Zacharias 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Adnewyddiad Ierusalem, ac Iuda.

1Derchefais fy llygaid, ac edrychais, ac wele ŵr, ac yn ei law linin mesur.

2A dywedais, i ba le’r ei di, ac efe a ddywedodd wrthif, i fesuro Ierusalem, i weled beth ei llêd hi, a pheth ei hŷd hi.

3Ac wele angel yr Arglwydd a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan: ac angel arall yn myned allan iw gyfarfod.

4Ac efe a ddywedodd wrtho ef, rhêd, a llefara wrth y llangc hwn gan ddywedyd: Ierusalem a gyfanneddir maes drefi rhac amled dŷn, ac anifail oi mewn.

5Canys byddaf fy hun yn fur o dân amgylchadwy iddi, medd yr Arglwydd, a byddaf yn ogoniant ynddi.

6Ho ho ffoiwch o wlad y gogledd medd yr Arglwydd, canys gwascerais chwi i bedwar gwynt y nefoedd medd yr Arglwydd.

7O Sion ymachub, yr hon ydwyt yn preswylio gyd â merch Babilon.

8Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, ar ôl y gogoniant i’m anfonodd at y cenhedloedd, y rhai a’ch yspeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi sydd yn cyffwrdd â Psal.17.8.chanwyll ei lygad.

9Canys wele fi yn escwyd fy llaw arnynt, a byddant yn sclyfaeth iw gweision eu hun, neu iw deiliaid eu hun: a chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd.

10Cân di a llawenycha merch Sion, canys wele fi yn dyfod: a mi a drigaf ynot medd yr Arglwydd.

11A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd, ac a fyddant bobl i mi: yna y trigaf ynot, a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd am hanfonod attat.

12A’r Arglwydd a etifedda Iuda, yn ei ran o’r tîr sanctaidd, ac a ddewis Ierusalem etto.

13Pob cnawd taw yng-ŵydd yr Arglwydd: canys cyfododd oi sanctaidd-le.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help