Daniel 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Nabuchodonosor yn breuddwydio, ac yn erchi lladd dewiniaid Babilon am na fedrent fynegu iddo ei freuddwyd ai ddeongliaid 16. Daniel yn dywedyd y breuddwyd, ac yn ei ddeongl, i arwyddocau amryw frenhiniaethau bydol, 44 A thragywyddol frenhiniaeth Grist hefyd.

1Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nabuchodonosor y breuddwydiodd Nabuchodonosor freuddwydion: a chynhyrfodd ei yspryd ef, ai gwsc a dorrodd arno.

2A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid i fynegu i’r brenin ei freuddwydion: a hwynt a ddaethant, ac a safasant ger bron y brenin.

3A’r brenin a ddywedodd wrthynt, breuddwydais freuddwyd, a chynhyrfodd fy yspryd am ŵybod y breuddwyd.

4Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin, yn Syrian-aec: ô frenin bydd fyw yn dragywydd, adrodd dy freuddwyd i’th weision, a mynegwn y deongliad.

5Attebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid: aeth y peth oddi wrthif, oni fynegwch y breuddwyd i’m, ai ddehongliad, gwneir chwi yn ddrylliau, a’ch tai a osodir yn dommen.

6Ond os y breuddwyd ai ddehongliad a ddangoswch i’m, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o’m blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, ai ddeongliad.

7Attebasant eil-waith a dywedasant: dyweded y brenin y breuddwyd iw weision, ac ni a ddangoswn ei ddeongliad ef.

8Attebodd y brenin a dywedodd, mi a wn yn hysbys mai oedi’r amser yr ydych chwi: canys gwelwch fyned y peth oddi wrthif.

9Oni wnewch i’m ŵybod y breuddwyd vn gyfraith fydd i chwi: canys gair celwyddoc, a llwgredic a ddarparasoch ei ddywedyd o’m blaen nes darfod yr amser: am hynny dywedwch i’m y breuddwyd fel y gŵypwyf mai ei ddeongliad ef a ddangoswch i mi.

10Y Caldeaid a attebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, nid oes ddyn ar y ddaiar, yr hwn a ddichon dangos yr hyn y mae’r brenin yn ei ofyn: ni cheisiodd vn brenin, pennaeth na llywydd y fath beth a hwn gan vn dewin, nac astronomydd, na Chaldead.

11Canys anhawdd pêth yr hwn a gais y brenin, ac nid oes arall yr hwn ai dengys o flaen y brenin onid y duwiau y rhai nid yw eu trigfa gyd â chnawd.

12O achos hyn y creulonodd y brenin, ac y digiodd yn ddirfawr, a dywedodd am ddifetha holl ddoethion Babilon.

13Yna’r aeth cyfraith allan, ac y lladdwyd y doethion, ceisiasant hefyd Ddaniel, ai gyfeillion iw lladd.

14Yna y trôdd Daniel yn ei ôl y cyngor, a’r gyfraith yng-hyd ag Arioch penn distain y brenin, yr hwn a aethe allan i ladd doethion Babilon.

15[Canys] efe a lefarodd, ac a ddywedodd wrth Arioch capten y brenin, pa ham y mae yr gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? yna Arioch a fynegodd y peth i Ddaniel.

16Yna Daniel a aeth i mewn, ac ymbiliodd a’r brenin am roddi iddo amser i ddangos y deongliad i’r brenin.

17Yna’r aeth Daniel iw dŷ ei hun, ac a fynegodd y peth iw gyfeillion, Ananias, Misael, ac Azarias:

18Fel y ceisient drugaredd o flaen Duw y nefoedd yn achos y dirgelwch hyn, fel na ddifethyd Daniel ai gyfeillion gyd a’r rhan arall o ddoethion Babilon.

19Yna y datcuddiwyd dirgelwch i Ddaniel mewn gweledigaeth nôs: yna Daniel a fendithiodd Dduw’r nefoedd.

20Attebodd Daniel, a dywedodd: Psal.113.2. psal.115.18.bendigedic fyddo enw Duw ô dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb: canys doethineb, a nerth ydynt eiddo ef.

21Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau, gann symmud brenhinoedd, a sicrhau brenhinoedd gan roddi doethineb i’r doethion a gŵybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall.

22Efe sydd yn datcuddio y dyfnion, a chuddiedic, efe a ŵyr beth yn y tywyllwch, a chyd ag ef yr erys y goleuni.

23Tydi Dduw fy nhad yr ydwyfi yn ei glodfori, ac yn ei foliannu, o herwydd rhoddi o honot ddoethineb, a nerth i mi: a pheri i mi ŵybod yr hyn a geisiasom gennit: canys gwnaethost i ni ŵybod yr hyn a ofynnodd y brenin.

24O herwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch yr hwn a osodase y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn: na ddifetha ddoethion Babilon, dŵg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i’r brenin deongliad.

