, a Hemor ei dâd ef, ac a ymddiddanasant yn dwyllodrus, o herwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt.

14Ac a ddywedasant wrthynt hwy, ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededic, o blegit gwarthrudd hynny i ni.

15Ond yn hynn y cytunwn a chwi, os byddwch fel nyni, gan enwaedu pôb gwryw i chwi.

16Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymmerwn eich merched chwithau i ninnau, a chyd trigwn a chwi, a byddwn yn vn bobl.

17Ond oni wrandewch arnom ni i gael o honoch eich enwaedu, yna y cymmerwn ein merch, ac a awn ymmaith.

18Ai geiriau hwynt oedd dda yng-olwg Hemor, ac yng-olwg Sichem mâb Hemor.

19Ac nid oedodd y llangc wneuthur y peth o blegit efe a roddase serch ar ferch Iacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dâd ef.

20Yna Hemor, a Sichem ei fab ef a aethant at borth eu dinas hwynt, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion hwynt, gan ddywedyd:

21Y gwyr hynn heddychol hwy gyd a ni; ac a drigant yn y wlad ac a wnant eu negesau ac wele y wlâd yn ehang o leoedd ger eu bron hwynt: cymmerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.

22Ond yn hyn y cytuna y dynion a ni, i drigo gyd a ni, gan fod yn vn bobl, trwy enwaedu pôb gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededic.

23Eu hanifeiliaid hwynt, ai cyfoeth hwynt, ai holl yscrubliaid hwynt onid eiddo ni hwy? yn unic cytunwn a hwynt, fel y trigant gyd a ni.

24Yna ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef y gwrandawodd pawb a’r a oeddynt yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pôb gwryw y rhai oll a’r a oeddynt yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.

25A bu ar y trydydd dydd pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymmeryd o ddau o feibion Iacob Simeon, a Lefi, brodyr Dina, bôb vn ei gleddyf, ac y ddaethant yn erbyn y ddinas yn hyderus, ac a laddasant bôb gwryw.

26 Gene.49.6. Lladdasant hefyd Hemor, a Sichem ei fâb ef, a mîn y cleddyf: a chymmerasant Dina o dŷ Sichem, ac a aethant allan.

27Meibion Iacob a ddaethant ar y lladdedigion, ac a yspeiliasant y ddinas, am halogi o honynt eu chwaer hwynt.

28Cymmerasant eu defaid hwynt, ai gwarthec, ai hassynnod hwynt, a’r hyn yn y ddinas, a’r hyn oedd yn y maes.

29Caeth-gludasant hefyd, ac yspeiliasant eu holl gyfoeth hwynt, ai holl blant hwynt, ai gwragedd hwynt, a’r hyn oll yn y tai.

30Yna Iacob a ddywedodd wrth Simeon, ac wrth Lefi, trallodasoch fi gan beri i mi fod yn ffiaidd gan bresswylwyr y wlâd, gan y Canaaneaid a’r Phereziaid, a minne ag ychydic o wŷr: ymgasclant gan hynny yn fy erbyn, a thrawant fi, felly y difethir fi, mi a’m tŷlwyth.

31Hwythau a attebasant, ai megis puttain y gwnae efe ein chwaer ni?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help