1Ym-mhen saith mlynedd gwna ollyngdod.
2Ac dymma wedd y gollyngdod: gollynged pob perchennog iw gymydog yn rhydd ei echwyn yr hyn a echwynodd, na fynned trachefn gan ei gymydog, neu ei frawd, canys cyhoeddwyd rhydd-did yr Arglwydd.
3Ti a elli fynnu trachefn gan y dieithr ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyd a’th frawd.
4Megis nabyddo o honot ti gardottyn, canys yr Arglwydd gan fendithio a’th fendithia di yn y tîr yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth iw orescyn.
5Yn vnic os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw gwneuthur yr holl orchymynnion ymma y rhai yr ydwyfi yn eu gorchymyn i ti heddyw.
6Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia megis ac y llefarodd wrthit, fel * y benthygiech i genhedloedd lawer, ac na fenthygiech di ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ar nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.
7Os bydd yn dy fysc di vn o’th frodyr yn dlawd o fewn vn o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it: na chaleda dy galon, ac na chaea dy law oddi wrth dy frawd tlawd.
8Onid gan agoryd Math.5.42. Luc.6.34agor dy law iddo, a chan fenthygio benthygia ddigon angen ef, yr hyn fydd eisieu arno.
9Gwilia arnat rhac bod yn dy galon ddim anuwiol i ddywedyd, agos yw y seithfed flwyddyn blwyddyn y gollyngdod, a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhac rhoddi iddo, a llefain o honaw ef ar yr Arglwydd rhagot, a bod pechod yn dy erbyn.
10Gan roddi dodiddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddech iddo: canys o achos y peth hyn i’th fendithia’r Arglwydd dy Dduw dy di yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno.
11Canys ni Math.26.11.dderfydd tlawd o ganol y tîr, am hynny’r ydwyfi yn gorchymyn i ti ganddywedyd: gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus, ac i’th dlawd yn dy dîr.
12 Exod.21.2. Ierem.34.14. Pan werther dy frawd yn Hebread neu yn Hebræes i ti, a’th wasanaethu chwe blynedd, y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthit.
13A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthit, na ollwng ef yn wâg.
14Gan lwytho llwytha ef o’th braidd, ar o’th, yscubor, ac o’th wryf: o’r hyn i’th fendithio’r Arglwydd dy Dduw dod iddo.
15A chofia mai gwâs fuost yn nhîr yr Aipht, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw: am hynny’r ydwyf yn gorchymyn y peth hyn ti heddyw
16Ond os dywed wrthit nid âf allan oddi wrthit, am iddo dy hoffi di, a’th dŷ, o herwydd bod yn dda arno ef gyd a thi:
17Yna Exod.16.6.* cymmer fynawyd, a dod trwy ei glust ef ac yn y ddôr, a bydded yn wâs i ti * bŷth, felly hefyd y gwnei i’th forwyn.
18Na fydded trwm gennit ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthit, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gwenidog y chwe blynnedd: a’r Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelech.
19Pob cyntaf-anedic yr hwn a ênir o’th warthec, neu o’th ddefaid yn wryw a gyssegri di i’r Arglwydd dy Dduw: na weithia a chyntaf-anedic dy ychen, ychen, ac na chneifia gyntaf-anedic dy ddefaid.
20Ger bron yr Arglwydd dy Dduw y bwyttei ef bob blwyddyn, yn y lle’r hwn a ddewiso yr Arglwydd, ti a’th deulu.
21Ond Leuit.22.24.|LEV 22:24. Deut.17.1.|DEU 17:1. Preg.35.14.(sic.)os bydd anaf arno, cloff, neu ddall fydd, rhyw ddrwg anaf na abertha ef i’r Arglwydd dy Dduw.
22O fewn dy byrth y bwytteief, yr aflân a’r glân yng-hyd megis yr iwrch, ac megis y carw.
23Etto na fwytta ei waed ef, tywallt hwnnw ar y ddaiar fel dwfr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.