25Yna y dûg Arioch Ddaniel o flaen y brenin ar frŷs, ac efe a ddywedodd wrtho fel hyn: cefais ŵr o blant caethiwed Iuda, yr hwn a fynega i’r brenin y deongliad:

26Attebodd y brenin, a dywedodd wrth Ddaniel (yr hwn oedd ei henw Baltassar) a elli di fynegu i mi y breuddwyd yr hwn a welais, ai ddeongliad?

27Attebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd: nid doethion, astronomyddion, dewiniaid, brud-wŷr a allant ddangos i’r brenin y dirgelwch yr hwn y mae’r brenin yn ei geisio.

28Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datcuddio dirgeledigaethau, ac efe a fynegodd i’r brenin Nabuchodonosor beth’r hyn ar fod yn y dyddiau diweddaf: dy freuddwyd, a gweledigaethau dy ben yn dy wely hyn ymma:

29Ti frenin yn dy wely, dy feddyliau a godasant yn dy ben, beth i ddyfod ar ôl hyn, a’r hwn sydd yn datcuddio dirgeledigaethau a fynegodd i ti beth i fod.

30Minne hefyd nid drwy ddoethineb (yr hon sydd ynof fi yn fwy na neb byw) y datcuddiwyd i’m y dirgelwch hwn: ond oi hachos y rhai a fynegant y deongliad i’r brenin, fel y gwyddit feddyliau dy galon.

31Ti frenin oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr yn sefyll gyferbyn â thi, y ddelw hon fawr, ai discleirdeb yn rhagorol, a’r olwg arni ofnadwy,

32Pen y delw hon o aur da, ei dwyfron ai breichiau o arian, ei bol, ai morddwyd o brês,

33Ei choesau o haiarn, ei thraed o honynt o haiarn, a o honynt o bridd:

34Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garrec yr hon ni â dwylo, a hi a darawodd y ddelw at ei thraed o haiarn a phridd, ac ai maluriodd hwynt.

35Yna’r haiarn, y pridd, y prês, yr arian, a’r aur a gyd-faluriasant, ac oeddynt fel manvs yn o yscuborau hâf: a’r gwynt ai dug hwynt, ac ni chaed vn lle iddynt: yna’r garrec yr hon a darawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaiar.

36Dymma’r breuddwyd, dywedwn hefyd ei ddeongliad o flaên y brenin.

37Ti frenin frenin brenhinoedd, canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant,

38A pha le bynnac y presswylio plant dynnion efe a roddes dann dy law fwyst-fil y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw ei phen hi o aur.

39Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall îs nâ thi, felly y drydedd waith y brenhiniaeth arall ô brês, yr hon a lywodraetha yn yr holl dîr.

40Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haiarn, megis haiarn y maluria, ac y mala hi oll: îe fel haiarn yr hwn a ddryllia bôb peth y maluria ac y dryllia hi.

41A lle y gwelaist y traed a’r byssedd, peth o honynt o bridd crochenydd, a o honynt o haiarn, brenhiniaeth hannêroc fydd, ac i fod ynddi o gryfder haiarn, o herwydd gweled o honot haiarn wedi ei gymmyscu â phrîdd clailyd.

42[Fel yr ydoedd] bysedd y traed o honynt yn haiarn, a o honynt yn bridd, y bydd peth o’r frenhiniaeth o ran yn grêf, ac o honi fydd brau.

43A lle y gwelaist haiarn wedi ei gymmyscu â phrîdd cleilyd, ymgymmyscant â hâd dŷn, ond ni lŷnant y naill wrth y llall, megis nid ymgymmysc haiarn â prîdd.

44Ac yn nyddiau y brenhinoedd hynny y cyfyd Duw nefol frenhiniaeth yr hon ni lygrir byth, a’r frenhiniaeth hon ni adewir i bobl eraill: hi a faluria, ac a dreulia’r holl frenhiniaethau hyn, ac hi a saif yn dragywydd.

45Lle y gwelaist dorri carrec o’r mynydd yr hon ni â llaw, a malurio o honi yr haiarn, y prês, y prîdd, yr arian, a’r aur, hyspysodd y Duw mawr i’r brenin beth’r hyn sydd i fod wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wîr, ai ddeongliad yn ffyddlon.

46Yna y syrthiodd Nabuchodonosor y brenin ar ei ŵyneb, ac a ostyngodd i Ddaniel, dywedodd hefyd am offrymmu iddo ef offrwm, ac arogl-darth.

47Attebodd y brenin a dywedodd wrth Ddaniel, mewn gwirionedd y mai eich Duw chwi Duw y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datcuddudd dirgeledigaethau, o herwydd medru o honot ddatcuddio y dirgelwch hyn.

48Yna y brenin a fawrygodd Ddaniel, ac a roddes iddo ef roddion mawrion lawer: ac efe ai gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaethau Babilon, ac yn ben swyddog ar holl ddoethion Babilon.

49Yna Daniel a ymbiliodd a’r brenin, ac yntef a osododd Sidrach, Misach, ac Abednego i lywodraethu talaith Babilon: a Daniel ym mhorth y brenin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help